Neidio i'r prif gynnwy

Lefel 4 Eiriolaeth Annibynnol

Lefel 4

Dewch o hyd i ganolfan

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau o fewn 30 milltir i'ch lleoliad. Ceisiwch eto gan ddefnyddio cod post arall i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?

Nod y cymhwyster hwn yw datblygu'r wybodaeth, dealltwriaeth, ymddygiadau a sgiliau sy'n sail i rolau eirioli annibynnol.

Mae'r cymhwyster hwn wedi cael ei ddatblygu ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol yn y sector, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Mae'r cymhwyster yn seiliedig ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth ac ymarfer dysgwyr. Mae wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr mewn amgylchedd dysgu seiliedig ar waith, addysg bellach ac addysg uwch. 

Webinar Recordings & Materials

Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni rôl eirioli annibynnol.

Er mwyn ennill cymhwyster Lefel 4 Eirioli Annibynnol, rhaid i ddysgwyr gyflawni:

  • 41 credyd o leiaf o'r grŵp Gorfodol.
  • 11 credyd o leiaf o'r grŵp Dewisol.
Grŵp Gorfodol
Rhif yr Uned Teitl yr Uned ODA Credyd
428 Darparu eiriolaeth annibynnol – egwyddorion ac ymarfer 154 32
429 Deall deddfwriaeth yng nghyd-destun eirioli annibynnol 55 9

Optional Group
Rhif yr Uned Teitl yr Uned ODA Credyd
430 Eiriolaeth annibynnol gydag oedolion 10 11
431 Eiriolaeth annibynnol gyda phlant a phobl ifanc 20 13
432 Eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol 35 13
433 Eiriolaeth galluedd meddyliol annibynnol 40 17

Rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:

  • portffolio o dystiolaeth
  • cyfrif sy'n gysylltiedig â deddfwriaeth
  • arsylwi ar ymarfer yn uniongyrchol
  • cyfrif myfyriol o ymarfer
  • trafodaeth broffesiynol

Mae'r asesiadau wedi cael eu dylunio i'r ymgeiswyr ddangos eu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau o ran yr unedau gorfodol a chynnwys eu dewis lwybr. Mae'r asesiadau yn cwmpasu ystod o elfennau ysgrifenedig er mwyn adlewyrchu gwybodaeth a dealltwriaeth, yn ogystal ag elfennau ymarfer sy'n cynnwys arsylwi ar ymarfer dysgwyr yn uniongyrchol er mwyn cadarnhau eu cymhwysedd yn y sgiliau ymarferol sydd eu hangen ym maes eirioli annibynnol.

Mae'r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i gamu ymlaen mewn gyrfa neu i astudio ymhellach ar lefel uwch. 

I gael rhagor o wybodaeth am y gofynion ar gyfer gweithio yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan gynnwys swyddi penodol, gweler y ‘Fframwaith cymwysterau ar gyfer gofal cymdeithasol a gofal plant rheoledig yng Nghymru’ sydd ar gael ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Cysylltwch â ni

Dysgwyr/Canolfannau Newydd


hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930801

Canolfannau Presennol


hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930800

Dogfennau Allweddol
8040 12 L4 Independent Advocacy Qual Handbook Welsh V13 Apr22
Llawlyfr y Cymhwyster
8040 08D L4 Independent Advocacy Assessment Pack Welsh
Pecyn Asesu

Fel rhan o gymwysterau Lefel 4 a 5 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant bydd angen i bob dysgwr gwblhau Asesiad Allanol. I wneud hyn, bydd angen i'r dysgwyr gofrestru ar lwyfan Pro, yn hytrach na Walled Garden.

Rydym wedi datblygu fideo ‘Getting Started with Pro’ i’ch cynghori chi sut mae creu defnyddwyr ar lwyfan Pro, yn ogystal â sut mae cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymwysterau hyn.

Mae rhagor o ddeunyddiau cymorth ar gael yn Pro o dan y tab Cymwysterau Cymru ac os oes gennych chi ragor o gwestiynau am hyn, anfonwch e-bost at: hclw.customer@cityandguilds.com

Deunyddiau Cwrs
Hidlo yn ôl
Lefel 4 Eiriolaeth Annibynnol - Parodrwydd Canolfannau

Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.

Open Graph Images 2023 07 27T155643.524
Recordiadau Gweminar
Digwyddiad Cyswllt
Gweminar - Rhwydwaith y Gaeaf: Cyfres o Gymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 Cliciwch yma i weld
Cyflwyniad PDF - Rhwydwaith y Gaeaf: Cyfres o Gymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 Cliciwch yma i weld
Gweminar - Digwyddiad Rhwydwaith Canolfannau: Lefel 4 Eiriolaeth Annibynnol – Deall eiriolaeth annibynnol Cliciwch yma i weld
Cyflwyniad PDF - Digwyddiad Rhwydwaith Canolfannau: Lefel 4 Eiriolaeth Annibynnol – Deall eiriolaeth annibynnol Cliciwch yma i weld
Rhestr wirio ar gyfer recriwtio dysgwyr - Digwyddiad Rhwydwaith Canolfannau: Lefel 4 Eiriolaeth Annibynnol – Deall eiriolaeth annibynnol Cliciwch yma i weld

Fel rhan o gymwysterau Lefel 4 a 5 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant bydd angen i bob dysgwr gwblhau Asesiad Allanol. I wneud hyn, bydd angen i'r dysgwyr gofrestru ar lwyfan Pro, yn hytrach na Walled Garden.

Rydym wedi datblygu fideo ‘Getting Started with Pro’ i’ch cynghori chi sut mae creu defnyddwyr ar lwyfan Pro, yn ogystal â sut mae cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymwysterau hyn.

Mae rhagor o ddeunyddiau cymorth ar gael yn Pro o dan y tab Cymwysterau Cymru ac os oes gennych chi ragor o gwestiynau am hyn, anfonwch e-bost at: hclw.customer@cityandguilds.com