Dysgwyr

O fis Medi 2019, City & Guilds / CBAC fydd unig ddarparwr cyfres newydd o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yng Nghymru.

 

Os ydych chi'n chwilio am wybodaeth bellach ar yrfaoedd yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, ewch i dudalen gyrfaoedd Gofal Cymdeithasol Cymru i gael manylion am y wahanol lwybrau a rolau proffesiynol sydd ar gael.

Yn yr un modd, os ydych chi'n chwilio am wybodaeth am y cymwysterau a argymhellir ar gyfer gwahanol rolau yn y sector, mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru fframwaith cymwysterau defnyddiol sy'n nodi'r llwybrau gofynnol ac argymhellir i'w cymryd.

Pam mae cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yng Nghymru yn newid?

Canfu adolygiad Cymwysterau Cymru y dylid gwneud nifer o newidiadau i'r cymwysterau er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru ar gyfer gwaith ac addysg bellach mewn amgylchedd sydd yn datblygu yn gyflym.

Pryd bydd y newidiadau hyn yn cael eu gwneud?

Bydd y cymwysterau newydd ar gael i'w haddysgu o 1 Medi 2019.

Beth fydd yn digwydd os byddaf eisoes wedi dechrau astudio ar gyfer cymhwyster mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant?

Os ydych eisoes yn astudio ar gyfer cymhwyster mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant cyn mis Medi 2019, ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio arnoch. Byddwch yn parhau â'ch dysgu tan i chi gwblhau'r cymhwyster. Byddwn yn darparu gwybodaeth pellach i'ch helpu i archwilio pa gyfleoedd dilyniant fydd ar gael i chi.

Mae gennyf gymhwyster mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant eisoes – a fydd y cymwysterau hyn yn dal i gael eu cydnabod gan gyflogwyr?

Os ydych yn meddu ar un o'r cymwysterau sy'n ofynnol ar gyfer eich rôl ar hyn o bryd e.e. wedi'i restru yn y Fframwaith Cymwysterau ar gyfer y Sector Gofal Cymdeithasol yng Nghymru neu'r Rhestr o Gymwysterau Gofynnol ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yng Nghymru, bydd yn dal i gael ei gydnabod a'i dderbyn ar gyfer ymarfer.

A fyddaf yn gallu cwblhau'r cymwysterau hyn yn yr ysgol, yn y coleg ac yn y gwaith?

Bydd yr amrywiaeth o gymwysterau yn cynnig nifer o ffyrdd y gallwch feithrin eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch cymhwysedd i weithio, neu barhau â'ch dysgu yn y sector. Ceir llwybrau sy'n gweddu orau i ysgolion, colegau, dysgu seiliedig ar waith neu gyflogaeth.

 

A fydd y cymwysterau newydd yn fy ngalluogi i symud ymlaen i'r coleg a'r brifysgol?

Byddant. Rydym wedi cynllunio cymwysterau fydd yn eich helpu i symud ymlaen i astudio ymhellach, megis yn y coleg neu'r brifysgol drwy ystod o lwybrau gwahanol. Rydym yn cydweithio gyda phrifysgolion er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o gynnwys a dulliau asesu y cymwysterau newydd, byddwn hefyd yn cydweithio gyda UCAS i ddynodi pwyntiau tariff. Wrth i'r cymwysterau gael eu datblygu ymhellach, byddwn yn darparu gwybodaeth fydd yn eich helpu i weld pa gyfleoedd dilyniant sydd ar gael.

A fydd y cymwysterau newydd yn fy ngalluogi i symud ymlaen i gyflogaeth a datblygu fy ngyrfa?

Byddant. Mae'r cymwysterau newydd wedi'u cynllunio i'ch paratoi yn fwy trylwyr ar gyfer cyflogaeth. Bydd ein cymhwyster 'craidd' newydd yn rhoi'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth allweddol sydd ei hangen arnoch er mwyn dechrau ar yrfa ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant. Os ydych yn gweithio yn y sector ar hyn o bryd, bydd y cymwysterau newydd yn cefnogi eich datblygiad ymhellach i gyflogaeth.

A fyddaf yn gallu dilyn y cymwysterau newydd drwy gyfrwng y Gymraeg?

Byddwch. Bydd pob un o'r cymwysterau newydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cadarnhewch argaeledd cymwysterau gyda cholegau a phrifysgolion unigol.

Pam nad oes unrhyw gymwysterau i gymryd lle'r diplomâu estynedig presennol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant?

Drwy ddiwygio cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, bydd Cymwysterau Cymru
yn lleihau nifer y cymwysterau yn y sector sy'n gymwys ar gyfer arian cyhoeddus o fwy na 240 i ddim
ond 19. Mae cael cyfres lai a mwy cydlynol o gymwysterau yn golygu nad yw'r gyfres newydd yn
cynnwys cymwysterau amgen i gymryd lle'r holl gymwysterau sydd ar gael ar hyn o bryd. Fodd
bynnag, mae'r gyfres yn parhau i gynnig cyfle i ddysgwyr gael mynediad at yr holl lwybrau sydd ar
gael ar hyn o bryd i gyflogaeth ac astudiaethau pellach a lefel uwch, a datblygu ar hyd y llwybrau
hynny. Mae hefyd yn galluogi dysgwyr ar lefel 3 i gael pwyntiau Tariff UCAS.

Mae'r gyfres o gymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant newydd yn cynnwys dau
gymhwyster lefel 3 sy'n cynnwys 720 o Oriau Dysgu dan Arweiniad (ODA): un ym maes Iechyd a
Gofal Cymdeithasol, ac un ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant. Caiff y cymwysterau
hyn eu cynllunio i gael eu cynnig i ddysgwyr sy'n astudio'n llawn amser mewn colegau AB, er y
gallant hefyd fod o ddiddordeb i fathau eraill o ddarparwyr, gan gynnwys ysgolion.

Mae'r gyfres hefyd yn cynnwys cymhwyster Safon Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal
Plant. Mae'r cymhwyster hwn yn cyfuno iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant ar lefel UG, gyda
llwybr iechyd a gofal cymdeithasol neu ofal plant ar lefel U2. Nod y cymhwyster Safon Uwch yw
ategu'r cymwysterau mwy er mwyn darparu rhaglen astudio 1080‐ODA lawn sy'n debyg o ran maint
i'r diplomâu estynedig sydd ar gael ar hyn o bryd.

Sut y caiff y cymwysterau newydd eu hariannu?

Caiff y cymwysterau newydd eu cymeradwyo gan Cymwysterau Cymru. Mae hyn yn golygu y
byddant yn gymwys i gael arian cyhoeddus ar raglenni dysgu ar gyfer dysgwyr hyd at 19 oed. Caiff
rhai o'r cymwysterau yn y gyfres newydd eu cynnwys mewn fframweithiau prentisiaeth ar gyfer
gofal cymdeithasol neu ofal, dysgu a datblygiad plant. Caiff y rhain eu hariannu drwy gynlluniau
prentisiaeth Llywodraeth Cymru. Er y bydd arian ar gael mewn ffyrdd gwahanol ar gyfer pob un o'r
cymwysterau newydd, efallai y bydd angen i ddysgwyr a chyflogwyr ariannu eu hunain neu eu
cyflogeion o dan rai amgylchiadau er mwyn cwblhau'r cymhwyster.

Pam nad yw'r cymwysterau Lefel 1 yn gyfyngedig mwyach?

Yn ystod ein gweithgarwch ymgysylltu â rhanddeiliaid, cawsom safbwyntiau cymysg ar gymhwyster
Lefel 1 penodol ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant. O ganlyniad, mae Cymwysterau
Cymru wedi penderfynu y gall canolfannau naill ai ddarparu cymwysterau Lefel 1 sy'n benodol i
sector neu gymwysterau mwy generig mewn Astudiaethau Galwedigaethol. Awgrymodd yr adborth
gan y sector pa mor bwysig oedd cynnal brwdfrydedd dysgwyr yn y maes pwnc a chefnogi'r rhai
hynny a allai fod am ystyried gyrfa ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant. Mae rhestr
lawn o'r cymwysterau yr effeithir arnynt ar gael ar Wefan Cymwysterau Cymru.

Gwybodaeth bellach

Cyflogwyr                 Canolfannau / Darparwyr hyfforddiant

Cysylltwch â ni

Rydym wrth law i ateb unrhyw un o'ch ymholiadau.

gwybodaeth@digc.cymru

Tanysgrifiwch am ddiweddariadau

Tanysgrifio