UG/Uwch Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant
TAG UG/UDefnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau o fewn 30 milltir i'ch lleoliad. Ceisiwch eto gan ddefnyddio cod post arall i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?
Mae'r cymhwyster TAG UG a Safon Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yn addas ar gyfer dysgwyr ôl-16 sydd â diddordeb mewn dysgu am ddatblygiad a gofal unigolion drwy gydol oes o adeg cenhedlu i oedolaeth ddiweddarach.
Bydd dysgwyr yn dilyn astudiaeth eang o iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant ar lefel UG, ac wedyn gallant ddewis rhwng dau lwybr ar lefel U2 i ddatblygu dyfnder gwybodaeth a dealltwriaeth naill ai mewn gofal plant neu iechyd a gofal cymdeithasol oedolion.
Mae'r cymhwyster yn cynnig llwybr dilyniant addas ar gyfer dysgwyr sydd wedi astudio cymwysterau Lefel 2 yn y gyfres iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant gan gynnwys:
- TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant
- Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau
- Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
- Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd, neu
- Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd.
Mae'r cymhwyster TAG UG a Safon Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant hefyd yn addas ar gyfer dysgwyr nad ydynt wedi astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol o'r blaen ond sydd â'r gallu i astudio Lefel 3.
Mae'r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i feithrin a dangos eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u dealltwriaeth o fewn cyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant.
Mae'r materion cyfredol canlynol wedi'u cynnwys yn y fanyleb:
- hybu iechyd a llesiant
- cefnogi iechyd, llesiant a gwydnwch yng Nghymru
- persbectifau damcaniaethol ar ddatblygiad plant a phobl ifanc
- cefnogi datblygiad, iechyd, llesiant a gwydnwch plant a phobl ifanc
- persbectifau damcaniaethol ar ymddygiad oedolion
- cefnogi oedolion i gynnal iechyd, llesiant a gwydnwch
Mae'r cymhwyster TAG UG a Safon Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant wedi'i rannu'n gyfanswm o chwe uned, dwy uned UG (Uned 1 ac Uned 2) a phedair uned U2 (unedau 3, 4, 5 a 6). Mae dysgwyr Safon Uwch yn astudio cyfanswm o bedair uned: dwy uned UG ynghyd â'r ddwy uned U2 yn ymwneud â'r llwybr a ddewiswyd ganddynt.
Uned | Teitl yr Uned | Asesu |
1 | Hybu iechyd a llesiant | Allanol |
2 | Cefnogi iechyd, llesiant a gwydnwch yng Nghymru | Mewnol |
3 | Persbectifau damcaniaethol ar ddatblygiad plant a phobl ifanc | Allanol |
4 | Cefnogi datblygiad, iechyd, llesiant a gwydnwch plant a phobl ifanc |
Mewnol |
5 | Persbectifau damcaniaethol ar ymddygiad oedolion | Allanol |
6 | Cefnogi oedolion i gynnal iechyd, llesiant a gwydnwch plant a phobl ifanc |
Mewnol |
Mae 50% o'r cymhwyster TAG UG a Safon Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yn cael ei asesu'n fewnol a 50% yn cael ei asesu'n allanol. Rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:
- aseiniadau a osodir yn allanol, a'u marcio'n fewnol
- arholiadau allanol
Mae’r cymhwyster yn cynnig sylfaen addas ar gyfer astudio iechyd a gofal cymdeithasol drwy amrywiaeth o gyrsiau addysg uwch, neu i gyflogaeth. Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i gymwysterau eraill o fewn y gyfres iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant.
Yn ogystal, mae'r fanyleb hon yn gwrs astudio sy'n gydlynol, yn foddhaol ac yn werth chweil i'r dysgwyr hynny nad ydynt yn symud ymlaen i astudio ymhellach yn y pwnc hwn.
Mae'r pwyntiau tariff UCAS canlynol ar gael am y cymhwyster TAG UG a Safon Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal plant:
Gradd | Pwyntiau |
A* | 56 |
A | 48 |
B | 40 |
C | 32 |
D | 24 |
E | 16 |
Cysylltwch â ni
Karen Bushell
Swyddog Pwnc
IGCEaCh@cbac.co.uk
029 2240 4264
Kwai Wong
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
IGCaGP@cbac.co.uk
029 2240 4264
Gwerslyfrau
CBAC TAG UG Safon mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant Uned 1 a 2 - Archebu |
CBAC Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant U2: Llwybr gofal plant Uned 3 a 4 - Archebu |
CBAC Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant U2: Llwybr iechyd a gofal cymdeithasol oedolion Uned 5 a 6 - Archebu |
Digwyddiad | Cyswllt |
---|---|
Goffynnwch i'r Tim Pwnc - Unedau 1 & 2 (17/01/22) | Cliciwch yma i weld |
Goffynnwch i'r Tim Pwnc - Unedau 3 & 4 (24/01/22) | Cliciwch yma i weld |
Goffynnwch i'r Tim Pwnc - Unedau 5 & 6 (26/01/22) | Cliciwch yma i weld |
Gwerslyfrau
CBAC TAG UG Safon mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant Uned 1 a 2 - Archebu |
CBAC Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant U2: Llwybr gofal plant Uned 3 a 4 - Archebu |
CBAC Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant U2: Llwybr iechyd a gofal cymdeithasol oedolion Uned 5 a 6 - Archebu |