TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant (Gradd Unigol a Dwyradd)
TGAUDefnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau o fewn 30 milltir i'ch lleoliad. Ceisiwch eto gan ddefnyddio cod post arall i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?
Mae’r TGAU mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yn addas ar gyfer dysgwyr 14-16 oed sydd â diddordeb mewn dysgu am ddatblygiad a gofal unigolion trwy gydol y cylch bywyd, o’u cenhedlu hyd nes y byddant yn oedolion.
Nid oes unrhyw ofynion dysgu blaenorol ar gyfer y cymhwyster hwn. Mae’n addas ar gyfer dysgwyr sydd wedi cyflawni cymhwyster Lefel 1 neu sydd heb unrhyw wybodaeth flaenorol o’r sectorau gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.
Mae'r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i feithrin a dangos eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u dealltwriaeth o fewn cyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant.
Mae'r materion canlynol wedi'u cynnwys yn y fanyleb:
- twf, datblygiad a llesiant dynol
- hybu a chynnal iechyd a llesiant
- iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant yn yr 21ain ganrif
- hybu a chynnal iechyd a llesiant i gyflawni canlyniadau cadarnhaol
Mae'r cymhwyster TGAU mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant ar gael fel gradd unigol a dwyradd. Mae unedau 1 a 2 yn diffinio'r cynnwys pwnc ar gyfer y cymhwyster gradd unigol. Mae unedau 1, 2, 3 a 4 yn diffinio'r cynnwys ar gyfer y cymhwyster dwyradd.
Uned | Teitl yr Uned | Asesu |
1 | Twf, datblygiad a llesiant dynol | Allanol |
2 | Hybu a chynnal iechyd a llesiant | Mewnol |
3 | Iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant yn yr 21ain ganrif | Allanol |
4 | Hybu a chynnal iechyd a llesiant er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol | Mewnol |
Mae 40% o'r cymhwyster TGAU mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yn cael ei asesu'n fewnol a 60% yn cael ei asesu'n allanol. Rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:
- aseiniadau a osodir yn allanol, a'u marcio'n fewnol
- arholiadau allanol
Mae'r cymhwyster hwn yn cefnogi dilyniant i ddysgu/hyfforddiant a/neu gymwysterau pellach, gan gynnwys:
- Lefel 3 Tystysgrif a Diploma mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau
- TAG Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant
- Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
- Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
- Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
- Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
- Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
- Prentisiaethau mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cysylltwch â ni
Karen Bushell
Swyddog Pwnc
IGCEaCh@cbac.co.uk
029 2240 4264
Kwai Wong
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
IGCaGP@cbac.co.uk
029 2240 4264
Gwerslyfrau
CBAC TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant Unedau 1 a 2 - Archebu | CBAC TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant Llyfr Athrawon Unedau 1 a 2 - Archebu |
CBAC TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant Unedau 3 a 4 - Archebu | CBAC TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant Unedau 3 a 4 - Archebu |
Digwyddiad | Cyswllt |
---|---|
Gweminar: TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant – Y Camau Nesaf (Llandudno) | Cliciwch yma i weld |
Gwerslyfrau
CBAC TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant Unedau 1 a 2 - Archebu | CBAC TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant Llyfr Athrawon Unedau 1 a 2 - Archebu |
CBAC TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant Unedau 3 a 4 - Archebu | CBAC TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant Unedau 3 a 4 - Archebu |