Neidio i'r prif gynnwy

Lefel 5 Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer

Lefel 5

Dewch o hyd i ganolfan

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau o fewn 30 milltir i'ch lleoliad. Ceisiwch eto gan ddefnyddio cod post arall i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?

Mae'n ofynnol i ddysgwyr fod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli yn y maes Gofal, Proses Chwarae, Proses Ddysgu, a Datblygiad Plant cyn dechrau'r cymhwyster Lefel 5 Ymarfer hwn.

Mae'r cymhwyster hwn yn seiliedig ar ymarfer ar gyfer y rhai sydd â phrofiad mewn rôl arwain neu reoli yn y sector Gofal Plant. Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gynllunio i helpu dysgwyr dros 19 oed i ymarfer fel arweinwyr a rheolwyr yn y sector. Mae'n arbennig o berthnasol i'r rhai sy'n rheoli'r cwricwlwm ar gyfer plant 3-7 oed mewn lleoliadau Cyfnod Sylfaen yng Nghymru. Mae hefyd yn addas ar gyfer:

  • dysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn llwyddiannus
  • dysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster perthnasol yn llwyddiannus yn y 'Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol ar gyfer gofal cymdeithasol a gofal plant rheoledig yng Nghymru'
Cerebral Palsy

Mae'r cymhwyster Lefel 5 Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn cynnwys yr unedau gorfodol canlynol:

  • Arwain a rheoli ymarfer plentyn-ganolog
  • Arwain a rheoli perfformiad tîm effeithiol
  • Arwain a rheoli ansawdd y gweithle/lleoliad
  • Ymarfer proffesiynol
  • Arwain a rheoli ymarfer sy'n hybu'r broses o ddiogelu plant
  • Arwain a rheoli iechyd, diogelwch a diogeledd yn y gweithle/lleoliad

 Mae ystod o unedau dewisol ar gael.

Er mwyn cyflawni'r cymhwyster Lefel 5 Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, rhaid i ddysgwyr gyflawni cyfanswm o 120 o gredydau o leiaf.

  • Rhaid cyflawni 90 o gredydau o'r grŵp Gorfodol
  • Rhaid cyflawni o leiaf 30 o gredydau o'r grŵp Dewisol

Lefel 5 Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Caiff yr asesiad ei asesu'n allanol.

Rhaid i ddysgwyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:

  • portffolio o dystiolaeth
  • project busnes
  • trafodaeth broffesiynol

Mae'r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i wella eu cyfleoedd cyflogaeth neu i barhau ag astudiaethau pellach ar lefel uwch.

Cysylltwch â ni

Dysgwyr/Canolfannau Newydd


hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930801

Canolfannau Presennol


hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930800

Dogfennau Allweddol
Dechrau Arni gyda Pro

Fel rhan o gymwysterau Lefel 4 a 5 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant bydd angen i bob dysgwr gwblhau Asesiad Allanol. I wneud hyn, bydd angen i'r dysgwyr gofrestru ar lwyfan Pro, yn hytrach na Walled Garden.

Rydym wedi datblygu fideo ‘Getting Started with Pro’ i’ch cynghori chi sut mae creu defnyddwyr ar lwyfan Pro, yn ogystal â sut mae cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymwysterau hyn.

Mae rhagor o ddeunyddiau cymorth ar gael yn Pro o dan y tab Cymwysterau Cymru ac os oes gennych chi ragor o gwestiynau am hyn, anfonwch e-bost at: hclw.customer@cityandguilds.com

Deunyddiau Cwrs
Hidlo yn ôl
Deunyddiau Hyfforddi Mynychwyr - Digwyddiad Parodrwydd Canolfan - Gaeaf 2020

Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.

 

Lady On Online Call
Recordiadau Gweminar
Digwyddiad Cyswllt
Gweminar - Rhwydwaith y Gaeaf: Cyfres o Gymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 Cliciwch yma i weld
Cyflwyniad PDF - Rhwydwaith y Gaeaf: Cyfres o Gymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 Cliciwch yma i weld
Dechrau Arni gyda Pro

Fel rhan o gymwysterau Lefel 4 a 5 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant bydd angen i bob dysgwr gwblhau Asesiad Allanol. I wneud hyn, bydd angen i'r dysgwyr gofrestru ar lwyfan Pro, yn hytrach na Walled Garden.

Rydym wedi datblygu fideo ‘Getting Started with Pro’ i’ch cynghori chi sut mae creu defnyddwyr ar lwyfan Pro, yn ogystal â sut mae cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymwysterau hyn.

Mae rhagor o ddeunyddiau cymorth ar gael yn Pro o dan y tab Cymwysterau Cymru ac os oes gennych chi ragor o gwestiynau am hyn, anfonwch e-bost at: hclw.customer@cityandguilds.com