Neidio i'r prif gynnwy

Lefel 4 Lleoli Oedolion/ Cysylltu Bywydau

Lefel 4

Dewch o hyd i ganolfan

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau o fewn 30 milltir i'ch lleoliad. Ceisiwch eto gan ddefnyddio cod post arall i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?

Nod y cymhwyster hwn yw datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth, ymddygiadau a sgiliau gweithwyr sy'n gyfrifol am gefnogi lleoliadau/trefniadau cysylltu bywydau a Gofalwyr Lleoli Oedolion/Cysylltu Bywydau.

Mae'r cymhwyster hwn wedi cael ei ddatblygu ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol yn y sector, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Mae'r cymhwyster yn seiliedig ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth ac ymarfer dysgwyr. Mae wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy'n ymgymryd â dysgu seiliedig ar waith, addysg bellach ac addysg uwch.

Webinar Recordings & Materials

Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni rôl sy'n cefnogi lleoliadau/trefniadau cysylltu bywydau a Gofalwyr Lleoli Oedolion/Cysylltu Bywydau.

Er mwyn ennill cymhwyster Lefel 4 Lleoli Oedolion/ Rhannu Bywydau, rhaid i ddysgwyr gael:

  • 27 credyd o leiaf o'r grŵp Gorfodol.
  • 18 credyd o leiaf o'r grŵp Dewisol.
Grŵp Gorfodol
Rhif yr Uned Teitl yr Uned ODA Credyd
434 Cefnogi gofalwyr Lleoli Oedolion/ Cysylltu Bywydau 115 27

Optional Group
Rhif yr Uned Teitl yr Uned ODA Credyd
435 Meithrin dealltwriaeth o ddementia 55 18
436 Meithrin dealltwriaeth o anabledd dysgu ac awtistiaeth 54 18
437 Meithrin dealltwriaeth o salwch meddwl 55

18

Rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:

  • portffolio o dystiolaeth
  • log myfyriol
  • arsylwi ar ymarfer yn uniongyrchol
  • trafodaeth broffesiynol

Mae'r asesiadau wedi cael eu dylunio i'r ymgeiswyr ddangos eu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau o ran yr unedau gorfodol a chynnwys eu dewis lwybr. Mae'r asesiadau yn cwmpasu elfennau ysgrifenedig er mwyn adlewyrchu gwybodaeth a dealltwriaeth, yn ogystal ag elfennau ymarferol sy'n cynnwys arsylwi ar ymarfer dysgwyr yn uniongyrchol er mwyn cadarnhau eu cymhwysedd o ran y sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer cynnwys eu dewis lwybr.

Mae'r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i gamu ymlaen mewn gyrfa neu i astudio ymhellach ar lefel uwch. 

I gael rhagor o wybodaeth am y gofynion ar gyfer gweithio yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan gynnwys swyddi penodol, gweler y ‘Fframwaith cymwysterau ar gyfer gofal cymdeithasol a gofal plant rheoledig yng Nghymru’ sydd ar gael ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Cysylltwch â ni

Dysgwyr/Canolfannau Newydd


hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930801

Canolfannau Presennol


hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930800

Dogfennau Allweddol
8040 11 L4 Ap Shared Lives Qual Handbook Welsh V11
Llawlyfr y Cymhwyster
8040 08D L4 Adult Placement Shared Lives Assessment Pack Welsh
Pecyn Asesu

Fel rhan o gymwysterau Lefel 4 a 5 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant bydd angen i bob dysgwr gwblhau Asesiad Allanol. I wneud hyn, bydd angen i'r dysgwyr gofrestru ar lwyfan Pro, yn hytrach na Walled Garden.

Rydym wedi datblygu fideo ‘Getting Started with Pro’ i’ch cynghori chi sut mae creu defnyddwyr ar lwyfan Pro, yn ogystal â sut mae cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymwysterau hyn.

Mae rhagor o ddeunyddiau cymorth ar gael yn Pro o dan y tab Cymwysterau Cymru ac os oes gennych chi ragor o gwestiynau am hyn, anfonwch e-bost at: hclw.customer@cityandguilds.com

Deunyddiau Cwrs
Hidlo yn ôl
Lefel 4 Lleoli Oedolion/ Cysylltu Bywydau - Parodrwydd Canolfannau

Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.

Open Graph Images 2023 07 27T155643.524
Recordiadau Gweminar
Digwyddiad Cyswllt
Gweminar - Rhwydwaith y Gaeaf: Cyfres o Gymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 Cliciwch yma i weld
Cyflwyniad PDF - Rhwydwaith y Gaeaf: Cyfres o Gymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 Cliciwch yma i weld

Fel rhan o gymwysterau Lefel 4 a 5 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant bydd angen i bob dysgwr gwblhau Asesiad Allanol. I wneud hyn, bydd angen i'r dysgwyr gofrestru ar lwyfan Pro, yn hytrach na Walled Garden.

Rydym wedi datblygu fideo ‘Getting Started with Pro’ i’ch cynghori chi sut mae creu defnyddwyr ar lwyfan Pro, yn ogystal â sut mae cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymwysterau hyn.

Mae rhagor o ddeunyddiau cymorth ar gael yn Pro o dan y tab Cymwysterau Cymru ac os oes gennych chi ragor o gwestiynau am hyn, anfonwch e-bost at: hclw.customer@cityandguilds.com