Amdanom ni

O fis Medi 2019 City & Guilds / CBAC fydd unig ddarparwr cyfres newydd o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant wedi'i hariannu yng Nghymru.

 

Mae City & Guilds / CBAC yn cyfuno cryfder dau sefydliad dyfarnu blaenllaw yn y farchnad cymwysterau a datblygu sgiliau. Ein cred yw i rymuso pobl gyda chyfleoedd i’r dyfodol, ein bwriad wrth ddatblygu a gweithredu'r gyfres newydd o gymwysterau yw helpu i helpu pobl i gael swydd, i ddatblygu yn y swydd a mynd ymhellach. Byddwn yn helpu i wneud hyn trwy:

  • hybu safonau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yng Nghymru
  • ddatblygu rhaglenni dysgu ac asesiadau sy'n bodloni anghenion cyflogwyr trwy eu rhoi wrth wraidd datblygiad
  • ddarparu llwybrau dilyniant clir i ddysgwyr fel eu bod yn deall eu camau gyrfa posib nesaf
  • gyflawni uchelgais grymuso cenedl sydd yn ddwyieithog.

Datganiad Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Ein cenhadaeth yw darparu cymwysterau, adnoddau a gwasanaethau o ansawdd uchel a fydd yn cynorthwyo canolfannau i alluogi eu dysgwyr i gyflawni eu potensial ac i ddiwallu anghenion gweithle heddiw ac yfory. Darllenwch fwy yn ein Siarter Gwasanaeth Cwsmeriaid.

Dwi’n chwilio am:

Cefnogaeth i ddysgwyr

Os ydych chi'n astudio cymhwyster mewn Iechyd, a Gofal Cymdeithasol neu Ofal Plant, neu gyda diddordeb dysgu mwy am y gyfres newydd o gymwysterau, ewch i dudalen gwe'r Dysgwyr.

Cefnogaeth i gyflogwyr

Am ragor o wybodaeth am y cymwysterau newydd a sut y gallai'r gyfres newydd gael effaith ar eich sefydliad ewch i dudalen gwe'r Cyflogwyr.

Cefnogaeth i ganolfannau / darparwyr hyfforddiant

I gael gwybodaeth am y gyfres newydd o gymwysterau a sut y gallant gael effaith ar eich sefydliad, ewch i dudalen gwe ar gyfer Canolfannau / Darparwyr Hyfforddiant.

Tanysgrifiwch am ddiweddariadau

Tanysgrifio