Neidio i'r prif gynnwy

Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer

Lefel 5

Dewch o hyd i ganolfan

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau o fewn 30 milltir i'ch lleoliad. Ceisiwch eto gan ddefnyddio cod post arall i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?

Cymhwyster sy'n seiliedig ar ymarfer yw hwn i'r sawl sydd â phrofiad o arwain neu reoli yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy'n bodloni gofynion rheoleiddiol ychwanegol sy'n berthnasol i rai lleoliadau gwaith.

Mae'n addas ar gyfer dysgwyr sydd:

  • am ddangos y cymwyseddau a nodir yn y cymhwyster fel rhan o rôl eu swydd, sydd hefyd yn bodloni unrhyw reoliadau o ran isafswm oedran yn y lleoliad gwaith
  • wedi cwblhau cymhwyster Lefel 4 Arwain a Rheoli priodol, sy'n cael y cyfle i roi'r hyn maent wedi'i ddysgu ar waith, a bodloni unrhyw ofynion rheoleiddiol ychwanegol
Health Visitor

Mae'r cymhwyster Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer yn cynnwys yr unedau gorfodol canlynol:

  • Arwain a rheoli ymarfer person/plentyn-ganolog
  • Arwain a rheoli perfformiad tîm effeithiol
  • Arwain a rheoli ansawdd y ddarpariaeth gwasanaethau er mwyn bodloni gofynion deddfwriaethol, rheoleiddiol a sefydliadol
  • Ymarfer proffesiynol
  • Arwain a rheoli ymarfer sy'n hyrwyddo diogelu unigolion
  • Arwain a rheoli iechyd a diogelwch yn y lleoliad gwaith 

Mae ystod o unedau dewisol ar gael.

Er mwyn cyflawni'r cymhwyster Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer, rhaid i ddysgwyr ennill cyfanswm o 120 o gredydau o leiaf.

  • Rhaid ennill 20 o gredydau o grŵp Gorfodol A
  • Rhaid ennill 70 o gredydau o grŵp Gorfodol B
  • Rhaid ennill o leiaf 30 o gredydau o'r grŵp Dewisol

Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer caiff yr asesiad ei asesu'n allanol.

Rhaid i ddysgwyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:

  • portffolio o dystiolaeth
  • project busnes
  • trafodaeth broffesiynol

Mae'r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i wella eu cyfleoedd cyflogaeth neu i barhau ag astudiaethau pellach ar lefel uwch.

Cysylltwch â ni

Dysgwyr/Canolfannau Newydd


hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930801

Canolfannau Presennol


hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930800

Dogfennau Allweddol
8040 10 L5 Hsc Practice Assessment Pack Welsh Mar20
Pecyn Asesu

Fel rhan o gymwysterau Lefel 4 a 5 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant bydd angen i bob dysgwr gwblhau Asesiad Allanol. I wneud hyn, bydd angen i'r dysgwyr gofrestru ar lwyfan Pro, yn hytrach na Walled Garden.

Rydym wedi datblygu fideo ‘Getting Started with Pro’ i’ch cynghori chi sut mae creu defnyddwyr ar lwyfan Pro, yn ogystal â sut mae cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymwysterau hyn.

Mae rhagor o ddeunyddiau cymorth ar gael yn Pro o dan y tab Cymwysterau Cymru ac os oes gennych chi ragor o gwestiynau am hyn, anfonwch e-bost at: hclw.customer@cityandguilds.com

Deunyddiau Cwrs
Hidlo yn ôl
Digwyddiad Parodrwydd Canolfan - Deunyddiau Hyfforddi Mynychwyr - Gwanwyn 2020

Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.

Webinar Recordings & Materials
Recordiadau Gweminar
Digwyddiad Cyswllt
Gweminar - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cliciwch yma i weld
Cyflwyniad PDF - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cliciwch yma i weld
Holi ac ateb - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cliciwch yma i weld
Gweminar - Rhwydwaith y Gaeaf: Cyfres o Gymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 Cliciwch yma i weld
Cyflwyniad PDF - Rhwydwaith y Gaeaf: Cyfres o Gymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 Cliciwch yma i weld

Fel rhan o gymwysterau Lefel 4 a 5 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant bydd angen i bob dysgwr gwblhau Asesiad Allanol. I wneud hyn, bydd angen i'r dysgwyr gofrestru ar lwyfan Pro, yn hytrach na Walled Garden.

Rydym wedi datblygu fideo ‘Getting Started with Pro’ i’ch cynghori chi sut mae creu defnyddwyr ar lwyfan Pro, yn ogystal â sut mae cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymwysterau hyn.

Mae rhagor o ddeunyddiau cymorth ar gael yn Pro o dan y tab Cymwysterau Cymru ac os oes gennych chi ragor o gwestiynau am hyn, anfonwch e-bost at: hclw.customer@cityandguilds.com