Neidio i'r prif gynnwy

Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyddestunau

Lefel 2

Dewch o hyd i ganolfan

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau o fewn 30 milltir i'ch lleoliad. Ceisiwch eto gan ddefnyddio cod post arall i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?

Lluniwyd y cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau yn bennaf ar gyfer dysgwyr ôl-16 sy'n awyddus i ddysgu mwy am y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'n addas i ddysgwyr sydd wedi ennill cymhwyster Lefel 1 neu nad oes ganddynt unrhyw wybodaeth flaenorol am y sectorau gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.

Argymhellir yn gryf bod dysgwr sy'n ymgymryd â'r cymhwyster hwn wedi cwblhau neu wrthi'n cwblhau ar hyn o bryd y cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd.

Elderly Man And Carer

Mae'r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i feithrin a dangos eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u dealltwriaeth o fewn cyd-destun ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r cymhwyster yn cynnwys y materion cyfredol canlynol yn ymwneud â'r maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru:

  • agweddau corfforol, deallusol, emosiynol a chymdeithasol sy'n effeithio ar dwf a datblygiad ar draws cyfnodau bywyd unigolion
  • dylanwad ffactorau bywyd, dewisiadau ffordd o fyw a digwyddiadau bywyd ar dwf, iechyd a llesiant
  • ffactorau sy'n llunio hunangysyniad
  • rôl a phwrpas hybu iechyd a llesiant
  • anghenion unigolion ar draws holl gyfnodau bywyd
  • cyfleoedd a heriau yn lleol a ledled Cymru
  • rôl a chyfrifoldebau gweithwyr yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol
  • deddfwriaeth ac egwyddorion gofal a chymorth

Mae'n ofynnol i ddysgwyr ymgymryd ag o leiaf 60 awr o ymgysylltu â'r sector, y mae'n rhaid treulio o leiaf 30 awr o hynny yn ymgymryd â lleoliad gwaith. Gallai mathau eraill o ymgysylltu â'r sector gynnwys ymweliadau â'r gweithle, darlithwyr gwadd a mynychu cynadleddau a digwyddiadau allanol.

Cymhwyster unedol yw'r cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau sy'n caniatáu am elfen o asesu mewn camau. Mae'n cynnwys dwy uned orfodol:

Uned Teitl yr Uned Asesu
1 Hybu iechyd a llesiant drwy gydol camau bywyd Allanol
2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gefnogi darpariaeth sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ar gyfer gofal person-ganolog  

 

Asesir y cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau drwy 60% asesiad mewnol a 40% asesiad allanol. Rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:

  • aseiniad wedi'i osod yn allanol a'i farcio'n fewnol
  • arholiad allanol

Mae'r cymhwyster hwn yn cefnogi dilyniant i ddysgu/hyfforddiant a/neu gymwysterau pellach, gan gynnwys:

  • Tystysgrif a Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau
  • TAG Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant
  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
  • Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
  • Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
  • Prentisiaethau mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cysylltwch â ni

Karen Bushell

Swyddog Pwnc
IGCaGP@cbac.co.uk
029 2240 4264

Emma Vaughan

Swyddog Cefnogaeth Pwnc
IGCEaCh@cbac.co.uk
029 2240 4264

Dogfennau Allweddol
L2 Hsc Pc Sample Assessment Materials Internal Nea W 27052021
Deunyddiau Asesu Enghreifftiol (Asesiad Mewnol)

Gwerslyfrau

Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Archebu
Deunyddiau Cwrs
Hidlo yn ôl
Adborth ar asesiadau haf 2023

Deunyddiau Hyfforddi Mynychwyr Paratoi i Addysgu - Hydref 2019/20

Llawlyfr Gweinyddu CBAC

Mae'r Llawlyfr Gweinyddu hwn yn rhoi'r wybodaeth hanfodol i ganolfannau yng Nghymru ar gyfer gweinyddu'r cymwysterau a reolir gan CBAC.

Adroddiad Yr Arholwr (Haf 2023)

Adroddiad Yr Arholwr - Ionawr 2023

Adroddiad Yr Arholwr (Haf 2022)

Adroddiad Yr Arholwr (Ionawr 2022)

Adroddiad Yr Arholwr (Ionawr 2021)

Adroddiad Yr Arholwr (Ionawr 2020)

Cwestiynau Cynrychiolwyr (Hydref 2019)

Asesiad Di-arholiad Uned 2 2022 – Lefel 2 IGC: E a Ch

Lefel 2 IGC: Egwyddorion a Chyd-destunau – deddfwriaeth, ymgyrchoedd a mentrau iechyd

Cyflwyniad Noson Agored

Croeso i Lefel 2: Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau

Uned 2 asesiad di-arholiad taflen farciau a ffurflen datganiad - Aseiniad 1

Uned 2 asesiad di-arholiad taflen farciau a ffurflen datganiad - Aseiniad 2

Adroddiad Yr Arholwr - Ionawr 2024

Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.

Open Graph Images 2023 07 27T155643.524

Gwerslyfrau

Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Archebu