Sesiynau Galw Heibio Canolfannau – Gwanwyn/Haf 2024

Gyda digwyddiadau’r Hydref/Gaeaf wedi dod i ben erbyn hyn, mae’r calendr ar gyfer ein sesiynau galw heibio ar-lein i ganolfannau ar gael ar gyfer y Gwanwyn/Haf. 

Roedd yr adborth o ddigwyddiadau diweddar yn dangos bod cwsmeriaid wir yn gwerthfawrogi’r cyfle i gwrdd â thiwtoriaid, aseswyr a swyddogion sicrhau ansawdd mewnol y tu allan i’w canolfannau eu hunain. Felly, er mwyn hwyluso hyn, rydyn ni wedi trefnu fformat ychydig yn wahanol ar gyfer sesiynau galw heibio Gwanwyn/Haf 2024.

Mae’r sesiynau galw heibio yn canolbwyntio ar y cymwysterau Dysgu Seiliedig ar Waith yn y gyfres fel a ganlyn:

  • Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd
  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
  • Lefel 2 a Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer/Ymarfer a Theori
  • Lefel 2 a Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer: Oedolion
  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer: Plant a Phobl Ifanc
  • Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain ac Ymarfer Proffesiynol:
  • Lefel 5 Arwain a Rheoli 

Sylwch fod y cymwysterau TGAU, Safon Uwch, ac Egwyddorion a Chyd-destunau yn cael eu hategu gan ddewislen wahanol o ddigwyddiadau, ac felly ni ddylid eu cynnwys yn eich agendâu ar gyfer y sesiynau galw heibio hyn. 

Rydyn ni wedi parhau i weithio ar y cyd â’r holl ddeiliaid Contract Cynradd, a’r holl ddarparwyr Addysg Bellach, Colegau ac Awdurdodau Lleol, ac mae gwahoddiad galw heibio wedi cael ei rannu â’r prif sefydliadau hyn.

  • ACT
  • Educ8
  • Coleg Caerdydd a'r Fro
  • Coleg Cambria
  • Coleg Menai
  • Coleg Gŵyr Abertawe
  • Grŵp Llandrillo Menai
  • Coleg Sir Benfro
  • Hyfforddiant ITEC
  • Grŵp NPTC
  • Hyfforddiant Cambrian

Cyfeiriwch at y tabl isod sy'n nodi dyddiad y sesiwn galw heibio a drefnwyd ar gyfer pob Prif ddeiliad contract, coleg AB ac Awdurdod Lleol.  Dylai pob prif sefydliad gysylltu â’i bartneriaid cyflenwi ei hun i roi gwybod iddynt am y dyddiad galw heibio, i rannu’r wybodaeth ymuno, ac i gytuno ar unrhyw eitemau ar yr agenda. Os nad yw eich prif sefydliad wedi cysylltu â chi i rannu gwybodaeth am y sesiynau galw heibio, cysylltwch â nhw’n uniongyrchol yn y lle cyntaf.

Dyddiad Amser Prif Sefydliad
10/04/24 0900 - 1230 Cardiff & Vale College
11/04/24 1330 - 1700 Gower College
16/04/24 0900 - 1230 Grŵp LLandrillo Menai
22/04/24 1330 - 1700 NPTC Group
14/05/24 0900 - 1230 Coleg Cambria
22/05/24 0900 - 1230 Pembrokeshire College
05/06/24 0900 - 1230 Smaller Colleges – Ceredigion/ColegGwent/Merthyr College/Coleg Cymoedd
10/06/24 1330 - 1700 ITEC
13/06/24 1330 - 1700 Educ8
17/06/24 1330 - 1700 ACT
19/06/24 0900 - 1230 Cambrian Training
18/06/24 0900 - 1230 - City & Guilds ONLY Local Authorities Group (inc RCT, NPT, Wrexham CC, Pendine Academy, Flintshire SS, Swansea CC)

We look forward to joining you at your scheduled drop-in.