Neidio i'r prif gynnwy

UG/Uwch Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant

TAG UG/U

Dewch o hyd i ganolfan

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau o fewn 30 milltir i'ch lleoliad. Ceisiwch eto gan ddefnyddio cod post arall i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?

Mae'r cymhwyster TAG UG a Safon Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yn addas ar gyfer dysgwyr ôl-16 sydd â diddordeb mewn dysgu am ddatblygiad a gofal unigolion drwy gydol oes o adeg cenhedlu i oedolaeth ddiweddarach.

Bydd dysgwyr yn dilyn astudiaeth eang o iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant ar lefel UG, ac wedyn gallant ddewis rhwng dau lwybr ar lefel U2 i ddatblygu dyfnder gwybodaeth a dealltwriaeth naill ai mewn gofal plant neu iechyd a gofal cymdeithasol oedolion.

Mae'r cymhwyster yn cynnig llwybr dilyniant addas ar gyfer dysgwyr sydd wedi astudio cymwysterau Lefel 2 yn y gyfres iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant gan gynnwys:

  • TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant
  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau
  • Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd, neu
  • Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd.

Mae'r cymhwyster TAG UG a Safon Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant hefyd yn addas ar gyfer dysgwyr nad ydynt wedi astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol o'r blaen ond sydd â'r gallu i astudio Lefel 3.

Speaking To Friends And Family

Mae'r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i feithrin a dangos eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u dealltwriaeth o fewn cyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant.

Mae'r materion cyfredol canlynol wedi'u cynnwys yn y fanyleb:

  • hybu iechyd a llesiant
  • cefnogi iechyd, llesiant a gwydnwch yng Nghymru
  • persbectifau damcaniaethol ar ddatblygiad plant a phobl ifanc
  • cefnogi datblygiad, iechyd, llesiant a gwydnwch plant a phobl ifanc
  • persbectifau damcaniaethol ar ymddygiad oedolion
  • cefnogi oedolion i gynnal iechyd, llesiant a gwydnwch

Mae'r cymhwyster TAG UG a Safon Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant wedi'i rannu'n gyfanswm o chwe uned, dwy uned UG (Uned 1 ac Uned 2) a phedair uned U2 (unedau 3, 4, 5 a 6). Mae dysgwyr Safon Uwch yn astudio cyfanswm o bedair uned: dwy uned UG ynghyd â'r ddwy uned U2 yn ymwneud â'r llwybr a ddewiswyd ganddynt.

Uned Teitl yr Uned Asesu
1 Hybu iechyd a llesiant Allanol
2 Cefnogi iechyd, llesiant a gwydnwch yng Nghymru Mewnol
3 Persbectifau damcaniaethol ar ddatblygiad plant a phobl ifanc Allanol
4 Cefnogi datblygiad, iechyd, llesiant a gwydnwch plant a phobl
ifanc
Mewnol
5 Persbectifau damcaniaethol ar ymddygiad oedolion Allanol
6 Cefnogi oedolion i gynnal iechyd, llesiant a gwydnwch plant a
phobl ifanc
Mewnol

Mae 50% o'r cymhwyster TAG UG a Safon Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yn cael ei asesu'n fewnol a 50% yn cael ei asesu'n allanol. Rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:

  • aseiniadau a osodir yn allanol, a'u marcio'n fewnol
  • arholiadau allanol

Mae’r cymhwyster yn cynnig sylfaen addas ar gyfer astudio iechyd a gofal cymdeithasol drwy amrywiaeth o gyrsiau addysg uwch, neu i gyflogaeth. Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i gymwysterau eraill o fewn y gyfres iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant.

Yn ogystal, mae'r fanyleb hon yn gwrs astudio sy'n gydlynol, yn foddhaol ac yn werth chweil i'r dysgwyr hynny nad ydynt yn symud ymlaen i astudio ymhellach yn y pwnc hwn.

Mae'r pwyntiau tariff UCAS canlynol ar gael am y cymhwyster TAG UG a Safon Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal plant:

Gradd Pwyntiau
A* 56
A 48
B 40
C 32
D 24
E 16

Cysylltwch â ni

Karen Bushell

Swyddog Pwnc
IGCaGP@cbac.co.uk
029 2240 4264

Kwai Wong

Swyddog Cefnogaeth Pwnc
IGCaGP@cbac.co.uk
029 2240 4264

Dogfennau Allweddol
Wjec Gce Hsccc Gft W 04122020
Canllaw Addysgu

Gwerslyfrau

CBAC TAG UG Safon mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant Uned 1 a 2 - Archebu

CBAC Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant U2: Llwybr gofal plant Uned 3 a 4 - Archebu

CBAC Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant U2: Llwybr iechyd a gofal cymdeithasol oedolion Uned 5 a 6 - Archebu  
Deunyddiau Cwrs
Hidlo yn ôl
Adroddiadau Arholwyr - Haf 2023

Adroddiadau Arholwyr - Haf 2022

Uned 2 Asesiad di-arholiad - Taflen Farciau a Ffurflen Datganiad

Uned 4 Asesiad di-arholiad - Taflen Farciau a Ffurflen Datganiad

Uned 6 Asesiad di-arholiad - Taflen Farciau a Ffurflen Datganiad

Cyflwyniad Noson Agored

Croeso i UG/Uwch: Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant

TAG IGCGP Llwybr Gofal Plant - Cwestiynau Cyffredin ar ôl DPP (Tachwedd 2021)

TAG IGCGP Llwybr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Oedolion - Cwestiynau Cyffredin ar ôl DPP (Tachwedd 2021)

Deunyddiau Hyfforddi Mynychwyr - Digwyddiad Paratoi i Addysgu - Gaeaf 2020

Llawlyfr Gweinyddu CBAC

Mae'r Llawlyfr Gweinyddu hwn yn rhoi'r wybodaeth hanfodol i ganolfannau yng Nghymru ar gyfer gweinyddu'r cymwysterau a reolir gan CBAC.

TAG Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Cwestiynau ac Atebion Gaeaf 2024

Recordiadau Gweminar a Deunyddiau
Digwyddiad Cyswllt
Goffynnwch i'r Tim Pwnc - Unedau 1 & 2 (17/01/22) Cliciwch yma i weld
Goffynnwch i'r Tim Pwnc - Unedau 3 & 4 (24/01/22) Cliciwch yma i weld
Goffynnwch i'r Tim Pwnc - Unedau 5 & 6 (26/01/22) Cliciwch yma i weld

Gwerslyfrau

CBAC TAG UG Safon mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant Uned 1 a 2 - Archebu

CBAC Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant U2: Llwybr gofal plant Uned 3 a 4 - Archebu

CBAC Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant U2: Llwybr iechyd a gofal cymdeithasol oedolion Uned 5 a 6 - Archebu