Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Lefel 4Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau o fewn 30 milltir i'ch lleoliad. Ceisiwch eto gan ddefnyddio cod post arall i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?
Cymhwyster sy'n seiliedig ar wybodaeth yw hwn a luniwyd ar gyfer dysgwyr sy'n awyddus i weithio fel rheolwyr ond nad ydynt eto'n gweithio fel arweinwyr a rheolwyr yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'n addas ar gyfer y canlynol:
- dysgwyr sydd wedi cwblhau Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol, neu gymhwyster cyfatebol, yn llwyddiannus
- dysgwyr sydd wedi cwblhau Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion), neu gymhwyster cywerth cydnabyddedig
- dysgwyr sydd wedi cwblhau Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc), neu gymhwyster cywerth cydnabyddedig
- dysgwyr sydd wedi cwblhau TAG Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant yn llwyddiannus
Mae'r cymhwyster Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli yn y Maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnwys y tair uned ganlynol:
- Deddfwriaeth, damcaniaethau a modelau ymarfer person/plentyn-ganolog
- Fframweithiau damcaniaethol ar gyfer arwain a rheoli ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
- Arwain a rheoli perfformiad tîm effeithiol mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
Er mwyn ennill cymhwyster Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, rhaid i ddysgwyr gyflawni cyfanswm o 60 credyd. Mae pob uned yn y cymhwyster hwn yn orfodol.
Caiff y cymhwyster Paratoi i Arwain a Rheoli yn y Maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei
asesu drwy gyfuniad o asesu mewnol ac allanol.
Ar gyfer yr asesiad allanol rhaid i ddysgwyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:
- Project sy'n cynnwys adroddiad ysgrifenedig, cyflwyniad a thrafodaeth sy'n seiliedig ar newid arfaethedig i ymarfer
Ar gyfer yr asesiad mewnol, rhaid i ddysgwyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:
- Cyfres o dasgau, sy'n cynnwys ymatebion llafar ac ysgrifenedig
Mae'r cymhwyster Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli yn y maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn darparu'r wybodaeth y mae rheolwyr ei angen i gymryd y cam cyntaf tuag at rôl arwain, gan gefnogi dilyniant llorweddol a fertigol i'r canlynol:
- Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer
Ystyrir cyfleoedd astudio pellach a hyfforddiant proffesiynol gyda phrifysgolion ledled Cymru.
Cysylltwch â ni
Dysgwyr/Canolfannau Newydd
hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930801
Canolfannau Presennol
hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930800
Fel rhan o gymwysterau Lefel 4 a 5 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant bydd angen i bob dysgwr gwblhau Asesiad Allanol. I wneud hyn, bydd angen i'r dysgwyr gofrestru ar lwyfan Pro, yn hytrach na Walled Garden.
Rydym wedi datblygu fideo ‘Getting Started with Pro’ i’ch cynghori chi sut mae creu defnyddwyr ar lwyfan Pro, yn ogystal â sut mae cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymwysterau hyn.
Mae rhagor o ddeunyddiau cymorth ar gael yn Pro o dan y tab Cymwysterau Cymru ac os oes gennych chi ragor o gwestiynau am hyn, anfonwch e-bost at: hclw.customer@cityandguilds.com
Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.
Digwyddiad | Cyswllt |
---|---|
Gweminar - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Cliciwch yma i weld |
Cyflwyniad PDF - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Cliciwch yma i weld |
Holi ac ateb - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Cliciwch yma i weld |
Gweminar - Rhwydwaith y Gaeaf: Cyfres o Gymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 | Cliciwch yma i weld |
Cyflwyniad PDF - Rhwydwaith y Gaeaf: Cyfres o Gymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 | Cliciwch yma i weld |
Gweminar - Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli ym Maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Dosbarthiadau meistr 1 (Uned 410: Deddfwriaeth, damcaniaethau a modelau ymarfer person/plentyn-ganolog) | Cliciwch yma i weld |
Gweminar - Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli ym Maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Dosbarthiadau meistr 2 (Uned 411: Fframweithiau damcaniaethol ar gyfer arwain a rheoli ym maes iechyd a gofal cymdeithasol) | Cliciwch yma i weld |
Gweminar - Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli ym Maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Dosbarthiadau meistr 3 (Unit 412: Arwain a rheoli perfformiad tîm effeithiol mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol) | Cliciwch yma i weld |
Fel rhan o gymwysterau Lefel 4 a 5 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant bydd angen i bob dysgwr gwblhau Asesiad Allanol. I wneud hyn, bydd angen i'r dysgwyr gofrestru ar lwyfan Pro, yn hytrach na Walled Garden.
Rydym wedi datblygu fideo ‘Getting Started with Pro’ i’ch cynghori chi sut mae creu defnyddwyr ar lwyfan Pro, yn ogystal â sut mae cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymwysterau hyn.
Mae rhagor o ddeunyddiau cymorth ar gael yn Pro o dan y tab Cymwysterau Cymru ac os oes gennych chi ragor o gwestiynau am hyn, anfonwch e-bost at: hclw.customer@cityandguilds.com