Neidio i'r prif gynnwy

Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Lefel 4

Dewch o hyd i ganolfan

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau o fewn 30 milltir i'ch lleoliad. Ceisiwch eto gan ddefnyddio cod post arall i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?

Cymhwyster sy'n seiliedig ar wybodaeth yw hwn a luniwyd ar gyfer dysgwyr sy'n awyddus i weithio fel rheolwyr ond nad ydynt eto'n gweithio fel arweinwyr a rheolwyr yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'n addas ar gyfer y canlynol:

  • dysgwyr sydd wedi cwblhau Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol, neu gymhwyster cyfatebol, yn llwyddiannus
  • dysgwyr sydd wedi cwblhau Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion), neu gymhwyster cywerth cydnabyddedig
  • dysgwyr sydd wedi cwblhau Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc), neu gymhwyster cywerth cydnabyddedig
  • dysgwyr sydd wedi cwblhau TAG Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yn llwyddiannus
Elderly Man And Carer

Mae'r cymhwyster Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli yn y Maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnwys y tair uned ganlynol:

  • Deddfwriaeth, damcaniaethau a modelau ymarfer person/plentyn-ganolog
  • Fframweithiau damcaniaethol ar gyfer arwain a rheoli ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
  • Arwain a rheoli perfformiad tîm effeithiol mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

Er mwyn ennill cymhwyster Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, rhaid i ddysgwyr gyflawni cyfanswm o 60 credyd. Mae pob uned yn y cymhwyster hwn yn orfodol.

Caiff y cymhwyster Paratoi i Arwain a Rheoli yn y Maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei
asesu drwy gyfuniad o asesu mewnol ac allanol.

Ar gyfer yr asesiad allanol rhaid i ddysgwyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:

  • Project sy'n cynnwys adroddiad ysgrifenedig, cyflwyniad a thrafodaeth sy'n seiliedig ar newid arfaethedig i ymarfer

Ar gyfer yr asesiad mewnol, rhaid i ddysgwyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:

  • Cyfres o dasgau, sy'n cynnwys ymatebion llafar ac ysgrifenedig

Mae'r cymhwyster Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli yn y maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn darparu'r wybodaeth y mae rheolwyr ei angen i gymryd y cam cyntaf tuag at rôl arwain, gan gefnogi dilyniant llorweddol a fertigol i'r canlynol:

  • Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer

Ystyrir cyfleoedd astudio pellach a hyfforddiant proffesiynol gyda phrifysgolion ledled Cymru.

Cysylltwch â ni

Dysgwyr/Canolfannau Newydd


hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930801

Canolfannau Presennol


hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930800

Dogfennau Allweddol
8040 09 L4 Hsc Qualification Specification Welsh July 2021 V12
Llawlyfr y Cymhwyster
8040 09 L4 Hsc Assessment Pack Welsh March 2023 V13
Pecyn Asesu

Fel rhan o gymwysterau Lefel 4 a 5 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant bydd angen i bob dysgwr gwblhau Asesiad Allanol. I wneud hyn, bydd angen i'r dysgwyr gofrestru ar lwyfan Pro, yn hytrach na Walled Garden.

Rydym wedi datblygu fideo ‘Getting Started with Pro’ i’ch cynghori chi sut mae creu defnyddwyr ar lwyfan Pro, yn ogystal â sut mae cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymwysterau hyn.

Mae rhagor o ddeunyddiau cymorth ar gael yn Pro o dan y tab Cymwysterau Cymru ac os oes gennych chi ragor o gwestiynau am hyn, anfonwch e-bost at: hclw.customer@cityandguilds.com

Deunyddiau Cwrs
Hidlo yn ôl
Tasg C - Pecyn Asesu Sampl

Tasg F - Pecyn Asesu Sampl

8040-09_HSC_Task C_Version A_110221_Welsh

8040-09_HSC_Task C_Version B_110221_Welsh

8040-09_HSC_Task F_Version A_110221_Welsh

8040-09_HSC_Task F_Version B_110221_Welsh

Digwyddiad Parodrwydd Canolfan - Deunyddiau Hyfforddi Mynychwyr - Gwanwyn 2020

Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.

Webinar Recordings & Materials
Recordiadau Gweminar
Digwyddiad Cyswllt
Gweminar - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cliciwch yma i weld
Cyflwyniad PDF - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cliciwch yma i weld
Holi ac ateb - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cliciwch yma i weld
Gweminar - Rhwydwaith y Gaeaf: Cyfres o Gymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 Cliciwch yma i weld
Cyflwyniad PDF - Rhwydwaith y Gaeaf: Cyfres o Gymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 Cliciwch yma i weld
Gweminar - Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli ym Maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Dosbarthiadau meistr 1 (Uned 410: Deddfwriaeth, damcaniaethau a modelau ymarfer person/plentyn-ganolog) Cliciwch yma i weld
Gweminar - Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli ym Maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Dosbarthiadau meistr 2 (Uned 411: Fframweithiau damcaniaethol ar gyfer arwain a rheoli ym maes iechyd a gofal cymdeithasol) Cliciwch yma i weld
Gweminar - Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli ym Maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Dosbarthiadau meistr 3 (Unit 412: Arwain a rheoli perfformiad tîm effeithiol mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol) Cliciwch yma i weld

Fel rhan o gymwysterau Lefel 4 a 5 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant bydd angen i bob dysgwr gwblhau Asesiad Allanol. I wneud hyn, bydd angen i'r dysgwyr gofrestru ar lwyfan Pro, yn hytrach na Walled Garden.

Rydym wedi datblygu fideo ‘Getting Started with Pro’ i’ch cynghori chi sut mae creu defnyddwyr ar lwyfan Pro, yn ogystal â sut mae cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymwysterau hyn.

Mae rhagor o ddeunyddiau cymorth ar gael yn Pro o dan y tab Cymwysterau Cymru ac os oes gennych chi ragor o gwestiynau am hyn, anfonwch e-bost at: hclw.customer@cityandguilds.com