Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Yr wybodaeth ddiweddaraf am y cymhwyster craidd

Y llynedd, fe wnaethom gadarnhau y bydd y cymhwyster Craidd yn cael ei asesu drwy gwestiynau amlddewis yn unig o fis Ionawr 2024 ymlaen. 

Cyfeiriwch at y Cwestiynau Cyffredin gan y byddant yn eich helpu chi a’ch dysgwyr.

Gweld y Cwestiynau Cyffredin

I baratoi ar gyfer y newid i’r asesiad, rydym wedi gofyn i chi sicrhau bod yr holl ddysgwyr sy’n cwblhau’r un astudiaeth achos a’r model asesu Cwestiynau Amlddewis yn barod i’w hardystio erbyn 31 Rhagfyr 2023. 

Os nad ydych chi wedi gallu cofrestru eich dysgwyr yn y garfan hon erbyn y dyddiad cau y cytunwyd arno, oherwydd amgylchiadau eithriadol, cysylltwch â thîm Ansawdd HCLW cyn gynted â phosibl yn ystod mis Ionawr 2024.

Dylech ddisgwyl darparu tystiolaeth bod asesiadau’r dysgwyr hyn wedi digwydd cyn y dyddiad cau, sef diwedd mis Rhagfyr.

Manyleb Newydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Gallwch gael gafael ar y fanyleb newydd ar wefan HCLW a thrwy’r ddolen isod
Manyleb Iechyd a Gofal Cymdeithasol >

Paratoi dysgwyr ar gyfer asesu

Bydd dysgwyr yn ateb y cwestiynau amlddewis newydd ar ddiwedd eu taith ddysgu, felly mae gweithgareddau i gefnogi a chadarnhau eu bod yn barod i gael eu hasesu hyd yn oed yn bwysicach.

Rydym wedi darparu deunyddiau asesu enghreifftiol i gefnogi’r broses hon, ond dylid defnyddio’r rhain ochr yn ochr â phrosesau a deunyddiau eraill, yn hytrach nag ar eu pen eu hunain. 

Gallwch gael gafael ar y ‘deunyddiau asesu enghreifftiol’ ar wefan HCLW a thrwy’r ddolen isod

Deunyddiau asesu enghreifftiol >

Prawf llywio e-volve

Mae gallu profi’r llwyfan e-volve cyn ateb y Cwestiynau Amlddewis yn gam hanfodol tuag at lwyddiant dysgwyr.  

Rydym wedi datblygu’r prawf llywio e-volve er mwyn i ddysgwyr gael y cyfle i ddeall sut mae defnyddio’r llwyfan yn ystod y prawf. 

Ni fydd y prawf llywio yn cynnwys unrhyw gwestiynau prawf. Ei bwrpas yw helpu’r dysgwr i ymgyfarwyddo â chynllun y sgrin a’r wybodaeth a ddangosir, a sut mae defnyddio’r botymau llywio. 

Mynediad at y profion llywio  

Cadwch y ddolen hon i'w defnyddio yn y dyfodol.

Ni ddylid defnyddio’r prawf llywio fel ffug brawf. Bydd ffug brawf ar-lein ar wahân ar gael i ddysgwyr o 1 Ionawr 2024 ymlaen.