Neidio i'r prif gynnwy

Trefniadau ar gyfer 2023

Newidiadau i asesiadau Craidd HSCCC lefel 2

Rydyn ni wedi gwneud newidiadau i’r asesiadau yn dilyn ymgynghoriad ac adborth gan y sector. Mae Cymwysterau Cymru wedi cytuno i ni newid y strategaeth asesu ar gyfer y cymwysterau canlynol:

  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
  • Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd

Bydd angen i unrhyw ddysgwyr sy’n cwblhau’r cymwysterau Craidd gwblhau’r asesiadau llai yn unig ar unwaith, sef y canlynol:

Llwybrau oedolion a phlant a phobl ifanc Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn ogystal â Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

  • Un astudiaeth achos a’r prawf cwestiynau amlddewis

Llwybr cyfun Iechyd a Gofal Cymdeithasol

  • Dwy astudiaeth achos a’r prawf cwestiynau amlddewis

Bydd darparwyr cymeradwy yn parhau i ddarparu cyfleoedd dysgu ac addysgu i ddysgwyr ar draws cynnwys llawn y cymhwyster.

Bydd gofyn i chi hefyd droi’r astudiaeth achos rydych chi wedi’i dewis er mwyn sicrhau bod cynnwys llawn y cymhwyster yn cael ei asesu dros amser. Rhaid i’r Swyddog Sicrhau Ansawdd Allanol gymeradwyo unrhyw strategaethau i gyflawni hyn.

Bydd y diwygiad hwn ar waith tan 31 Rhagfyr 2023.

Dylai canolfannau gyflwyno canlyniadau drwy Walled Garden erbyn 30 Tachwedd 2023 er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cael eu hardystio erbyn 31 Rhagfyr 2023

Trefniadau ar gyfer asesu’r cymwysterau Craidd o 01 Ionawr 2024 ymlaen

Bydd dysgwyr sy’n barod i gael eu hasesu o 1 Ionawr 2024 ymlaen yn cael eu hasesu drwy gwestiynau amlddewis yn unig.  Bydd elfen asesu mewnol (astudiaethau achos) o’r cymwysterau Craidd yn cael ei dileu’n barhaol o’r diwrnod hwn ymlaen. 

Mae’r cwestiynau amlddewis bellach yn gyfrwng asesu cyfarwydd i ddysgwyr/canolfannau. Yn ystadegol, mae’r cwestiynau amlddewis a’r gwahanol fersiynau o’r prawf yn dangos dibynadwyedd cryf o ran canlyniadau (cyfraddau pasio cyson).  Mae hyn yn rhoi hyder i ddysgwyr ynghylch dilysrwydd/dibynadwyedd y cwestiynau amlddewis fel cyfrwng asesu, ac yn rhoi’r gallu i ddysgwyr gael mynediad at y math hwn o asesiad. Bydd y newid parhaol hwn i’r strategaeth asesu yn lleihau’r baich asesu yn sylweddol ar ddarparwyr a dysgwyr.  

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd ardystio dysgwyr yn digwydd yn awtomatig, yn dilyn canlyniad llwyddiannus o’r cwestiynau amlddewis. Bydd hyn yn lleihau’r pwyslais ar y Swyddog Sicrhau Ansawdd Allanol gan alluogi cynnydd symlach ar yr un pryd. 

Sylwch: pan fydd fersiwn newydd o’r asesiad ar gael, ni ellir cyhoeddi canlyniadau dysgwyr ar unwaith. Yn yr amgylchiadau hyn, efallai na fydd canlyniadau dysgwyr ar gael am hyd at 20 diwrnod er mwyn sicrhau ansawdd, ond byddant wedyn yn cael eu rhyddhau’n awtomatig.

Byddwn ni’n diweddaru manylebau’r cymwysterau a’r pecynnau asesu wrth i bob newid ddigwydd.  Bydd unrhyw newidiadau’n cael eu rhestru yn y tabl rheoli fersiynau ar ddechrau’r llawlyfr cymwysterau ac mewn dogfennau a deunyddiau cysylltiedig eraill. 

Rhaid i ddarparwyr cymeradwy sicrhau bod eu dysgwyr a’u timau cyflawni yn gallu cael gafael ar y fersiwn ddiweddaraf o lawlyfrau a phecynnau asesu’r cymwysterau, sydd ar gael ar y dudalen cymwysterau berthnasol ar wefan HCLW.

Diweddariad pwysig: Diwygio cymwysterau Ymarfer

Hoffem ni dynnu eich sylw at newidiadau sydd wedi’u gwneud yn y canllawiau cyflwyno asesiadau (v2-0) a’r llawlyfrau cymwysterau canlynol ar gyfer y cymwysterau yn y rhestr isod.

Newidiadau i’r canllawiau ar gyfer cyflwyno asesiadau:

  • Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
  • Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
  • Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
  • Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
  • Lefel 2 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Oedolion
  • Lefel 3 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Oedolion
  • Lefel 3 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Plant a Phobl Ifanc

Newidiadau i’r llawlyfr cymwysterau:

  • Lefel 2 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Oedolion (v2-0)
  • Lefel 3 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Oedolion (v2-0)
  • Lefel 3 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Plant a Phobl Ifanc (v3-0)

Lefel 2/3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer ac Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cadarnhau parodrwydd dysgwyr ar gyfer cael eu hasesu: Oherwydd yr heriau parhaus sy’n wynebu’r sector yn ystod y cyfnod hwn, rydyn ni wedi penderfynu diwygio’r broses y mae’n rhaid i aseswyr ei dilyn wrth benderfynu a yw dysgwyr yn barod ar gyfer cael eu hasesu. 

Ceir amlinelliad o’r newidiadau hyn yn Adran 3 y canllawiau ar Gyflwyno’r Asesiadau

Cymwysterau Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn unig

Yn dilyn ymgynghoriad eang â’r sector - ar y cyd â Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru, yn ogystal â chael cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Cymwysterau a Safonau - rydyn ni’n falch o gadarnhau bod amrediad o unedau ychwanegol wedi cael eu hychwanegu at Grŵp Dewisol A yn y cymwysterau canlynol:

Cyn cefnogi dysgwyr i gwblhau unrhyw un o’r unedau ychwanegol hyn, rhaid i ddarparwyr cymeradwy sicrhau yn gyntaf bod aseswyr yn gymwys yn alwedigaethol ac ar gael i asesu’r dysgwyr. Bydd rhaid i hyn gael ei gadarnhau gan eu Swyddog Sicrhau Ansawdd Allanol.

Dylid asesu’r holl unedau newydd drwy’r tasgau sydd wedi’u gosod ymlaen llaw. 

Mae’r holl newidiadau wedi cael eu rhestru yn y tabl rheoli fersiynau ar ddechrau’r llawlyfr cymwysterau, yn y pecynnau asesu cysylltiedig a/neu yn y canllawiau cyflwyno asesiadau. Mae’r rhain ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan HCLW. 

Rhaid i ddarparwyr cymeradwy sicrhau bod eu dysgwyr a’u timau cyflawni yn gallu cael gafael ar y fersiwn ddiweddaraf o ddeunyddiau a dogfennau’r cymhwyster.

  • Dwy astudiaeth achos (un astudiaeth achos - plant a phobl ifanc ac un astudiaeth achos - oedolion) a'r prawf amlddewis