Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
Lefel 2Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau o fewn 30 milltir i'ch lleoliad. Ceisiwch eto gan ddefnyddio cod post arall i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.
Trosolwg o’r cymhwyster
Mae’r cymhwyster wedi ei ddatblygu ar gyfer unigolion sy’n gweithio neu’n bwriadu gweithio yn y sectorau gofal iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’n targedu dysgwyr mewn dysgu seiliedig ar waith, addysg bellach, a chweched dosbarth mewn ysgolion. Bydd yn galluogi dysgwyr i geisio am gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel gweithwyr gofal cymdeithasol mewn gofal cartref neu ofal preswyl i blant oni bai eu bod yn cyrraedd unrhyw ofynion cofrestru ychwanegol.
Am ragor o wybodaeth, ewch i https://socialcare.wales/registration
Mae’n addas ar gyfer
- Dysgwyr 16+ oed sy’n gweithio neu’n bwriadu gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol
- gweithiwr gofal cymdeithasol (oedolion)
- gweithiwr gofal cymdeithasol (plant a phobl ifanc)
- gweithiwr cymorth gofal iechyd
- cynorthwyydd gofal iechyd
Mae’n argymelledig bod dysgwyr yn cwblhau’r cymhwyster craidd cyn, neu ochr yn ochr â’r cymwysterau eraill o fewn y gyfres gan y bydd hwn yn ofyniad am ymarfer sydd wedi ei osod gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd hwn hefyd yn nodwedd o’r Brentisiaeth Sylfaenol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Bydd y cymhwyster yn darparu cyflwyniad trylwyr o egwyddorion, gwerthoedd a gwybodaeth sydd eu hangen i weithio yn y sectorau gofal iechyd a gofal cymdeithasol gydag oedolion a phlant a phobl ifanc.
Mae cynnwys y cymhwyster yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a dealltwriaeth o:
- egwyddorion a gwerthoedd craidd sy’n tanategu ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol;
- ffyrdd o weithio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol;
- ymarfer effeithiol o fewn iechyd a gofal cymdeithasol;
- llwybrau cynnydd am astudiaeth bellach neu gyflogaeth o fewn diogelu Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae gan y cymhwyster tri llwybr: - Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd (Oedolion)
- Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd (Plant a Phobl Ifanc)
- Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd (Oedolion a Phlant a Phobl Ifanc)
Gall dysgwyr dewis i gwblhau llwybrau unigol sy’n gweddu eu huchelgais gyrfa neu gallan nhw ddewis i gwblhau cymhwyster cyfunol sydd â chynnwys sy’n addas ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant a phobl ifanc.
I gwblhau llwybrau (Oedolion) a (Plant a Phobl Ifanc) o fewn y cymhwyster hwn, mae’n rhaid i ymgeiswyr gyflawni:
- Un prawf aml ddewis sydd wedi ei lunio’n allanol ac yn cael ei farcio’n allanol
I gwblhau’r llwybr (Oedolion a Phlant a Phobl Ifanc) o fewn y cymhwyster, Mae’n rhaid i ymgeiswyr gyflawni:
- Dau brawf dewis lluosog i'w gosod yn allanol a'u marcio'n allanol
Wrth gwblhau’r cymhwyster mi fydd yn darparu sail eang o wybodaeth ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd yn darparu’r wybodaeth i barhau i:
- Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
- Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
- Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
- Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Egwyddorion a Chyd-destunau
- Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol Egwyddorion a Chyd-destunau (Oedolion/Plant a Phobl Ifanc)
- TGAU Uwch a TGAU Atodol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Cysylltwch â ni
Dysgwyr/Canolfannau Newydd
hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930801
Canolfannau Presennol
hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930800
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau i asesiadau Craidd HSCCC lefel 2 - Darllenwch mwy
Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.
Digwyddiad | Cyswllt |
---|---|
Gweminar - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Cliciwch yma i weld |