Neidio i'r prif gynnwy

Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd

Lefel 2

Dewch o hyd i ganolfan

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau o fewn 30 milltir i'ch lleoliad. Ceisiwch eto gan ddefnyddio cod post arall i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Trosolwg o’r cymhwyster

Mae’r cymhwyster wedi ei ddatblygu ar gyfer unigolion sy’n gweithio neu’n bwriadu gweithio yn y sectorau gofal iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n targedu dysgwyr mewn dysgu seiliedig ar waith, addysg bellach, a chweched dosbarth mewn ysgolion. Bydd yn galluogi dysgwyr i geisio am gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel gweithwyr gofal cymdeithasol mewn gofal cartref neu ofal preswyl i blant oni bai eu bod yn cyrraedd unrhyw ofynion cofrestru ychwanegol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i https://socialcare.wales/registration

Open Graph Images 2023 07 26T124957.576

Mae’n addas ar gyfer

  • Dysgwyr 16+ oed sy’n gweithio neu’n bwriadu gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol
  • gweithiwr gofal cymdeithasol (oedolion)
  • gweithiwr gofal cymdeithasol (plant a phobl ifanc)
  • gweithiwr cymorth gofal iechyd
  • cynorthwyydd gofal iechyd


Mae’n argymelledig bod dysgwyr yn cwblhau’r cymhwyster craidd cyn, neu ochr yn ochr â’r cymwysterau eraill o fewn y gyfres gan y bydd hwn yn ofyniad am ymarfer sydd wedi ei osod gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd hwn hefyd yn nodwedd o’r Brentisiaeth Sylfaenol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Bydd y cymhwyster yn darparu cyflwyniad trylwyr o egwyddorion, gwerthoedd a gwybodaeth sydd eu hangen i weithio yn y sectorau gofal iechyd a gofal cymdeithasol gydag oedolion a phlant a phobl ifanc.

Mae cynnwys y cymhwyster yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a dealltwriaeth o:

  • egwyddorion a gwerthoedd craidd sy’n tanategu ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol;
  • ffyrdd o weithio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol;
  • ymarfer effeithiol o fewn iechyd a gofal cymdeithasol;
  • llwybrau cynnydd am astudiaeth bellach neu gyflogaeth o fewn diogelu Iechyd a Gofal Cymdeithasol

    Mae gan y cymhwyster tri llwybr:
  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd (Oedolion)
  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd (Plant a Phobl Ifanc)
  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd (Oedolion a Phlant a Phobl Ifanc)

    Gall dysgwyr dewis i gwblhau llwybrau unigol sy’n gweddu eu huchelgais gyrfa neu gallan nhw ddewis i gwblhau cymhwyster cyfunol sydd â chynnwys sy’n addas ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant a phobl ifanc.

I gwblhau llwybrau (Oedolion) a (Plant a Phobl Ifanc) o fewn y cymhwyster hwn, mae’n rhaid i ymgeiswyr gyflawni:

  • Un prawf aml ddewis sydd wedi ei lunio’n allanol ac yn cael ei farcio’n allanol

I gwblhau’r llwybr (Oedolion a Phlant a Phobl Ifanc) o fewn y cymhwyster, Mae’n rhaid i ymgeiswyr gyflawni:

  • Dau brawf dewis lluosog i'w gosod yn allanol a'u marcio'n allanol

Wrth gwblhau’r cymhwyster mi fydd yn darparu sail eang o wybodaeth ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd yn darparu’r wybodaeth i barhau i:

  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Egwyddorion a Chyd-destunau
  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Egwyddorion a Chyd-destunau (Oedolion/Plant a Phobl Ifanc)
  • TGAU Uwch a TGAU Atodol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant

Cysylltwch â ni

Dysgwyr/Canolfannau Newydd


hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930801

Canolfannau Presennol


hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930800

Dogfennau Allweddol
Sam (1)
Deunyddiau Asesu Enghreifftiol

Rydyn ni wedi gwneud newidiadau i asesiadau Craidd HSCCC lefel 2 - Darllenwch mwy

Gweld y Cwestiynau Cyffredin

Deunyddiau Cwrs
Hidlo yn ôl
Dehongli Adroddiad Sgôr

Mynd yn Groes i’r Cyfarwyddyd

Adroddiad Arholwyr (Awst 2023)

Adroddiad Arholwyr (Chwefror 2023)

Adroddiad Arholwyr (Awst 2022)

Adroddiad Arholwyr (Chwefror 2022)

Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.

Open Graph Images 2023 07 27T155643.524
Digwyddiad Cyswllt
Gweminar - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cliciwch yma i weld

Rydyn ni wedi gwneud newidiadau i asesiadau Craidd HSCCC lefel 2 - Darllenwch mwy

Gweld y Cwestiynau Cyffredin