Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd

Mae diogelu data yn rhywbeth y mae City & Guilds a CBAC yn ei gymryd o ddifrif, ac rydym wedi ymrwymo i fod yn ddiffuant a gonest yn ein hagwedd at breifatrwydd. Yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn nodir sut byddwn yn ymdrin â'r data personol y byddwch chi'n eu rhoi i ni i gydymffurfio â chyfraith diogelu data perthnasol, y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (UE) 2016/679 (“GDPR”) yn benodol. 

Pwy ydym ni?

City and Guilds of London Institute ("City & Guilds") a WJEC CBAC Limited ("CBAC"), y naill a'r llall yw 'rheolydd data' annibynnol y data personol yr ydych yn eu rhoi i ni mewn perthynas â darpariaeth cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru drwy Ganolfannau Cymeradwyedig City & Guilds. 

Elusen a ymgorfforwyd drwy Siarter Brenhinol yw City & Guilds, a gofrestrwyd fel elusen rhif 312832 (Cymru a Lloegr) a SC039576 (Yr Alban). Cyfeiriad cofrestredig City & Guilds yw Giltspur House, 5-6 Giltspur Street, London, EC1A 9DE. I wneud unrhyw ymholiadau am y Polisi hwn, y ffordd y mae City & Guilds yn prosesu data personol, neu am arfer unrhyw hawliau sydd gennych, anfonwch neges e-bost at gdpr@cityandguilds.com  neu ysgrifennwch at Data Protection, City & Guilds, Giltspur House, 5-6 Giltspur Street, London, EC1A 9DE.

Cwmni a ymgorfforwyd yng Nghymru a Lloegr yw CBAC dan y rhif cwmni cofrestredig 3150875. Mae swyddfa gofrestredig CBAC yn 245 Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd CF5 2YX. Swyddog Diogelu Data CBAC yw Ian Morgan, Cyfarwyddwr TG. Gallwch gysylltu ag ef drwy anfon e-bost at gdpr@wjec.co.uk.

Pa ddata personol yr ydym yn eu casglu?

Os byddwch yn gwneud ymholiad am, neu'n tanysgrifio i dderbyn, ein cynhyrchion a gwasanaethau, yna byddwn yn casglu eich enw, eich cyfeiriad e-bost a'ch rôl swydd. Efallai y dewiswch hefyd ddarparu eich rhif ffôn. Nid ydym yn casglu unrhyw ddata personol sensitif amdanoch.

At ba ddibenion y byddwn yn defnyddio eich data personol?

Dibenion contract 

Os ydych wedi cofrestru i dderbyn ein cynhyrchion a gwasanaethau, efallai y byddwn yn defnyddio eich data personol i wneud y canlynol:

  • darparu'r cynhyrchion a gwasanaethau dan gontract i chi;
  • cyfathrebu â chi mewn perthynas â darpariaeth y cynhyrchion a gwasanaethau dan gontract;
  • anfon cylchlythyrau, arolygon, digwyddiadau, cynigion arbennig, deunydd hyrwyddo atoch, yn ymwneud â'r cynhyrchion a gwasanaethau ac yn ymwneud â chynhyrchion a gwasanaethau eraill y gallent fod o ddiddordeb i chi; a
  • chyfathrebu â chi at ddibenion gweinyddol fel creu cyfrifon, diogelwch, a chefnogaeth.

Buddiannau dilys

Gallwn brosesu eich data personol at ddibenion sy'n rhan o'n buddiannau dilys, gan gynnwys:

  • anfon cylchlythyrau, arolygon, digwyddiadau, cynigion arbennig, deunydd hyrwyddo atoch, yn ymwneud â'n cynhyrchion a gwasanaethau y gallent fod o ddiddordeb i chi;
  • gwella safon y profiad y byddwch yn ei gael wrth i chi ddefnyddio ein cynhyrchion a gwasanaethau, gan gynnwys profi dyluniadau tudalennau gwahanol i weld pa un sy'n perfformio'n well;
  • cynnal dadansoddeg data, gan benderfynu pa mor effeithiol yw ymgyrchoedd hyrwyddo.

Efallai y bydd gennych yr hawl i wrthwynebu'r prosesu hwn os dymunwch, mae manylion pellach i'w gweld dan y pennawd Eich Hawliau.

Cyfathrebiadau marchnata 

Os ydych wedi rhoi eich cydsyniad penodol i dderbyn cyfathrebiadau marchnata, efallai y byddwn yn defnyddio eich data personol i wneud y canlynol:

  • anfon cylchlythyrau, arolygon, digwyddiadau, cynigion arbennig, deunydd hyrwyddo atoch, yn ymwneud â'n cynhyrchion a gwasanaethau y gallent fod o ddiddordeb i chi;
  • datblygu, gwella a dosbarthu deunydd marchnata a hysbysebu ar gyfer y cynhyrchion a gwasanaethau.

Dibenion cyfreithiol

Efallai y byddwn hefyd yn prosesu eich data personol yn ôl gofynion y gyfraith, gan gynnwys ymateb i geisiadau gan lywodraeth neu awdurdodau gorfodi'r gyfraith, neu i atal trosedd neu dwyll.

Am faint o amser y byddwn ni'n cadw eich data personol?

Byddwn yn cadw eich data personol am gyfnod y contract ac am gyfnod o chwe blynedd ar ôl ei derfynu neu ar ôl iddo ddod i ben er mwyn i ni allu sicrhau ein bod yn gallu cydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol, gofynion archwilio, gofynion rheoleiddiol neu orchmynion llysoedd ag awdurdod digonol.

Gallwch dynnu'n ôl o dderbyn cyfathrebiadau marchnata ar unrhyw adeg drwy glicio ar y cyswllt yn yr e-bost perthnasol.

Gyda phwy y byddwn ni'n rhannu eich data personol?

Efallai y byddwn yn rhannu eich data â thrydydd partïon dibynadwy, yn eu plith:

  • ein isgwmnïau cyfreithiol a/neu gwmnïau cysylltiedig;
  • ymgynghorwyr cyfreithiol neu ymgynghorwyr proffesiynol eraill, ymgynghorwyr ac arbenigwyr;
  • darparwyr gwasanaethau sydd dan gontract i ni mewn perthynas â darparu'r cynhyrchion a gwasanaethau megis darparwyr gwasanaethau TG a gwasanaethau rheoli cysylltiadau cwsmeriaid; a
  • darparwyr dadansoddeg a pheiriannau chwilio sy'n ein cynorthwyo i wella a gwneud y defnydd gorau o'r wefan.

Byddwn yn sicrhau bod contract yn ei le gyda phob un o'r derbynwyr data hyn sy'n sicrhau cyfrinachedd, diogelwch a phrosesu cyfreithlon yr holl ddata personol a rennir â nhw.

Os byddwn yn rhannu data personol ag is-gwmnïau / cwmnïau cysylltiedig a leolir y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop, byddwn yn sicrhau y defnyddir dulliau diogelu priodol i warchod trosglwyddiad data personol. I wneud hyn defnyddir cymalau diogelu data safonol a fabwysiadwyd neu a gymeradwywyd gan y Comisiwn Ewropeaidd.

Beth yw eich hawliau?

Mae gennych amrywiol hawliau mewn perthynas â'r defnydd o'ch data personol:

  • Mynediad: Mae gennych yr hawl i ofyn am gopi o'r data personol a gedwir amdanoch chi. Sylwer os gwelwch yn dda bod rhai eithriadau i hyn. Gellir atal mynediad, er enghraifft, os byddai darparu'r data i chi yn datgelu data personol am unigolyn arall, neu os ydym wedi'n hatal yn gyfreithiol rhag datgelu gwybodaeth o'r fath. Mae hawl gennych i weld y data personol a gedwir amdanoch chi. Os dymunwch wneud hyn, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.
  • Manwl gywirdeb: Bwriadwn gadw eich data personol yn gywir, cyfredol a chyflawn. Cewch eich annog i ddefnyddio'r manylion cyswllt isod i gysylltu â ni i'n hysbysu os nad yw eich data personol yn gywir neu'n newid, fel y gallwn gadw eich data personol yn gyfredol.
  • Gwrthwynebu: Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol ac i ofyn i ni atal, dileu a chyfyngu ar eich data personol. Defnyddiwch y manylion cyswllt isod os hoffech i ni stopio defnyddio eich data personol.
  • Trosglwyddo: Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych yr hawl i ofyn am gael darparu rhywfaint o'ch data personol, i chi neu i reolydd data arall, mewn fformat cyffredin, y gellir ei ddarllen gan beiriant. Os hoffech wneud cais i drosglwyddo eich data personol i chi, defnyddiwch y manylion isod i gysylltu â ni.
  • Dilead: Mae gennych yr hawl i ddileu eich data personol pan nad oes angen y data hynny mwyach at ddibenion eu casglu, neu os cafodd eich data personol eu prosesu'n anghyfreithlon, ymhlith pethau eraill. Os hoffech wneud cais i ddileu eich data personol, defnyddiwch y manylion isod i gysylltu â ni.
  • Cwynion: Os credwch fod eich hawliau diogelu data wedi'u torri o bosibl, mae gennych yr hawl i gyflwyno cwyn i'r awdurdod goruchwyliol perthnasol neu i geisio cael adferiad drwy'r llysoedd. Ewch i https://ico.org.uk/concerns/ i gael gwybod mwy am sut i gyflwyno achos pryder i Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth y DU.

Sylwer os gwelwch yn dda bod eithriadau i'r hawliau hyn, er enghraifft, rydym yn rhwym yn gyfreithiol i barhau i brosesu eich data personol.

Newidiadau i'n polisi preifatrwydd

Os gwneir unrhyw newidiadau yn y dyfodol i'n Polisi, bydd y newidiadau hynny i'w gweld ar y dudalen hon a lle y bo'n briodol gwneud hynny, anfonir neges e-bost atoch. Cofiwch edrych ar y dudalen hon yn aml i weld unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i'n Polisi.