Neidio i'r prif gynnwy

Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)

Lefel 3

Dewch o hyd i ganolfan

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau o fewn 30 milltir i'ch lleoliad. Ceisiwch eto gan ddefnyddio cod post arall i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Trosolwg o’r cymhwyster

Mae’r cymhwyster wedi selio ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth a chymhwysedd i ymarfer mewn cyflogaeth y dysgwyr. Mae’n darparu’r cyfle i gyfoethogi gwybodaeth a sgiliau gan ddefnyddio cynnwys gorfodol ac unedau opsiynol. Bydd hwn o ddiddordeb i weithio mewn gwasanaethau cymorth cartref, gofal preswyl, darpariaeth anabledd dysgu yn cynnwys gwasanaethau gofal iechyd yn y gymuned. Yn bennaf, bydd dysgwyr yn gallu dangos eu bod yn gallu:

  • Deall, ac ymroi yn ymarferol, egwyddorion a gwerthoedd sydd wrth wraidd iechyd a gofal cymdeithasol
  • Deall, ac ymroi yn ymarferol, dulliau person canolog
  • Hybu a chefnogi ymarfer effeithiol o fewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Yn ymwybodol o bolisiau allweddol o fewn y sector a deall sut mae’r rhain yn effeithio ar wasanaeth sy’n datblygu ac yn trosglwyddo
  • Gweithio mewn partneriaeth ag unigolion, eu teuluoedd, gofalwyr ac amrywiaeth o bobl broffesiynol
  • Dangos amrywiaeth o dechnegau datrys problemau
  • Myfyrio ar ymarfer i wella trwy’r amser
  • Defnyddio llythrenedd, rhifedd a sgiliau cymhwysedd digidol fel sy’n briodol o fewn ei rôl
Female Careworker

Mae’r cymhwyster ar gyfer unigolion sydd wedi eu cyflogi mewn lleoliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol sydd ar gyfer oedolion a gall cael ei ddarparu trwy ddysgu seiliedig ar waith neu goleg addysg bellach. Mae disgwyl bydd gan y dysgwyr ymreolaeth i ryw raddau yn ei rôl ac yn cefnogi eraill i ddarparu gofal o’r safon uchaf.

Mae’n addas ar gyfer:

  • Dysgwyr sydd wedi cwblhau’r cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd.
  • Dysgwyr sydd wedi cwblhau’r cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
  • Dysgwyr sydd wedi cwblhau cymwysterau priodol sydd wedi eu cynnwys ar Fframwaith y Cymwysterau ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant rheoledig yng Nghymru gan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Nodwch: Does dim modd cwblhau’r cymhwyster wrth gyflawni lleoliad gwaith

Mae cynnwys hanfodol y cymhwyster yn ymochrol i’r themau allweddol sydd yn y Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac yn cynnwys:

  • Egwyddorion ac ymarfer
  • diogelu
  • iechyd a diogelwch
  • iechyd a lles
  • ymarfer proffesiynol

Mae’r cymhwyster yn cynnwys uned orfodol ac ystod o unedau opsiynol sydd wedi cysylltu â mathau penodol o gefnogaeth neu leoliadau iechyd a gofal
I gwblhau’r cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion) mae dysgwyr angen cyflawni isafswm o 50 credyd;

  • 18 credyd angen eu cwblhau o’r uned orfodol
  • isafswm 32 credyd i’w dewis o’r gyfres o unedau opsiynol sy’n cynnwys unedau ar gefnogaeth uniongyrchol a gofal iechyd

Mae’r dysgwr angen cwblhau:

  • portffolio o dystiolaeth sy’n cynnwys arsylwad uniongyrchol o ymarfer
  • tasgau sydd wedi eu llunio’n allanol a’u hasesu’n fewnol

Wrth gwblhau’r cymhwyster mi fydd yn galluogi dysgwyr i weithio gyda mwy o ymreolaeth a chyfrifoldeb fel gweithiwr Gofal Uwch Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol cymwysedig, gyda ffocws ar oedolion sydd dan fygythiad neu sydd mewn angen.

Bydd hefyd o gymorth i ddysgwyr sydd angen cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel Gweithiwr Gofal Uwch, ond bydd angen cyflawni gofynion cofrestru eraill. Am ragor o fanylion ewch i: https://socialcare.wales/registration

Mae’r cymhwyster yn darparu’r wybodaeth briodol a chymhwysedd ymarfer a chefnogi dysgwyr i symud ymlaen at:

  • Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Lefel 4 Paratoi am Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Cymwysterau eraill bydd efallai o ddiddordeb yw:

  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
  • TGAU Uwch a TGAU Atodol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant.
  • Lefel 3 Tystysgrif a Diploma mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau (Oedolion, Plant a Phobl Ifanc)

Cysylltwch â ni

Dysgwyr/Canolfannau Newydd


hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930801

Canolfannau Presennol


hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930800

Dogfennau Allweddol
L3 Hsc Adult Practice Handbook Welsh 2 0 190423
Llawlyr y Cymhwyster
Assessment Pack (4)
Pecyn Asesu

Diweddaru’r llawlyfrau cymwysterau a chanllawiau asesu HSC, CC a CYP Lefel 2 a Lefel 3.  Darllenwch mwy

Deunyddiau Cwrs
Hidlo yn ôl
Deunyddiau Hyfforddi Mynychwyr - Gwanwyn 2019

Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.

Open Graph Images 2023 07 27T155643.524
Digwyddiad Cyswllt
Rhwydwaith Gwanwyn 2022: Adnoddau Cynllunio, Arsylwi ac Adfyfyrio Cliciwch yma i weld
Gweminar - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cliciwch yma i weld
Cyflwyniad PDF - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cliciwch yma i weld
Holi ac ateb - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cliciwch yma i weld
Gweminar - Cyfres Rhwydwaith y Gwanwyn (2021) Cliciwch yma i weld
Cyflwyniad PDF - Cyfres Rhwydwaith y Gwanwyn (2021) Cliciwch yma i weld

Diweddaru’r llawlyfrau cymwysterau a chanllawiau asesu HSC, CC a CYP Lefel 2 a Lefel 3.  Darllenwch mwy