Neidio i'r prif gynnwy

Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori (Dyfarniad olaf yn 2024)

Lefel 3

Dewch o hyd i ganolfan

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau o fewn 30 milltir i'ch lleoliad. Ceisiwch eto gan ddefnyddio cod post arall i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?

Mae'r cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol o'r maes gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant â'r sgiliau ymarferol sy'n angenrheidiol ar gyfer gweithio yn y sector.

Lluniwyd y cymhwyster yn bennaf ar gyfer dysgwyr ôl-16 mewn addysg bellach sydd:

  • â diddordeb mewn gweithio mewn rôl gefnogi yn y sector gofal plant
  • yn astudio, neu sydd wedi cwblhau'r cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd
  • yn dychwelyd i'r gweithle ar ôl seibiant gyrfa sydd am adnewyddu eu gwybodaeth a'u sgiliau yn y sector Gofal Plant.

Mae'r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer dysgwyr sydd wedi ennill cymhwyser Lefel 2 gan gynnwys y cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori neu nad oes ganddynt unrhyw wybodaeth flaenorol am y sectorau gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.

Cynghorir dysgwyr nad ydynt eto wedi cyflawni cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd yn gryf i wneud hynny cyn y cymhwyster hwn neu ar yr un pryd.

Childcare Lady With Little Girl Smilung

Mae'r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i gael gwaith a/neu i symud ymlaen mewn gyrfa mewn lleoliadau gofal plant neu iechyd.

Mae'n cyfuno'r ddwy uned ymarfer sy'n cael eu hasesu yn y gweithle â gwybodaeth ddamcaniaethol ychwanegol. Mae elfen ymarfer y cymhwyster hwn yn adlewyrchu cynnwys y cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer.

Drwy gwblhau'r cymhwyster hwn, bydd dysgwyr yn gallu dangos eu bod yn:

  • deall, ac yn gallu defnyddio wrth ymarfer, yr egwyddorion a'r gwerthoedd sy'n sail i ofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant
  • deall, ac yn gallu defnyddio wrth ymarfer, dulliau plant-ganolog i ofal, chwarae a dysgu
  • gallu hybu a chefnogi datblygiad plant drwy eu hymarfer eu hunain
  • gallu gwerthuso ymchwil a damcaniaethau i gefnogi ymarfer
  • ymwybodol o bolisïau allweddol yn y sector a sut mae'r rhain yn effeithio ar ddatblygu a darparu gwasanaethau
  • gallu gweithio mewn partneriaeth â phlant, eu teuluoedd, gofalwyr ac amrywiaeth o weithwyr proffesiynol
  • gallu myfyrio ar ymarfer i barhau i wella
  • gallu defnyddio amrywiaeth o dechnegau datrys problemau
  • gallu defnyddio sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol fel sy'n briodol yn eu rôl.

Mae'n ofynnol i ddysgwyr gwblhau o leiaf 700 awr o leoliad gwaith er mwyn cyflawni'r cymhwyster hwn.

Cymhwyster seiliedig ar gredydau yw'r cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori ac mae'n galluogi dysgwyr i gyfuno unedau gorfodol ag amrediad eang o unedau opsiynol yn dibynnu ar eu lleoliad gwaith neu ddyheadau gyrfa at y dyfodol. Rhaid i ddysgwyr gwblhau cyfanswm o 72 o gredydau i gyd. Yr unedau gorfodol yw:

Uned Teitl yr Uned Asesu Credyd
300 Hybu ymarfer craidd ym maes gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant Mewnol 18
301 Hybu chwarae, dysgu, twf a datblygiad Mewnol 5
302 Hybu maeth a hydradiad yn y blynyddoedd cynnar Mewnol 4
303 Ymateb i afiechyd, pla/haint, clefyd ac imiwneiddio mewn plentyndod Mewnol 3

 

Gydag o leiaf un o'r canlynol:

304 Hybu gofal plant 0-2 oed Mewnol 4
305 Hybu gofal plant 2-3 oed Mewnol 4
306 Hybu gofal plant 3-7 oed Mewnol 6

 

Ynghyd â'r uned theori orfodol ganlynol:

330 Egwyddorion a damcaniaethau sy'n dylanwadu ar ofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant yn yr 21ain ganrif yng Nghymru Allanol 19
331 Ymchwilio i faterion cyfredol mewn gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant yng Nghymru Allanol 3

Caiff y cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori ei asesu drwy 70% o asesiad mewnol a 30% o asesiad allanol. Rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:

  • cyfres o dasgau wedi'u gosod yn allanol a'u marcio'n fewnol
  • portffolio o dystiolaeth
  • trafodaeth â'u haseswr
  • arholiad allanol
  • ymchwiliad estynedig wedi'i osod a'i farcio'n allanol.

Gellir llwytho pecyn asesu yn rhoi manylion y gofynion asesu mewnol o'r tab dogfennau allweddol a deunyddiau cefnogi ar dudalen y cymhwyster ar y wefan.

Mae cwblhau'r cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori yn darparu sylfaen addas ar gyfer astudio blynyddoedd cynnar a gofal plant drwy amrediad o gyrsiau addysg uwch, neu brentisiaethau.

Gradd Pwyntiau
Rhagoriaeth* 112
Rhagoriaeth 96
Teilyngdod 64
Llwyddiant 32

Cysylltwch â ni

Amy Allen-Thomas

Swyddog Pwnc
gchddp@cbac.co.uk
029 2240 4264

Tania Lucas

Swyddog Cefnogaeth Pwnc
gchddp@cbac.co.uk
029 2240 4264

Dogfennau Allweddol
Lefel 3 Gofal Chwarae Dysgu A Datblygiad Plant Ymarfer A Theori Canllaw Gwybodaeth I Ddysgwyr
Canllaw Gwybodaeth i Ddysgwyr

Gwerslyfrau

CBAC Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant: Theori (Lefel 3) - Archebu

Diweddaru’r llawlyfrau cymwysterau a chanllawiau asesu HSC, CC a CYP Lefel 2 a Lefel 3. Darllenwch mwy

Deunyddiau Cwrs
Hidlo yn ôl
Croeso i Lefel 3: Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori

e-gyflwyno Canllaw Canolfannau (2021-2022)

Uned 331 Taflen Amser

Uned 330 Arholiad - Ionawr 2024 (yn cynnwys Papur Cwestiynau, Cynllun Marcio, Adolygiad Arholiad Ar-lein ac Adroddiad yr Arholwr)

Uned 331 Arholiad - Ionawr 2024 (yn cynnwys Papur Cwestiynau, Cynllun Marcio, Adolygiad Arholiad Ar-lein ac Adroddiad yr Arholwr)

Uned 330 Arholiad - Haf 2023 (yn cynnwys Papur Cwestiynau, Cynllun Marcio, Adolygiad Arholiad Ar-lein ac Adroddiad yr Arholwr)

Uned 331 Arholiad - Haf 2023 (yn cynnwys Adroddiad yr Arholwr, Testunau, Cynllun Marcio, Adolygiad Arholiad Ar-lein ac Enghreifftiau Cymraeg)

Uned 331 Arholiad - Mehefin 2022 (yn cynnwys Papur Cwestiynau, Cynllun Marcio, Adolygiad Arholiad Ar-lein ac Adroddiad yr Arholwr)

Uned 330 Arholiad - Mehefin 2022 (yn cynnwys Papur Cwestiynau, Cynllun Marcio, Adolygiad Arholiad Ar-lein ac Adroddiad yr Arholwr)

Uned 330 Arholiad - Ionawr 2022 (yn cynnwys Papur Cwestiynau, Cynllun Marcio, Adolygiad Arholiad Ar-lein ac Adroddiad yr Arholwr)

Uned 330 Arholiad - Ionawr 2021 (yn cynnwys Papur Cwestiynau, Cynllun Marcio, Adolygiad Arholiad Ar-lein ac Adroddiad yr Arholwr)

Uned 330 Arholiad - Hydref 2021 (yn cynnwys Papur Cwestiynau, Cynllun Marcio, Adolygiad Arholiad Ar-lein ac Adroddiad yr Arholwr)

Cyflwyniad Noson Agored

Berfau Gorchymyn

Mapio'r Cymhwyster

Lefel 3 GCDD Plant: Ymarfer a Theori pwyntiau UCAS

Arweiniad i'r Arholiad

Uned 330 – Mapio adnoddau rhyngweithiol DIGC

Cydnabod Polisi Dysgu Blaenorol

Asesiad Ymarfer Enghreifftiol (Arsylwi a Log Myfyriol)

Holi ac Ateb o Sesiynau Galw Heibio yr Haf (Mehefin 2021)

Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.

 

Lady On Online Call
Recordiadau Gweminar
Digwyddiad Cyswllt
GChDDP Lefel 3: Uned 330 Ymarfer a Theori Rhwydwaith y Hydref (2023) Cliciwch yma i weld
GChDDP Lefel 3: Uned 331 Ymarfer a Theori Rhwydwaith y Hydref (2023) Cliciwch yma i weld
GChDDP Lefel 3: Uned 330 Ymarfer a Theori Rhwydwaith y Gwanwyn (2023) Cliciwch yma i weld
GChDDP Lefel 3: Uned 331 Ymarfer a Theori Rhwydwaith y Gwanwyn (2023) Cliciwch yma i weld
Lefel 3 GChDDP: Ymarfer a Theori Rhwydwaith yr Hydref 2022 Cliciwch yma i weld
Holi ac Ateb - Lefel 3 GChDDP: Ymarfer a Theori Rhwydwaith y Gwanwyn (2022) Cliciwch yma i weld
Lefel 3 GChDDP: Ymarfer a Theori Rhwydwaith y Gwanwyn (2022) Cliciwch yma i weld
Asesiad Ymarfer Enghreifftiol (Arsylwi a Log Myfyriol) (Tachwedd 2021) Cliciwch yma i weld
Holi ac Ateb - Deall y Daith Asesu Ymarfer (Tachwedd 2021) Cliciwch yma i weld
Lefel 2 a 3 GCDDP Ymarfer a Theori Deall y Daith Asesu Ymarfer – Deunydd (Tachwedd 2021) Cliciwch yma i weld
Lefel 2 a 3 Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori – Deall y Daith Asesu Ymarfer (Tachwedd 2021) Cliciwch yma i weld
PowerPoint Cymraeg o Gyfarfod Rhwydweithio GChDDP (Gwanwyn 2021) Cliciwch yma i weld
Holi ac Ateb Rhwydwaith (Gwanwyn 2021) Cliciwch yma i weld
Lefel 3: Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori Rhwydwaith y Gwanwyn (2021) Cliciwch yma i weld
Holi ac Ateb Rhwydwaith (Hydref 2020) Cliciwch yma i weld
PowerPoint Cymraeg o Gyfarfod Rhwydweithio GChDDP (Hydref 2020) Cliciwch yma i weld
Lefel 3: Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori Rhwydwaith Hydref (2020) Cliciwch yma i weld
Holi ac Ateb – CAM 3 Trefniadau lliniaru cyflwyno ac asesu 2020/21 (Medi 2020) Cliciwch yma i weld
CAM 3 Trefniadau lliniaru cyflwyno ac asesu 2020/21 (Medi 2020) Cliciwch yma i weld
PowerPoint Cymraeg o CAM 3 Trefniadau lliniaru cyflwyno ac asesu 2020/21 (Medi 2020) Cliciwch yma i weld
Lefel 3 GChDDP Ymarfer a Theori: gweithdy Unedau 330 a 331 (Mai 2020) Cliciwch yma i weld
Holi ac Ateb - Cyfarfod Rhwydwaith GChDDP (Mai 2020) Cliciwch yma i weld
PowerPoint Cymraeg o Gyfarfod Rhwydweithio GChDDP (Mai 2020) Cliciwch yma i weld
Deunyddiau Hyfforddi Mynychwyr Paratoi i Addysgu (Hydref 2019/20) Cliciwch yma i weld
Lefel 3 GChDDP Deunyddiau Hyfforddi Mynychwyr Paratoi i Addysgu (Rhagfyr 2019) Cliciwch yma i weld

Gwerslyfrau

CBAC Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant: Theori (Lefel 3) - Archebu

Diweddaru’r llawlyfrau cymwysterau a chanllawiau asesu HSC, CC a CYP Lefel 2 a Lefel 3. Darllenwch mwy