Neidio i'r prif gynnwy

Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant: Craidd

Lefel 2

Dewch o hyd i ganolfan

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau o fewn 30 milltir i'ch lleoliad. Ceisiwch eto gan ddefnyddio cod post arall i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.

Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?

Mae'r cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd wedi'i ddylunio ar gyfer dysgwyr ôl-16 yng Nghymru, sy'n gweithio neu sy'n chwilio am waith yn y meysydd canlynol:

  • lleoliadau gofal plant wedi’u rheoleiddio gyda theuluoedd a phlant dan 8 oed
  • Gwasanaethau Plant y GIG ar gyfer y rheiny sy'n gweithio gyda theuluoedd a phlant 0-19 oed. Mae hyn yn cynnwys lleoliadau iechyd plant.

Mae'r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer bob dysgwr gan gynnwys dysgwyr nad oes ganddynt unrhyw wybodaeth flaenorol am y sectorau gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.

Level 2 CCPLD Core

Mae'r cymhwyster yn ymdrin â gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o'r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan newydd ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant, ac mae'n adlewyrchu amrywiaeth o wahanol rolau ac oedrannau.

 

Mae cwblhau'r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i:

  • feithrin eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r egwyddorion a'r gwerthoedd craidd sy'n sail i ymarfer gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant
  • meithrin eu gwybodaeth a dealltwriaeth o ffyrdd o weithio yn y sectorau gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant
  • meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n llywio ymarfer effeithiol yn y maes gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant
  • bod â gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n greiddiol i'w cefnogi wrth symud ymlaen i astudio ymhellach neu i gael gwaith yn y maes gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.

 

Strwythur y cymhwyster

Mae'r cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd yn gymhwyster llinol sy'n cynnwys y pum uned orfodol ganlynol:

 

Rhif yr Uned

Teitl yr Uned

Oriau Dysgu dan Arweiniad

001

Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (0-19 oed)

100

002

Iechyd, Llesiant, Dysgu a Datblygiad

80

003

Ymarfer Proffesiynol fel Gweithiwr Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant

50

004

Diogelu Plant

40

005

Iechyd a Diogelwch yn y maes Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

30

 

Cyfanswm

300

Asesu

 

I gyflawni'r cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori, rhaid i ymgeiswyr lwyddo mewn un prawf dewis lluosog wedi'i osod yn allanol a'i farcio'n allanol.

 

Mae'r prawf yn asesu cynnwys o'r 5 uned.

Mae'r cymhwyster hwn yn cefnogi dysgwyr i symud ymlaen i ennill cymwysterau pellach gan gynnwys y cymwysterau canlynol sy'n rhan o'r gyfres o gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant i Gymru.

  • Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
  • Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
  • Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
  • Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori

 

Mae'r cymhwyster hefyd yn cefnogi cyfleoedd cyflogaeth.  Fodd bynnag, dylid nodi:

 

Mae'n ofynnol i Gofal Cymdeithasol Cymru restru'r cymwysterau y bydd eu angen ar unigolyn sy'n gweithio yn y sector gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.  Un o'r gofynion fydd ar y rhestr hon yw bod y rheiny sy'n gweithio yn y sector gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant yn meddu ar y cymhwyster Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd a chymhwyster ymarfer sy'n berthnasol i'r rôl. Am ragor o wybodaeth am ofynion gweithio yn y sector Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, gweler fframwaith cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer gofal cymdeithasol a gofal plant wedi'i reoleiddio yng Nghymru https://gofalcymdeithasol.cymru/adnoddau/fframwaith-cymwysterau-ar-gyfer-y-sector-gofal-cymdeithasol-yng-nghymru.

 

Hefyd, bydd angen i'r rheiny sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal plant wedi'u rheoleiddio gyda phlant 8-12 oed ennill cymhwyster gwaith chwarae ychwanegol a enwir gan Skills Active i fodloni gofynion y rheoleiddwyr.

Cysylltwch â ni

Amy Allen-Thomas

Swyddog Pwnc
gchddp@cbac.co.uk
029 2240 4264

Tania Lucas

Swyddog Cefnogaeth Pwnc
gchddp@cbac.co.uk
029 2240 4264

Dogfennau Allweddol
CCPLD Core Sample Assessment Sams 2 W
Deunyddiau Asesu Enghreifftiol
Deunyddiau Cwrs
Hidlo yn ôl
Taflen Noson Agored

Croeso i Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant: Craidd

Ymhelaethu ar Gynnwys yr Uned

Uned 001 & 002 Pecyn I Aseswyr

Uned 001 & 003 Pecyn I Aseswyr

Uned 001 & 004 Pecyn I Aseswyr

Cynllun Marcio: Prawf Dewis Lluosog

Recordiad Gweminar Trosolwg Cymhwyster

Meeting