Diwygiadau i asesiadau craidd HSCCC Lefel 2

Ar drothwy'r flwyddyn academaidd newydd, hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i’ch atgoffa o’r newidiadau i gymwysterau craidd Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant.

O 1 Ionawr 2024 ymlaen, y gofyniad ar gyfer cyflawni’r cymhwyster craidd yw mai dim ond drwy ddull cwestiynau amlddewis y bydd dysgwyr yn cael eu hasesu. Dyma newid i’r astudiaeth achos bresennol, a daw’r penderfyniad ynghylch y cwestiynau amlddewis yn sgil yr adborth a gafwyd o fewn y sector. 

Eich cefnogi chi i reoli dysgwyr sy’n mynd drwy wahanol strategaethau asesu.

Yn dibynnu ar y model darparu, ar gyfartaledd mae’n cymryd rhwng 3 a 6 mis neu fwy i’r rhan fwyaf o ddysgwyr fod yn barod i gael eu hasesu ar gyfer cymhwyster Craidd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Felly, rydym yn argymell y dylai dysgwyr sydd wedi cofrestru ar ôl 08 Medi 2023 gwblhau’r strategaeth asesu newydd, gan mai dyma’r ffordd orau o sicrhau eu bod wedi paratoi’n ddigonol ar gyfer eu hasesiad Cwestiynau Amlddewis estynedig newydd. 

Gall dysgwyr sydd wedi cofrestru cyn y dyddiad hwn barhau i gael eu hasesu gan ddefnyddio’r astudiaeth achos/model cwestiynau amlddewis. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ganolfannau sy’n defnyddio’r dull hwn fod yn sicr bod disgwyl i’r dysgwyr hyn lwyddo i gyflawni eu hastudiaethau achos (un neu fwy nag un) ac asesiadau Cwestiynau Amlddewis cyn 30 Tachwedd 2023. Mae’r dyddiad hwn yn rhoi digon o amser i ganolfannau sydd heb Statws Hawlio Uniongyrchol i drefnu gweithgaredd Sicrhau Ansawdd Allanol cyn diwedd mis Rhagfyr 2023.

Os yw eich canolfan eisoes wedi cael Statws Hawlio Uniongyrchol ar gyfer y cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd, gwnewch yn siŵr bod unrhyw ddysgwyr sydd wedi cofrestru cyn 08 Medi 2023 yn cael eu prosesu i’w hardystio drwy Walled Garden cyn diwedd mis Rhagfyr 2023.

Gweithgareddau Sicrhau Ansawdd Allanol

Statws Hawlio Uniongyrchol a ddyranwyd ym mis Gorffennaf 2023

Os cafodd eich canolfan Statws Hawlio Uniongyrchol yn dilyn gweithgaredd Sicrhau Ansawdd Allanol ym mis Gorffennaf 2023, bydd eich gweithgaredd samplu nesaf yn cael ei drefnu ar gyfer mis Rhagfyr 2023, a hynny ar sail gweithgaredd wyneb yn wyneb. Dylai pob dysgwr sy’n astudio cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd, a gafodd ei gofrestru gan eich canolfan cyn 08 Medi 2023, ac sydd wedi cwblhau ei asesiadau’n llwyddiannus, gael ei brosesu i’w ardystio drwy Walled Garden cyn i’ch gweithgaredd Sicrhau Ansawdd Allanol gael ei gynnal. Yn ystod eich gweithgaredd Sicrhau Ansawdd Allanol, byddwn yn gofyn am gadarnhad ynghylch unrhyw ddysgwyr sy’n gymwys i gael ardystiad ond sydd heb ei hawlio. Ni fyddwch yn gallu prosesu’r dysgwyr hyn drwy Walled Garden. Yn hytrach, bydd gofyn i chi wneud cais am ardystiad drwy eithriad yn unig, gan ddefnyddio ‘Matrics Ymgeiswyr’ wedi’i addasu a fydd yn cael ei anfon i’ch canolfan drwy e-bost.

Statws Hawlio Uniongyrchol a ddyranwyd ym mis Awst 2023

Os cafodd eich canolfan Statws Hawlio Uniongyrchol yn dilyn gweithgaredd Sicrhau Ansawdd Allanol ym mis Awst, bydd eich gweithgaredd samplu nesaf yn cael ei drefnu ar gyfer mis Ionawr 2024, a hynny ar sail gweithgaredd wyneb yn wyneb. Dylai pob disgybl sydd wedi’i gofrestru gan eich canolfan cyn 08 Medi 2023, ac sydd wedi cwblhau ei asesiadau’n llwyddiannus, gael ei brosesu i’w ardystio drwy Walled Garden cyn diwedd mis Rhagfyr 2023. Yn ystod eich gweithgaredd Sicrhau Ansawdd Allanol, byddwn yn gofyn am gadarnhad ynghylch unrhyw ddysgwyr sy’n gymwys i gael ardystiad ond sydd heb ei hawlio. Ni fydd modd i chi brosesu’r dysgwyr hyn drwy Walled Garden. Yn hytrach, bydd gofyn i chi wneud cais am ardystiad drwy eithriad*, a hynny drwy ddefnyddio ‘Matrics Ymgeiswyr’ a fydd yn cael ei anfon i’ch canolfan drwy e-bost.

Statws Hawlio Uniongyrchol a ddyranwyd ym mis Medi 2023

Os cafodd eich canolfan Statws Hawlio Uniongyrchol yn dilyn gweithgaredd Sicrhau Ansawdd Allanol ym mis Medi, bydd eich gweithgaredd samplu nesaf yn cael ei drefnu ar gyfer mis Chwefror 2024, a hynny ar sail gweithgaredd wyneb yn wyneb. Dylai pob disgybl sydd wedi’i gofrestru gan eich canolfan cyn 08 Medi 2023, ac sydd wedi cwblhau ei asesiadau’n llwyddiannus, gael ei brosesu i’w ardystio drwy Walled Garden cyn diwedd mis Rhagfyr 2023. Erbyn eich gweithgaredd Sicrhau Ansawdd Allanol, byddem yn disgwyl i’r holl ddysgwyr cymwys fod wedi cael eu hawlio’n barod.  

Canolfannau sydd heb gael Statws Hawlio Uniongyrchol

Os nad yw eich canolfan wedi cael Statws Hawlio Uniongyrchol ar gyfer y cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd, bydd eich gweithgaredd Sicrhau Ansawdd Allanol nesaf yn cael ei gynnal yn ystod y cyfnod ardystio nesaf (os oes gennych chi ddysgwyr yn barod i gael eu samplu yn dilyn yr asesiad). Yn dilyn gweithgaredd Sicrhau Ansawdd Allanol llwyddiannus, dylai pob disgybl sydd wedi’i gofrestru gan eich canolfan cyn 08 Medi 2023, ac sydd wedi cwblhau ei asesiadau’n llwyddiannus, gael ei brosesu i’w ardystio drwy Walled Garden cyn diwedd mis Rhagfyr 2023. Ar ôl eich gweithgaredd Sicrhau Ansawdd Allanol, bydd cytundeb i fwrw ymlaen i ardystio yn cael ei ddarparu gan dîm ansawdd Dysgu Iechyd a Gofal Cymru.

*drwy eithriad: Gweithgaredd Sicrhau Ansawdd Allanol City & Guilds ddim ar gael

Cwestiynau Cyffredin
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost i hclw.quality@cityandguilds.com