Neidio i'r prif gynnwy

Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori (I'w Ardystio o 2025 Ymlaen)

Lefel 3

Dewch o hyd i ganolfan

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau o fewn 30 milltir i'ch lleoliad. Ceisiwch eto gan ddefnyddio cod post arall i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Mae'r cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol o'r maes gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant â'r sgiliau ymarferol sy'n angenrheidiol ar gyfer gweithio yn y sector.

Mae wedi'i gynllunio'n bennaf ar gyfer dysgwyr ôl-16 mewn addysg bellach sydd:

  • â diddordeb mewn gweithio mewn rôl gymorth yn y sector gofal plant
  • yn astudio, neu sydd wedi cwblhau'r cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd
  • yn dychwelyd i'r gweithle ar ôl seibiant gyrfa sydd am fireinio eu gwybodaeth a'u sgiliau yn y sector gofal plant.

Mae'r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer dysgwyr sydd wedi ennill cymhwyser Lefel 2 gan gynnwys y cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori neu nad oes ganddynt unrhyw wybodaeth flaenorol am y sectorau gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.

Cynghorir dysgwyr nad ydynt eto wedi cyflawni cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd yn gryf i wneud hynny cyn y cymhwyster hwn neu ar yr un pryd.

Learning Cym

Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i gael gwaith a/neu i symud ymlaen mewn gyrfa mewn lleoliadau gofal plant neu iechyd.

Mae'n cyfuno'r ddwy uned ymarfer sy'n cael eu hasesu yn y gweithle â chyfleoedd i datblygu'r sgiliau sylfaenol y mae eu hangen i weithio â phlant yn ogystal â gwybodaeth ddamcaniaethol ychwanegol.  .

Mae elfen ymarfer y cymhwyster hwn yn cyfateb i'r hyn a geir yn y cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer. Mae'r agwedd ddamcaniaethol yn canolbwyntio ar egwyddorion a theorïau sy'n dylanwadu ar iechyd, llesiant a datblygiad plant a sut gallai'r sector gofal plant a iechyd plant ymateb i holl anghenion plant 0-19 mlwydd oed.

Drwy gwblhau'r cymhwyster hwn, bydd dysgwyr yn gallu dangos eu bod yn:

  • deall, ac yn gallu defnyddio wrth ymarfer, yr egwyddorion a'r gwerthoedd sy'n sail i ofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant
  • deall, ac yn gallu defnyddio wrth ymarfer, dulliau plant-ganolog i ofal, chwarae a dysgu
  • gallu hybu a chefnogi datblygiad plant drwy eu hymarfer eu hunain
  • gallu gwerthuso ymchwil a damcaniaethau i gefnogi ymarfer
  • ymwybodol o bolisïau allweddol yn y sector a sut mae'r rhain yn effeithio ar ddatblygu a darparu gwasanaethau
  • gallu gweithio mewn partneriaeth â phlant, eu teuluoedd, gofalwyr ac amrywiaeth o weithwyr proffesiynol
  • gallu myfyrio ar ymarfer i barhau i wella
  • gallu defnyddio amrywiaeth o dechnegau datrys problemau
  • gallu defnyddio sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol fel sy'n briodol yn eu rôl.

Mae'n ofynnol i ddysgwyr gwblhau o leiaf 700 awr o leoliad gwaith er mwyn cyflawni'r cymhwyster hwn.

Mae'r cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori yn caniatáu i ddysgwyr gyfuno unedau gorfodol ag amrediad eang o unedau dewisol yn dibynnu ar eu lleoliad gwaith neu ddyheadau gyrfa at y dyfodol.

Yr unedau gorfodol yw:

Uned Teitl yr Uned
300 Hybu ymarfer craidd yn y maes gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant
301 Hybu chwarae, dysgu, twf a datblygiad
302 Hybu maeth a hydradiad yn y blynyddoedd cynnar
303 Ymateb i afiechyd, pla/haint, clefyd ac imiwneiddio mewn plentyndod

Gydag o leiaf un o'r canlynol:

304 Hybu gofal plant 0-2 oed
305 Hybu gofal plant 2-3 oed
306 Hybu gofal plant 3-7 oed

Ynghyd â'r uned theori orfodol ganlynol:

330 Egwyddorion a damcaniaethau sy'n dylanwadu ar ofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant yn yr 21ain ganrif yng Nghymru
331 Ymchwilio i faterion cyfredol yn y maes gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant yng Nghymru
332 Sgiliau Ymarferol Blynyddoedd Cynnar ar gyfer Lleoliad Gwaith (0-7 oed)

Mae gwybodaeth bellach am y gofynion ar gyfer ennill y cymhwyster i'w chael ym manylebau'r cymhwyster. Rhaid i ganolfannau sicrhau bod dysgwyr yn cwblhau'r nifer lleiaf o gredydau o'r unedau ymarfer er mwyn ennill y cymhwyster.

Bydd y cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori yn cael ei asesu drwy asesiad mewnol (70%) ac asesiad allanol (30%). Rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:

  • cyfres o dasgau strwythuredig ar gyfer yr unedau ymarfer, wedi'u gosod yn allanol a'u marcio'n fewnol
  • portffolio o dystiolaeth ar gyfer yr unedau ymarfer
  • trafodaeth â'u haseswr ar gyfer yr ymarfer
  • portffolio o dystiolaeth ar gyfer Uned 332

Rhaid cofrestru ymgeiswyr ar gyfer

  • arholiad allanol Uned 330
  • ymchwiliad estynedig Uned 331, wedi'i osod a'i farcio'n allanol

Gellir llwytho pecyn asesu yn rhoi manylion y gofynion asesu mewnol ar gyfer yr unedau ymarfer o'r tab dogfennau allweddol a deunyddiau cefnogi ar dudalen y cymhwyster ar y wefan.

Mae cwblhau'r cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori yn cynnig sylfaen addas ar gyfer astudio blynyddoedd cynnar a gofal plant drwy amrywiaeth o gyrsiau addysg uwch neu brentisiaethau.

Cysylltwch â ni

Amy Allen-Thomas

Swyddog Pwnc
gchddp@cbac.co.uk
029 2240 4264

Tania Lucas

Swyddog Cefnogaeth Pwnc
gchddp@cbac.co.uk
029 2240 4264

Dogfennau Allweddol
Canllaw Addysgu
Canllaw Addysgu
Deunyddiau Cwrs
Hidlo yn ôl
Taflen Ddilysu Ymgeisydd: GCDDP: Ymarfer a Theori - Uned 332

Uned 332 – Cynllun Cyflwyno Enghreifftiol

Uned 331 Taflen Amser

Uned 331 Arholiad - Ionawr 2024 (yn cynnwys Testunau, Cynllun Marcio, Adolygiad Arholiad Ar-lein ac Adroddiad yr Arholwr)

Uned 330 Arholiad - Ionawr 2024 (yn cynnwys Papur Cwestiynau, Cynllun Marcio, Adolygiad Arholiad Ar-lein ac Adroddiad yr Arholwr)

Uned 330 Arholiad - Haf 2023 (yn cynnwys Papur Cwestiynau, Cynllun Marcio, Adolygiad Arholiad Ar-lein ac Adroddiad yr Arholwr)

Uned 331 Arholiad - Haf 2023 (yn cynnwys Adroddiad yr Arholwr, Testunau, Cynllun Marcio, Adolygiad Arholiad Ar-lein ac Enghreifftiau Cymraeg)

Uned 331 Arholiad - Haf 2022 (yn cynnwys Papur Cwestiynau, Cynllun Marcio, Adolygiad Arholiad Ar-lein ac Adroddiad yr Arholwr)

Uned 330 Arholiad - Haf 2022 (yn cynnwys Papur Cwestiynau, Cynllun Marcio, Adolygiad Arholiad Ar-lein ac Adroddiad yr Arholwr)

Uned 330 Arholiad - Ionawr 2022 (yn cynnwys Papur Cwestiynau, Cynllun Marcio, Adolygiad Arholiad Ar-lein ac Adroddiad yr Arholwr)

Uned 330 Arholiad - Ionawr 2021 (yn cynnwys Papur Cwestiynau, Cynllun Marcio, Adolygiad Arholiad Ar-lein ac Adroddiad yr Arholwr)

Uned 330 Arholiad - Hydref 2021 (yn cynnwys Papur Cwestiynau, Cynllun Marcio, Adolygiad Arholiad Ar-lein ac Adroddiad yr Arholwr)

Uned 330 Adroddiad Yr Arholwr - Ionawr 2023

Uned 331 Adroddiad Yr Arholwr - Ionawr 2023

Ewch i'n tudalen Hyfforddiant a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.

Recordiadau Gweminar
Digwyddiad Cyswllt
GChDDP Lefel 3: Uned 330 Ymarfer a Theori Rhwydwaith y Gwanwyn (2024) Cliciwch yma i weld
GChDDP Lefel 3: Uned 331 Ymarfer a Theori Rhwydwaith y Gwanwyn (2024) Cliciwch yma i weld