Neidio i'r prif gynnwy

Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant: Ymarfer

Lefel 3

Dewch o hyd i ganolfan

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau o fewn 30 milltir i'ch lleoliad. Ceisiwch eto gan ddefnyddio cod post arall i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Trosolwg y cymhwyster

Mae’r cymhwyster wedi ei selio ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth a chymhwysedd i ymarfer y dysgwyr mewn cyflogaeth.
Mae’r cymhwyster yn bennaf ar gyfer y rhai sy’n gweithio, neu am weithio mewn lleoliadau gofal plant rheoledig gyda theuluoedd a phlant dan 8 oed a gwasanaethau plant GIG ar gyfer y rhai sy’n gweithio gyda theuluoedd a phlant 0-19 oed.

Mae’r cymhwyster wedi ei selio ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth a chymhwysedd dysgwyr. Mae wedi ei greu ar gyfer dysgwyr sydd mewn dysgu seiliedig ar waith. Bydd y cymhwyster yn asesu gwybodaeth ac ymarfer y dysgwyr trwy eu gwaith a gallu dangos eu bod yn gallu:

  • deall, ac ymroi yn ymarferol, egwyddorion a gwerthoedd sydd wrth wraidd gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant
  • deall, ac ymroi yn ymarferol, dulliau plentyn canolog i ofal, chwarae a dysgu
  • hybu a chefnogi datblygiad plant trwy ymarfer ei hun
  • bod yn ymwybodol o bolisiau allweddol o fewn y sector a sut mae’r rhain yn effeithio ar ddatblygiad a darpariaeth y gwasanaeth
  • gweithio mewn partneriaeth â phlant, eu teuluoedd, cynhalwyr ac amrywiaeth o bobl broffesiynol
  • adlewyrchu ar ymarfer i wella trwy’r amser
  • defnyddio amrywiaeth o dechnegau datrys problemau
  • defnyddio llythrenedd, rhifedd a sgiliau cymhwysedd digidol fel sy’n briodol o fewn eu rôl
Cooperative Play

Mae’n addas ar gyfer:

  • dysgwyr sy’n gweithio mewn lleoliad gofal plant sy’n cwblhau rolau a chyfrifoldebau Lefel 3
  • dysgwyr sydd wedi cyflawni cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd neu Ymarfer
  • y rhai sy’n gweithio yn Dechrau’n Deg, ac y rhai sy’n darparu’r cwricwlwm i blant 3 i 7 oed yng Nghymru
  • dysgwyr sydd wedi cwblhau’r hen gymhwyster Lefel 2 sydd wedi ei restru ar Fframwaith Cymwysterau ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Rheoledig yng Nghymru.

Mae’n argymelledig bod dysgwyr sydd wedi cwblhau’r cymhwyster craidd cyn neu, ochr yn ochr Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer achos bydd hwn yn ofyniad i ymarfer sydd wedi ei osod gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae hefyd yn rhan o Brentisiaeth Lefel 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Cymru).

Mae cynnwys hanfodol y cymhwyster yn ymochrol â’r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant gyda chanolbwynt ymarfer penodol ar blant dan 8 oed sydd wedi ei gefnogi gan wybodaeth a dealltwriaeth o ddatblygiad plant hyd at 18 oed. Mae’r testunau canlynol yn rhai hanfodol:

  • egwyddorion a gwerthoedd
  • iechyd, lles, dysgu a datblygiad
  • ymarfer broffesiynol
  • diogelu plant
  • iechyd a diogelwch
  • datblygiad plant
  • iaith lafar, iaith a chyfathrebu
  • cefnogi plant (maeth a hydradiad)

Mae’r cymhwyster yn cynnwys unedau hanfodol ac unedau opsiynol. Mae’r unedau hanfodol yn darparu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau angenrheidiol i allu ymateb i anghenion plant hyd at 8 oed.
Mae’r unedau opsiynol yn galluogi’r dysgwyr i ganolbwyntio eu dysgu a’u sgiliau sydd wedi eu datblygu ar feysydd allweddol o ddiddordeb sy’n berthnasol i anghenion plant, gan gynnwys trochi iaith, cynorthwyo teuluoedd I ddatblygu sgiliau rhiant a chynorthwyo plant sydd ag anghenion ychwanegol.

Mae amrywiaeth o unedau gofal iechyd wedi eu cynnwys i adlewyrchu anghenion cymhleth rhai plant sy’n derbyn gwasanaethau yn y gymuned.

I gwblhau Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer mae dysgwyr angen cyflawni isafswm o 50 credyd

  • 30 credyd angen eu cwblhau o’r grwp hanfodol
  • Isafswm o 20 credyd angen eu dewis o’r gyfres o unedau opsiynol

Mae dysgwyr angen cyflawni:

  • Tasgau sydd wedi eu llunio’n allanol a’u marcio’n fewnol
  • portffolio o dystiolaeth
  • trafodaeth broffesiynol

Wrth gwblhau’r cymhwyster Lefel 3 Gofal , Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer mae’n galluogi’r dysgwyr i weithio fel gweithiwr gofal plant Lefel 3 cymwysedig mewn modd heb oruchwyliaeth ac, mewn nifer o leoliadau gwaith, mewn rôl Arweinyddiaeth.

Mae’r cymhwyster yn paratoi dysgwyr i symud ymlaen at:

  • Lefel 4 Ymarfer Broffesiynol Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
  • Lefel 4 Paratoi am Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant.

Mae cyfleoedd am addysg bellach a hyfforddiant proffesiynol yn cael eu harchwilio gyda phrifysgolion ar draws Cymru, gan gynnwys Tystysgrifau mewn Addysg Uwch.

Efallai bydd diddordeb gan ddysgwyr, ac am symud ymlaen at:

  • Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
  • TGAU Uwch a TGAU Atodol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant.

Mae dysgwyr angen cyflawni unrhyw ofynion sy’n gysylltiedig ag oedran a phrofiad cyn gallu symud ymlaen at rai rolau arweinyddiaeth yn y sector.

Cysylltwch â ni

Dysgwyr/Canolfannau Newydd


hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930801

Canolfannau Presennol


hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930800

Dogfennau Allweddol
L3 Ccpld Practice Handbook Welsh Version 13
Llawlyfr y Cymhwyster
L3 Ccpld Assessment Pack W F 04 2020
Pecyn Asesu

Diweddaru’r llawlyfrau cymwysterau a chanllawiau asesu HSC, CC a CYP Lefel 2 a Lefel 3. Darllenwch mwy

Deunyddiau Cwrs
Hidlo yn ôl
Deunyddiau Hyfforddi Mynychwyr - Hydref 2019/20

Deunyddiau Hyfforddi Mynychwyr - Gaeaf 2020

Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.

 

Lady On Online Call
Recordiadau Gweminar
Digwyddiad Cyswllt
Cyfarfod Rhwydwaith Lefel 2-3 GChDDP Ymarfer (Mai 2020) Cliciwch yma i weld
Holi ac Ateb - o Gyfarfod Rhwydwaith GChDDPlant: Ymarfer (Mai 2020) Cliciwch yma i weld
CAM 3 Trefniadau lliniaru cyflwyno ac asesu 2020/21 (Medi 2020) Cliciwch yma i weld
Holi ac Ateb – CAM 3 Trefniadau lliniaru cyflwyno ac asesu 2020/21 (Medi 2020) Cliciwch yma i weld
Lefel 2 a 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer Rhwydwaith Hydref (2020) Cliciwch yma i weld
Cyfarfod Rhwydwaith Lefel 2-3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer - Cyfarfod Rhwydwaith (Mawrth 2021) Cliciwch yma i weld
Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer - Cyfarfod Rhwydwaith (Gwanwyn 2021) Cliciwch yma i weld
Asesiad Ymarfer Enghreifftiol (Arsylwi a Log Myfyriol) (Tachwedd 2021) Cliciwch yma i weld

Diweddaru’r llawlyfrau cymwysterau a chanllawiau asesu HSC, CC a CYP Lefel 2 a Lefel 3. Darllenwch mwy