Neidio i'r prif gynnwy

Lefel 4 Ymarferwr Gwasanaethau Cymdeithasol

Lefel 4

Dewch o hyd i ganolfan

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau o fewn 30 milltir i'ch lleoliad. Ceisiwch eto gan ddefnyddio cod post arall i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?

Nod y cymhwyster hwn yw datblygu'r wybodaeth, dealltwriaeth, ymddygiadau a sgiliau sy'n sail i rôl ymarferwr gwasanaethau cymdeithasol. 

Mae'r cymhwyster hwn wedi cael ei ddatblygu ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol yn y sector, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Mae'r cymhwyster yn seiliedig ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth ac ymarfer dysgwyr. Mae wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr mewn amgylchedd dysgu seiliedig ar waith, addysg bellach ac addysg uwch. 

Childcare Two Ladies With Little Boy

Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni rôl ymarferwr gwasanaethau cymdeithasol.

Er mwyn ennill cymhwyster Lefel 4 Ymarferwr Gwasanaethau Cymdeithasol, rhaid i ddysgwyr gyflawni 120 credyd o leiaf o'r grŵp Gorfodol.

440

Deall deddfwriaeth yng nghyd-destun rôl Ymarferwr Gwasanaethau Cymdeithasol
441 Ymarfer proffesiynol
442 Deall damcaniaethau a modelau a'u perthynas ag ymarfer person/plentyn-ganolog a dulliau seiliedig ar hawliau
443 Deall ffactorau sy'n cyfrannu at yr angen i unigolion a/neu ofalwyr gael gofal a chymorth
444 Cefnogi'r broses asesu a chynllunio gofal a chymorth
445 Diogelu unigolion

Rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:

  • portffolio o dystiolaeth
  • arsylwi ar ymarfer yn uniongyrchol
  • cyfrif myfyriol o ymarfer
  • cyfrif sy'n gysylltiedig â deddfwriaeth
  • trafodaeth broffesiynol

Mae'r asesiadau wedi cael eu dylunio i'r ymgeiswyr ddangos eu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau o ran y cynnwys gorfodol. Mae'r asesiadau yn cwmpasu ystod o elfennau ysgrifenedig er mwyn adlewyrchu gwybodaeth a dealltwriaeth, yn ogystal ag elfennau ymarfer sy'n cynnwys arsylwi ar ymarfer dysgwyr yn uniongyrchol er mwyn cadarnhau eu cymhwysedd yn y sgiliau ymarferol.

Mae'r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i gamu ymlaen mewn gyrfa neu i astudio ymhellach ar lefel uwch, yn amodol ar bolisïau derbyn sefydliadau addysg uwch unigol. 

I gael rhagor o wybodaeth am y gofynion ar gyfer gweithio yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan gynnwys swyddi penodol, gweler y ‘Fframwaith cymwysterau ar gyfer gofal cymdeithasol a gofal plant rheoledig yng Nghymru’ sydd ar gael ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Cysylltwch â ni

Dysgwyr/Canolfannau Newydd


hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930801

Canolfannau Presennol


hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930800

Dogfennau Allweddol
8040 13 L4 Ssp Qual Handbook Welsh V11 Oct
Llawlyfr y Cymhwyster
8041 08D L4 Ssp Assessment Pack Welsh
Pecyn asesu

Fel rhan o gymwysterau Lefel 4 a 5 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant bydd angen i bob dysgwr gwblhau Asesiad Allanol. I wneud hyn, bydd angen i'r dysgwyr gofrestru ar lwyfan Pro, yn hytrach na Walled Garden.

Rydym wedi datblygu fideo ‘Getting Started with Pro’ i’ch cynghori chi sut mae creu defnyddwyr ar lwyfan Pro, yn ogystal â sut mae cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymwysterau hyn.

Mae rhagor o ddeunyddiau cymorth ar gael yn Pro o dan y tab Cymwysterau Cymru ac os oes gennych chi ragor o gwestiynau am hyn, anfonwch e-bost at: hclw.customer@cityandguilds.com

Deunyddiau Cwrs
Hidlo yn ôl
Lefel 4 Ymarferwr Gwasanaethau Cymdeithasol - Parodrwydd Canolfannau

Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.

Open Graph Images 2023 07 27T155643.524
Recordiadau Gweminar
Digwyddiad Cyswllt
Gweminar - Rhwydwaith y Gaeaf: Cyfres o Gymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 Cliciwch yma i weld
Cyflwyniad PDF - Rhwydwaith y Gaeaf: Cyfres o Gymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 Cliciwch yma i weld

Fel rhan o gymwysterau Lefel 4 a 5 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant bydd angen i bob dysgwr gwblhau Asesiad Allanol. I wneud hyn, bydd angen i'r dysgwyr gofrestru ar lwyfan Pro, yn hytrach na Walled Garden.

Rydym wedi datblygu fideo ‘Getting Started with Pro’ i’ch cynghori chi sut mae creu defnyddwyr ar lwyfan Pro, yn ogystal â sut mae cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymwysterau hyn.

Mae rhagor o ddeunyddiau cymorth ar gael yn Pro o dan y tab Cymwysterau Cymru ac os oes gennych chi ragor o gwestiynau am hyn, anfonwch e-bost at: hclw.customer@cityandguilds.com