Neidio i'r prif gynnwy

Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)

Lefel 3

Dewch o hyd i ganolfan

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau o fewn 30 milltir i'ch lleoliad. Ceisiwch eto gan ddefnyddio cod post arall i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Trosolwg o’r cymhwyster

Mae’r cymhwyster wedi ei selio ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth y dysgwyr a chymhwysedd i ymarfer mewn cyflogaeth. Mae’n darparu’r cyfle i gyfoethogi gwybodaeth a sgiliau gan ddefnyddio cynnwys hanfodol ac unedau opsiynol mewn lleoliadau sy’n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc, megis gofal yn y cartref neu ofal preswyl i blant, canolfannau preswyl i deuluoedd neu ofal maeth a lleoliadau gofal iechyd yn y gymuned. Yn bennaf, bydd dysgwyr yn gallu dangos eu bod yn gallu:

  • deall, ac ymroi yn ymarferol, egwyddorion a gwerthoedd sydd wrth wraidd iechyd a gofal cymdeithasol
  • deall, ac ymroi yn ymarferol, dulliau plentyn canolog
  • hybu a chefnogi ymarfer effeithiol mewn iechyd a gofal cymdeithasol
  • bod yn ymwybodol o bolisiau allweddol o fewn y sector a deall sut mae’r rhain yn effeithio ar ddatblygiad a darpariaeth y wasanaeth
  • gweithio mewn partneriaeth â phlant, eu teuluoedd/cynhalwyr ac amrywiaeth o bobl broffesiynol
  • dangos amrywiaeth o dechnegau datrys problemau
  • myfyrio ar ymarfer i wella trwy’r amser
  • defnyddio llythrenedd, rhifedd a sgiliau cymhwysedd digidol fel sy’n briodol yn eu rôl.

Does dim modd cwblhau’r cymhwyster hwn wrth gyflawni lleoliad gwaith. Mae dysgwyr angen bod yn darparu cefnogaeth i blant a phobl ifanc mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol neu ofal iechyd yn y gymuned.

Staff Discussions

Mae’n addas ar gyfer:

  • dysgwyr sydd wedi eu cyflogi ar hyn o bryd mewn lleoliadau megis gofal cartref neu ofal preswyl i blant, canolfannau preswyl i deuluoedd neu ofal maeth neu leoliadau gofal iechyd yn y gymuned
  • dysgwyr sydd wedi cwblhau un o’r cymwysterau canlynol:
  • Lefel 2 Diploma mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol
  • Lefel 2 Iechyd a gofal Cymdeithasol: Craidd
  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau
  • Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd
  • Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
  • Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
  • TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
  • Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer.

Mae’n argymelledig bod dysgwyr yn cwblhau’r cymhwyster craidd cyn, neu ochr yn ochr â’r Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc) achos bydd hwn yn ofyniad ar gyfer ymarfer sydd wedi ei osod gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae hefyd yn rhan o’r Brentisiaeth Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru).

Mae cynnwys hanfodol y cymhwyster yn ymochrol â’r themau allweddol y Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac yn cynnwys:

  • Egwyddorion ac ymarfer (plant a phobl ifanc)
  • Iechyd a lles (plant a phobl ifanc)
  • Ymarfer proffesiynol
  • diogelu
  • iechyd a diogelwch
  • amrywiaeth o feysydd ymarfer megis gweithio gyda theuluoedd a chynhalwyr neu blant sy’n derbyn gofal

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys uned hanfodol unigol ac amrywiaeth o unedau opsiynol sy’n adlewyrchu’r wybodaeth a sgiliau sydd eu hangen wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth a gyda’u teuluoedd.

I gwblhau’r cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc) mae dysgwyr angen cyflawni isafswm o 50 credyd:

  • 18 credyd angen eu cwblhau o’r uned hanfodol
  • Isafswm o 32 credyd angen eu dewis o gyfres o unedau opsiynol sy’n cynnwys unedau sydd ar gefnogaeth uniongyrchol a gofal iechyd

Mae’r dysgwr angen cwblhau:

  • portffolio o dystiolaeth sy’n cynnwys arsylwi uniongyrchol o ymarfer
  • tasgau sydd wedi eu llunio’n allanol a’u hasesu’n fewnol

Wrth gwblhau’r cymhwyster mi fydd yn galluogi’r dysgwyr i weithio mewn gofal iechyd a gofal cymdeithasol fel gweithiwr Lefel 3 cymwysedig gyda phlant a phobl ifanc.

Bydd hefyd o gymorth i ddysgwyr ceisio am gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel gweithiwr gofal cymdeithasol mewn gofal preswyl i blant neu ofal cartref oni bai eu bod yn cyrraedd unrhyw ofynion cofrestru ychwanegol. Am wybodaeth bellach ewch i
https://socialcare.wales/registration

Mae’r cymhwyster yn darparu’r wybodaeth a chymhwysedd priodol ar gyfer ymarfer ac yn paratoi’r dysgwyr i symud ymlaen at:

  • Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Lefel 4 Paratoi am Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Tystysgrifau mewn Addysg Uwch
    Cymwysterau eraill efallai bydd o ddiddordeb yw:
  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
  • TGAU Uwch a TGAU Atodol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant.
  • Lefel 3 Tystysgrif a Diploma mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyddestunau
  • Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori

Cysylltwch â ni

Dysgwyr/Canolfannau Newydd


hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930801

Canolfannau Presennol


hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930800

Dogfennau Allweddol
Q7 L3 Hsc Pplusc Certplusdiploma Specification W 21062023
Llawlyfr y Cymhwyster
Assessment Pack (5)
Pecyn Asesu

Diweddaru’r llawlyfrau cymwysterau a chanllawiau asesu HSC, CC a CYP Lefel 2 a Lefel 3.  Darllenwch mwy

Deunyddiau Cwrs
Hidlo yn ôl
Deunyddiau Hyfforddi Mynychwyr - Gwanwyn 2019

Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.

Open Graph Images 2023 07 27T155643.524
Digwyddiad Cyswllt
Rhwydwaith Gwanwyn 2022: Adnoddau Cynllunio, Arsylwi ac Adfyfyrio Cliciwch yma i weld
Gweminar - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cliciwch yma i weld
Cyflwyniad PDF - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cliciwch yma i weld
Holi ac ateb - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cliciwch yma i weld

Diweddaru’r llawlyfrau cymwysterau a chanllawiau asesu HSC, CC a CYP Lefel 2 a Lefel 3.  Darllenwch mwy