Neidio i'r prif gynnwy

Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant

Lefel 4

Dewch o hyd i ganolfan

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau o fewn 30 milltir i'ch lleoliad. Ceisiwch eto gan ddefnyddio cod post arall i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?

Nod y cymhwyster hwn yw datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth, ymddygiadau a sgiliau sy'n ategu Ymarfer Proffesiynol yn y sector gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant. Mae'r cymhwyster hwn yn bennaf ar gyfer pobl sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal plant rheoleiddiedig gyda theuluoedd a phlant o dan 8 oed a gwasanaethau plant y GIG ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda theuluoedd a phlant 0-19 oed. Cafodd y cymhwyster hwn ei ddatblygu mewn cydweithrediad agos â rhanddeiliaid allweddol yn y sector, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Mae'r cymhwyster yn seiliedig ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth ac ymarfer dysgwyr. Cafodd ei lunio ar gyfer dysgwyr ym maes dysgu seiliedig ar waith, addysg bellach ac addysg uwch.

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnig y cam datblygu nesaf i ddysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Ymarfer).

5 To 10 Years Old Thmb

Bydd y cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i feithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ymarfer proffesiynol mewn lleoliadau gofal plant neu iechyd.

Er mwyn ennill cymhwyster Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, rhaid i ddysgwyr ennill o leiaf 60 credyd i gyd.

Er mwyn ennill y cymhwyster, rhaid i ddysgwyr ddilyn un o'r tri llwybr canlynol:

  • Gweithio gyda theuluoedd a gofalwyr i ddatblygu sgiliau rhianta
  • Gweithio gyda Phlant ag Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu (SLCN)
  • Adnabod a chefnogi plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:

  • portffolio o dystiolaeth
  • project, sy'n cynnwys cyfres o dasgau ysgrifenedig, arsylwi'n uniongyrchol ar ymarfer a thrafodaeth broffesiynol

Mae'r asesiadau wedi cael eu llunio i ymgeiswyr ddangos eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u sgiliau o ran y ddwy uned orfodol a chynnwys y llwybr a ddewiswyd ganddynt. Mae'r asesiadau yn cynnwys nifer o elfennau ysgrifenedig er mwyn adlewyrchu gwybodaeth a dealltwriaeth, yn ogystal ag elfennau o ymarfer sy'n cynnwys arsylwi'n uniongyrchol ar ymarfer dysgwyr er mwyn cadarnhau eu cymhwysedd yn y sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer cynnwys y llwybr a ddewiswyd ganddynt.

Mae'r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen yn eu gwaith neu i astudio ymhellach ar lefel uwch. 

I gael rhagor o wybodaeth am y gofynion ar gyfer gweithio yn y sector Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, gan gynnwys rolau swyddi penodol, gweler y ‘Fframwaith cymwysterau ar gyfer gofal cymdeithasol a gofal plant rheoleiddiedig yng Nghymru’ sydd ar gael ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Cysylltwch â ni

Dysgwyr/Canolfannau Newydd


hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930801

Canolfannau Presennol


hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930800

Dogfennau Allweddol
8041 16 L4 Preparing For Leadership And Management In Ccpld Specification Welsh V12 Jul21
Llawlyfr y Cymhwyster
8041 16 L4 Ccpld Assessment Pack Welsh March23 V21
Pecyn Asesu
Dechrau Arni gyda Pro

Fel rhan o gymwysterau Lefel 4 a 5 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant bydd angen i bob dysgwr gwblhau Asesiad Allanol. I wneud hyn, bydd angen i'r dysgwyr gofrestru ar lwyfan Pro, yn hytrach na Walled Garden.

Rydym wedi datblygu fideo ‘Getting Started with Pro’ i’ch cynghori chi sut mae creu defnyddwyr ar lwyfan Pro, yn ogystal â sut mae cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymwysterau hyn.

Mae rhagor o ddeunyddiau cymorth ar gael yn Pro o dan y tab Cymwysterau Cymru ac os oes gennych chi ragor o gwestiynau am hyn, anfonwch e-bost at: hclw.customer@cityandguilds.com

Deunyddiau Cwrs
Hidlo yn ôl
8041-16 GCDDP Tasg F Fersiwn A (Cymraeg)_300922

8041-16 GCDDP Tasg F Fersiwn B (Cymraeg)_300922

Tasg F - Pecyn Asesu Sampl

Deunyddiau Hyfforddi Mynychwyr - Digwyddiad Parodrwydd Canolfan - Gaeaf 2020

Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.

 

Lady On Online Call
Recordiadau Gweminar
Digwyddiad Cyswllt
Lefel 3 GChDDP Deunyddiau Hyfforddi Mynychwyr Paratoi i Addysgu (Rhagfyr 2019) Cliciwch yma i weld
Deunyddiau Hyfforddi Mynychwyr Paratoi i Addysgu (Hydref 2019/20) Cliciwch yma i weld
Lefel 3 GChDDP Ymarfer a Theori: gweithdy Unedau 330 a 331 (Mai 2020) Cliciwch yma i weld
PowerPoint Cymraeg o Gyfarfod Rhwydweithio GChDDP (Mai 2020) Cliciwch yma i weld
Holi ac Ateb - Cyfarfod Rhwydwaith GChDDP (Mai 2020) Cliciwch yma i weld
PowerPoint Cymraeg o CAM 3 Trefniadau lliniaru cyflwyno ac asesu 2020/21 (Medi 2020) Cliciwch yma i weld
CAM 3 Trefniadau lliniaru cyflwyno ac asesu 2020/21 (Medi 2020) Cliciwch yma i weld
Holi ac Ateb – CAM 3 Trefniadau lliniaru cyflwyno ac asesu 2020/21 (Medi 2020) Cliciwch yma i weld
Lefel 3: Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori Rhwydwaith Hydref (2020) Cliciwch yma i weld
PowerPoint Cymraeg o Gyfarfod Rhwydweithio GChDDP (Hydref 2020) Cliciwch yma i weld
Holi ac Ateb Rhwydwaith (Hydref 2020) Cliciwch yma i weld
Lefel 3: Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori Rhwydwaith y Gwanwyn (2021) Cliciwch yma i weld
PowerPoint Cymraeg o Gyfarfod Rhwydweithio GChDDP (Gwanwyn 2021) Cliciwch yma i weld
Holi ac Ateb Rhwydwaith (Gwanwyn 2021) Cliciwch yma i weld
Lefel 2 a 3 Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori – Deall y Daith Asesu Ymarfer (Tachwedd 2021) Cliciwch yma i weld
Lefel 2 a 3 GCDDP Ymarfer a Theori Deall y Daith Asesu Ymarfer – Deunydd (Tachwedd 2021) Cliciwch yma i weld
Holi ac Ateb - Deall y Daith Asesu Ymarfer (Tachwedd 2021) Cliciwch yma i weld
Asesiad Ymarfer Enghreifftiol (Arsylwi a Log Myfyriol) (Tachwedd 2021) Cliciwch yma i weld
Lefel 3 GChDDP: Ymarfer a Theori Rhwydwaith y Gwanwyn (2022) Cliciwch yma i weld
Holi ac Ateb - Lefel 3 GChDDP: Ymarfer a Theori Rhwydwaith y Gwanwyn (2022) Cliciwch yma i weld
Lefel 3 GChDDP: Ymarfer a Theori Rhwydwaith yr Hydref 2022 Cliciwch yma i weld
GChDDP Lefel 3: Uned 330 Ymarfer a Theori Rhwydwaith y Gwanwyn (2023) Cliciwch yma i weld
GChDDP Lefel 3: Uned 331 Ymarfer a Theori Rhwydwaith y Gwanwyn (2023) Cliciwch yma i weld
Dechrau Arni gyda Pro

Fel rhan o gymwysterau Lefel 4 a 5 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant bydd angen i bob dysgwr gwblhau Asesiad Allanol. I wneud hyn, bydd angen i'r dysgwyr gofrestru ar lwyfan Pro, yn hytrach na Walled Garden.

Rydym wedi datblygu fideo ‘Getting Started with Pro’ i’ch cynghori chi sut mae creu defnyddwyr ar lwyfan Pro, yn ogystal â sut mae cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymwysterau hyn.

Mae rhagor o ddeunyddiau cymorth ar gael yn Pro o dan y tab Cymwysterau Cymru ac os oes gennych chi ragor o gwestiynau am hyn, anfonwch e-bost at: hclw.customer@cityandguilds.com