Neidio i'r prif gynnwy

Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant: Ymarfer

Lefel 2

Dewch o hyd i ganolfan

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau o fewn 30 milltir i'ch lleoliad. Ceisiwch eto gan ddefnyddio cod post arall i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar gyfer pwy mae’r cymhwyster?

Yn addas ar gyfer:

  • dysgwyr dros 16 oed sy’n gweithio mewn rôl gynorthwyol yn y sector gofal plant
  • dysgwyr sydd wedi cwblhau Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd
  • dysgwyr sydd wedi gweithio yn barod ac yn cwblhau rolau a chyfrifoldebau Lefel 2
  • dysgwyr sy’n dychwelyd i’r gweithlu ar ôl seibiant gyrfa ac yn edrych i adnewyddu eu gwybodaeth a sgiliau yn y sector gofal plant.

Mae’n argymelledig bod dysgwyr yn cwblhau cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd cyn, neu ochr yn ochr â’r cymhwyster hwn gan y bydd yn ofyniad ar gyfer ymarfer sydd wedi ei osod gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae hefyd yn rhan o Brentisiaeth Sylfaenol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Cymru).

3 To 5 Years Old 4

Mae’r cymhwyster wedi ei selio ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth y dysgwyr a chymhwysedd i ymarfer mewn cyflogaeth.

Mae’r cymhwyster yn bennaf ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal plant rheoledig ar gyfer teuluoedd a phlant dan 8 oed a gwasanaethau plant GIG ar gyfer y rhai sy’n gweithio gyda theuluoedd a phlant oed 0-19.

Mae wedi ei greu ar gyfer dysgwyr sydd mewn dysgu seiliedig ar waith. Bydd y cymhwyster yn asesu gwybodaeth ac ymarfer y dysgwyr yn eu gwaith ac yn gallu dangos eu bod yn gallu:

  • deall, ac ymroi yn ymarferol, egwyddorion a gwerthoedd sydd wrth wraidd gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant
  • deall, ac ymroi yn ymarferol, dulliau plentyn canolog mewn gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant
  • gwneud cyfraniad positif i’r sector gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant trwy ymarfer ei hun
  • adlewyrchu ar ymarfer i wella trwy’r amser
  • deall rolau swyddi a swyddogaethau o fewn y sector gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant
  • defnyddio llythrenedd, rhifedd a sgiliau cymhwysedd digidol fel sy’n briodol o fewn y rôl

Mae cynnwys hanfodol y cymhwyster yn ymochrol â’r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant ac yn canolbwyntio’n ymarferol ar blant sydd dan 8 oed ac sydd wedi ei gefnogi gan wybodaeth a dealltwriaeth o ddatblygiad plant fyny at oedran 18 oed.

Mae’r testunau canlynol yn ymddangos fel rhai hanfodol:

  • egwyddorion a gwerthoedd
  • diogelu
  • iechyd a diogelwch
  • iechyd, lles, dysgu a datblygiad
  • ymarfer broffesiynol



Mae’r cymhwyster yn cynnwys unedau hanfodol ac opsiynol. Mae’r unedau hanfodol yn darparu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau angenrheidiol er mwyn gallu ymateb i ofynion plant fyny at 8 oed.

Mae’r unedau opsiynol yn galluogi dysgwyr i ganolbwyntio ar eu dysgu a’u sgiliau ddatblygu ar gyfer meysydd allweddol o ddiddordeb sy’n berthnasol i anghenion plant, gan gynnwys trochi ieithyddol a dulliau positif ar gyfer cymorth ymddygiad.

Mae amrywiaeth o unedau gofal iechyd wedi eu cynnwys i adlewyrchu anghenion cymhleth rhai o blant sy’n derbyn gwasanaethau yn y gymuned.

I gwblhau’r cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant mae dysgwyr angen cyflawni isafswm o 35 credyd:

  • 25 credyd angen eu cwblhau o’r grwp hanfodol
  • Isafswm o 10 credyd angen eu dewis o’r gyfres o unedau opsiynol

Mae dysgwyr angen cwblhau:

  • Tasgau sydd wedi eu llunio’n allanol a’u marcio’n fewnol
  • portffolio o dystiolaeth
  • trafodaeth gyda’i aseswr

Wrth gwblhau’r cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn galluogi dysgwyr i weithio fel gweithiwr Lefel 2 cymwysedig mewn modd dan oruchwyliaeth. Mae’r cymhwyster hefyd yn paratoi dysgwyr i symud ymlaen at:

  • addysg bellach
  • Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
  • Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
  • Lefel 4 Paratoi am Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
  • Lefel 4 Ymarfer Broffesiynol mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

Mae dysgwyr angen cyflawni unrhyw ofynion sy’n gysylltiedig ag oedran a phrofiad cyn gallu symud ymlaen at rai rolau arweinyddiaeth yn y sector.

Cysylltwch â ni

Dysgwyr/Canolfannau Newydd


hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930801

Canolfannau Presennol


hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930800

Dogfennau Allweddol
L2 Ccpld Practice Handbook Welsh V12
Llawlyfr y Cymhwyster
L2 Ccpld Assessment Pack W F 04 2020
Pecyn Asesu

Diweddaru’r llawlyfrau cymwysterau a chanllawiau asesu HSC, CC a CYP Lefel 2 a Lefel 3. Darllenwch mwy

Deunyddiau Cwrs
Hidlo yn ôl
Deunyddiau Hyfforddi Mynychwyr - Hydref 2019/20

Deunyddiau Hyfforddi Mynychwyr - Gaeaf 2020

Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.

 

Lady On Online Call
Recordiadau Gweminar
Digwyddiad Cyswllt
Cyfarfod Rhwydwaith Lefel 2-3 GChDDP Ymarfer (Mai 2020) Cliciwch yma i weld
Holi ac Ateb - o Gyfarfod Rhwydwaith GChDDPlant: Ymarfer (Mai 2020) Cliciwch yma i weld
CAM 3 Trefniadau lliniaru cyflwyno ac asesu 2020/21 (Medi 2020) Cliciwch yma i weld
Holi ac Ateb – CAM 3 Trefniadau lliniaru cyflwyno ac asesu 2020/21 (Medi 2020) Cliciwch yma i weld
Lefel 2 a 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer Rhwydwaith Hydref (2020) Cliciwch yma i weld
Cyfarfod Rhwydwaith Lefel 2-3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer - Cyfarfod Rhwydwaith (Mawrth 2021) Cliciwch yma i weld
Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer - Cyfarfod Rhwydwaith (Gwanwyn 2021) Cliciwch yma i weld
Asesiad Ymarfer Enghreifftiol (Arsylwi a Log Myfyriol) (Tachwedd 2021) Cliciwch yma i weld

Diweddaru’r llawlyfrau cymwysterau a chanllawiau asesu HSC, CC a CYP Lefel 2 a Lefel 3. Darllenwch mwy