Statws Hawliadau Uniongyrchol
I ymateb i adborth gan gwsmeriaid, cyflogwyr a’n rhanddeiliaid ehangach, rydym wedi adolygu’r broses sicrhau ansawdd ac ardystio a ddefnyddir ar hyn o bryd i ardystio dysgwyr sy’n cwblhau’r cymwysterau canlynol.
- Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
- Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd
- Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
- Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
- Lefel 2 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Oedolion
- Lefel 3 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Oedolion
- Lefel 3 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Plant a Phobl Ifanc
Statws Hawliadau Uniongyrchol
Mae ein hadolygiad wedi dod i ben erbyn hyn, ac rydym yn falch o gadarnhau y bydd canolfannau cymeradwy sy’n bodloni meini prawf ansawdd y cytunwyd arnynt ar gyfer pob cymhwyster yn gallu ennill Statws Hawliadau Uniongyrchol o fis Mehefin 2023 ymlaen.
Mae'r meini prawf ansawdd y cytunwyd arnynt ar gael yma
Rydym yn cydnabod na fydd pob canolfan gymeradwy yn gallu ennill Statws Hawliadau Uniongyrchol ar gyfer pob cymhwyster ar unwaith. Fodd bynnag, bydd y meini prawf ansawdd a gyhoeddwyd gennym yn darparu eglurder y mae mawr ei angen, a byddant yn cynnig fframwaith ar gyfer gwella ansawdd a fydd yn cael ei gefnogi gan ein tîm o Swyddogion Sicrhau Ansawdd Allanol, Cynghorydd Technegol a Swyddogion Pwnc.
Cyfnodau Ardystio
Mae canolfannau cymeradwy wedi rhannu pryderon sy’n ymwneud ag effaith anfwriadol ein Cyfnodau Ardystio. Rydym yn hyderus y bydd cyflwyno Statws Hawliadau Uniongyrchol yn helpu i liniaru rhai o’r heriau hyn.
Er y bydd angen i ni gadw’r cysyniad o ‘gyfnodau’, wrth symud ymlaen bydd ein Swyddogion Sicrhau Ansawdd Allanol yn gallu samplu dysgwyr drwy gydol eu taith ddysgu, ac nid dim ond ar y diwedd. Bydd y newid bach ond pwysig hwn, ochr yn ochr â Statws Hawliadau Uniongyrchol, yn galluogi dull symlach o ymdrin â chynnydd ac ardystio dysgwyr. Bydd hyn yn galluogi canolfannau cymeradwy i symud eu dysgwyr yn eu blaenau’n gynt a thrwy hynny leddfu’r pwysau sy’n gysylltiedig â chyllid ac oedi wrth symud ymlaen mewn gyrfa.