Lefel 4 Paratoi ar gyfer arwain a rheoli ym maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Lefel 4Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau o fewn 30 milltir i'ch lleoliad. Ceisiwch eto gan ddefnyddio cod post arall i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?
Cymhwyster sy'n seiliedig ar wybodaeth yw hwn ar gyfer staff profiadol sydd am ddatblygu eu potensial fel arweinwyr er mwyn symud ymlaen i rôl arwain a rheoli yn y sector Gofal Plant. Gan ei fod yn seiliedig ar wybodaeth, gall dysgwyr gwblhau'r cymhwyster hwn cyn iddynt gyrraedd lefel rôl arwain.
Mae'r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer:
- dysgwyr sydd wedi cwblhau'r cymwysterau canlynol neu'r hyn y cydnabyddir sy'n gyfwerth â nhw'n llwyddiannus:
- Lefel 2 Gofal, Proses Chwarae, Proses Ddysgu, a Datblygiad Plant: Ymarfer
- Lefel 3 Gofal, Proses Chwarae, Proses Ddysgu, a Datblygiad Plant: Ymarfer
- Lefel 3 Gofal, Proses Chwarae, Proses Ddysgu, a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
- hen gymhwyster a restrwyd yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant wedi'i Reoleiddio yng Nghymru – Gofal Cymdeithasol Cymru
Mae'r cymhwyster Lefel 4: Paratoi i Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn cynnwys y tair uned ganlynol:
- Arwain ymarfer plentyn-ganolog
- Fframweithiau damcaniaethol ar gyfer arwain a rheoli
- Deall sut I arwain a rheoli perfformiad tim effeithiol
Er mwyn ennill cymhwyster Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, rhaid i ddysgwyr gyflawni cyfanswm o 60 credyd. Mae pob uned yn y cymhwyster hwn yn orfodol.
Caiff y cymhwyster Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ei
asesu drwy gyfuniad o asesu mewnol ac allanol.
Ar gyfer yr asesiad allanol rhaid i ddysgwyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:
- Project sy'n cynnwys cyfres o dasgau, yn seiliedig ar newid arfaethedig i ymarfer
Ar gyfer yr asesiad mewnol, rhaid i ddysgwyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:
- Cyfres o dasgau, sy'n cynnwys ymatebion llafar ac ysgrifenedig
Mae Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli yn y maes Gofal, Proses Chwarae, Proses Ddysgu, a Datblygiad Plant yn rhoi'r wybodaeth i helpu rheolwyr gymryd eu cam cyntaf tuag at rôl arwain, ac er mwyn symud ymlaen i:
- Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant
- Lefel 5 Arwain a Rheoli Gofal, Proses Chwarae, Proses Ddysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer: ar yr amod bod y dysgwr mewn rôl swydd addas
Ystyrir cyfleoedd astudio pellach a hyfforddiant proffesiynol gyda phrifysgolion ledled Cymru.
Cysylltwch â ni
Dysgwyr/Canolfannau Newydd
hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930801
Canolfannau Presennol
hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930800
Dechrau Arni gyda Pro
Fel rhan o gymwysterau Lefel 4 a 5 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant bydd angen i bob dysgwr gwblhau Asesiad Allanol. I wneud hyn, bydd angen i'r dysgwyr gofrestru ar lwyfan Pro, yn hytrach na Walled Garden.
Rydym wedi datblygu fideo ‘Getting Started with Pro’ i’ch cynghori chi sut mae creu defnyddwyr ar lwyfan Pro, yn ogystal â sut mae cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymwysterau hyn.
Mae rhagor o ddeunyddiau cymorth ar gael yn Pro o dan y tab Cymwysterau Cymru ac os oes gennych chi ragor o gwestiynau am hyn, anfonwch e-bost at: hclw.customer@cityandguilds.com
Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.
Digwyddiad | Cyswllt |
---|---|
Gweminar - Rhwydwaith y Gaeaf: Cyfres o Gymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 | Cliciwch yma i weld |
Cyflwyniad PDF - Rhwydwaith y Gaeaf: Cyfres o Gymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 | Cliciwch yma i weld |
Dechrau Arni gyda Pro
Fel rhan o gymwysterau Lefel 4 a 5 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant bydd angen i bob dysgwr gwblhau Asesiad Allanol. I wneud hyn, bydd angen i'r dysgwyr gofrestru ar lwyfan Pro, yn hytrach na Walled Garden.
Rydym wedi datblygu fideo ‘Getting Started with Pro’ i’ch cynghori chi sut mae creu defnyddwyr ar lwyfan Pro, yn ogystal â sut mae cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymwysterau hyn.
Mae rhagor o ddeunyddiau cymorth ar gael yn Pro o dan y tab Cymwysterau Cymru ac os oes gennych chi ragor o gwestiynau am hyn, anfonwch e-bost at: hclw.customer@cityandguilds.com