Neidio i'r prif gynnwy

Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Lefel 4

Dewch o hyd i ganolfan

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau o fewn 30 milltir i'ch lleoliad. Ceisiwch eto gan ddefnyddio cod post arall i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?

Nod y cymhwyster hwn yw datblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth, yr ymddygiadau a'r sgiliau sy'n sail i Ymarfer Proffesiynol yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r cymhwyster hwn wedi'i ddatblygu mewn cydweithrediad agos â rhanddeiliaid sector allweddol, yn cynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Mae'r cymhwyster yn seiliedig ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth ac ymarfer dysgwyr. Lluniwyd y cymhwyster ar gyfer dysgwyr mewn dysgu seiliedig ar waith, addysg bellach ac addysgu uwch.

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnig datblygiad i ddysgwyr sydd wedi cwblhau unrhyw un o'r cymwysterau canlynol:

  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)

Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc).

Female Careworker

Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymarfer proffesiynol mewn lleoliadau iechyd neu ofal cymdeithasol.

Er mwyn cyflawni Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Arwain cymorth ar gyfer lleihau ymarfer cyfyngol drwy ddulliau cadarnhaol ar gyfer ymddygiad), mae'n rhaid i ddysgwyr ennill

  • O leiaf 63 credyd o'r grŵp Gorfodol.

Rhif yr Uned

Teitl yr Uned
410 Deddfwriaeth, damcaniaethau a modelau o ymarfer person-ganolog / plentyn-ganolog
420 Ymarfer proffesiynol
421 Arwain cefnogaeth i leihau arferion cyfyngol drwy ddulliau cadarnhaol i gefnogi ymddygiad


Er mwyn cyflawni Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Arwain ymarfer gydag unigolion sy'n byw gydag afiechyd meddwl) mae'n rhaid i ddysgwyr ennill

  • O leiaf 62 credyd o'r grŵp Gorfodol.
Rhif yr Uned Teitl yr Uned
410 Deddfwriaeth, damcaniaethau a modelau o ymarfer person-ganolog / plentyn-ganolog
420 Ymarfer proffesiynol
422 Arwain ymarfer gydag unigolion sy'n byw gydag afiechyd meddwl


Er mwyn cyflawni Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Arwain ymarfer gydag unigolion sy'n byw gyda dementia), mae'n rhaid i ddysgwyr ennill

  • O leiaf 65 credyd o'r grŵp Gorfodol.
Rhif yr Uned Teitl yr Uned
410 Deddfwriaeth, damcaniaethau a modelau o ymarfer person-ganolog / plentyn-ganolog
420 Ymarfer proffesiynol
423 Arwain ymarfer gydag unigolion sy'n byw gyda dementia


Er mwyn cyflawni Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Arwain ymarfer gydag unigolion sy'n byw gydag anabledd dysgu/awtistiaeth) mae'n rhaid i ddysgwyr ennill

  • O leiaf 65 credyd o'r grŵp Gorfodol.
Rhif yr Uned Teitl yr Uned
410 Deddfwriaeth, damcaniaethau a modelau o ymarfer person-ganolog / plentyn-ganolog
420 Ymarfer proffesiynol
424 Arwain ymarfer gydag unigolion sy'n byw gydag anabledd dysgu/awtistiaeth


Er mwyn cyflawni Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Arwain ymarfer ar gyfer plant a phobl ifanc anabl) mae'n rhaid i ddysgwyr ennill

  • O leiaf 63 credyd o'r grŵp Gorfodol.
Rhif yr Uned Teitl yr Uned
410 Deddfwriaeth, damcaniaethau a modelau o ymarfer person-ganolog / plentyn-ganolog
420 Ymarfer proffesiynol
425 Arwain ymarfer ar gyfer plant a phobl ifanc anabl


Er mwyn cyflawni Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Arwain ymarfer ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal) mae'n rhaid i ddysgwyr ennill

  • O leiaf 62 credyd o'r grŵp Gorfodol.
Rhif yr Uned Teitl yr Uned
410 Deddfwriaeth, damcaniaethau a modelau o ymarfer person-ganolog / plentyn-ganolog
420 Ymarfer proffesiynol
426 Arwain ymarfer ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal


Er mwyn cyflawni Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Arwain ymarfer gyda theuluoedd/gofalwyr) mae'n rhaid i ddysgwyr ennill

  • O leiaf 65 credyd o'r grŵp Gorfodol.
Rhif yr Uned Teitl yr Uned
410 Deddfwriaeth, damcaniaethau a modelau o ymarfer person-ganolog / plentyn-ganolog
420 Ymarfer proffesiynol
427  Arwain ymarfer gyda theuluoedd a gofalwyr

 

Rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:

  • portffolio o dystiolaeth
  • prosiect sy'n cynnwys cyfres o dasgau ysgrifenedig, arsylwi ymarfer yn uniongyrchol a thrafodaeth broffesiynol

Mae'r asesiadau hyn wedi'u cynllunio i ymgeiswyr ddangos eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u sgiliau o'r unedau gorfodol a chynnwys eu llwybr dewisol. Mae'r asesiadau'n cwmpasu amrywiaeth o elfennau ysgrifenedig i adlewyrchu gwybodaeth a dealltwriaeth, yn ogystal ag elfennau ymarfer sy'n cynnwys arsylwi ymarfer dysgwyr yn uniongyrchol er mwyn cadarnhau eu bod yn meddu ar y sgiliau ymarferol sy'n ofynnol ar gyfer cynnwys eu llwybr dewisol.

Mae'r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu mewn cyflogaeth neu astudiaethau pellach ar lefel uwch. 

I gael rhagor o wybodaeth am y gofynion ar gyfer gweithio yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan gynnwys swyddi penodol, gweler y ‘Fframwaith cymwysterau ar gyfer gofal cymdeithasol a gofal plant rheoledig yng Nghymru’ sydd ar gael ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Cysylltwch â ni

Dysgwyr/Canolfannau Newydd


hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930801

Canolfannau Presennol


hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930800

Dogfennau Allweddol
8040 08 L4 Hsc Professional Practice Specification Welsh July 2021 V11
Llawlyfr y Cymhwyster
8040 08A L4 Hsc Professional Practice Assessment Pack Welsh
Pecyn Asesu

Fel rhan o gymwysterau Lefel 4 a 5 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant bydd angen i bob dysgwr gwblhau Asesiad Allanol. I wneud hyn, bydd angen i'r dysgwyr gofrestru ar lwyfan Pro, yn hytrach na Walled Garden.

Rydym wedi datblygu fideo ‘Getting Started with Pro’ i’ch cynghori chi sut mae creu defnyddwyr ar lwyfan Pro, yn ogystal â sut mae cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymwysterau hyn.

Mae rhagor o ddeunyddiau cymorth ar gael yn Pro o dan y tab Cymwysterau Cymru ac os oes gennych chi ragor o gwestiynau am hyn, anfonwch e-bost at: hclw.customer@cityandguilds.com

Deunyddiau Cwrs
Hidlo yn ôl
Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Parodrwydd Canolfannau

Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Enghraifft Asesu

8040-08_HSC_Task Biii_Version A_250521_Welsh

8040-08_HSC_Task Biii_Version B_250521_Welsh

Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.

Webinar Recordings & Materials
Recordiadau Gweminar
Digwyddiad Cyswllt
Gweminar - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cliciwch yma i weld
Cyflwyniad PDF - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cliciwch yma i weld
Holi ac ateb - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cliciwch yma i weld
Gweminar - Rhwydwaith y Gaeaf: Cyfres o Gymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 Cliciwch yma i weld
Cyflwyniad PDF - Rhwydwaith y Gaeaf: Cyfres o Gymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 Cliciwch yma i weld

Fel rhan o gymwysterau Lefel 4 a 5 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant bydd angen i bob dysgwr gwblhau Asesiad Allanol. I wneud hyn, bydd angen i'r dysgwyr gofrestru ar lwyfan Pro, yn hytrach na Walled Garden.

Rydym wedi datblygu fideo ‘Getting Started with Pro’ i’ch cynghori chi sut mae creu defnyddwyr ar lwyfan Pro, yn ogystal â sut mae cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymwysterau hyn.

Mae rhagor o ddeunyddiau cymorth ar gael yn Pro o dan y tab Cymwysterau Cymru ac os oes gennych chi ragor o gwestiynau am hyn, anfonwch e-bost at: hclw.customer@cityandguilds.com