Gyda digwyddiadau’r Hydref/Gaeaf wedi dod i ben erbyn hyn, mae’r calendr ar gyfer ein sesiynau galw heibio ar-lein i ganolfannau ar gael ar gyfer y Gwanwyn/Haf.
Roedd yr adborth o ddigwyddiadau diweddar yn dangos bod cwsmeriaid wir yn gwerthfawrogi’r cyfle i gwrdd â thiwtoriaid, aseswyr a swyddogion sicrhau ansawdd mewnol y tu allan i’w canolfannau eu hunain. Felly, er mwyn hwyluso hyn, rydyn ni wedi trefnu fformat ychydig yn wahanol ar gyfer sesiynau galw heibio Gwanwyn/Haf 2024.
Mae’r sesiynau galw heibio yn canolbwyntio ar y cymwysterau Dysgu Seiliedig ar Waith yn y gyfres fel a ganlyn:
- Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd
- Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
- Lefel 2 a Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer/Ymarfer a Theori
- Lefel 2 a Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer: Oedolion
- Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer: Plant a Phobl Ifanc
- Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain ac Ymarfer Proffesiynol:
- Lefel 5 Arwain a Rheoli
Sylwch fod y cymwysterau TGAU, Safon Uwch, ac Egwyddorion a Chyd-destunau yn cael eu hategu gan ddewislen wahanol o ddigwyddiadau, ac felly ni ddylid eu cynnwys yn eich agendâu ar gyfer y sesiynau galw heibio hyn.
Rydyn ni wedi parhau i weithio ar y cyd â’r holl ddeiliaid Contract Cynradd, a’r holl ddarparwyr Addysg Bellach, Colegau ac Awdurdodau Lleol, ac mae gwahoddiad galw heibio wedi cael ei rannu â’r prif sefydliadau hyn.
- ACT
- Educ8
- Coleg Caerdydd a'r Fro
- Coleg Cambria
- Coleg Menai
- Coleg Gŵyr Abertawe
- Grŵp Llandrillo Menai
- Coleg Sir Benfro
- Hyfforddiant ITEC
- Grŵp NPTC
- Hyfforddiant Cambrian
Cyfeiriwch at y tabl isod sy'n nodi dyddiad y sesiwn galw heibio a drefnwyd ar gyfer pob Prif ddeiliad contract, coleg AB ac Awdurdod Lleol. Dylai pob prif sefydliad gysylltu â’i bartneriaid cyflenwi ei hun i roi gwybod iddynt am y dyddiad galw heibio, i rannu’r wybodaeth ymuno, ac i gytuno ar unrhyw eitemau ar yr agenda. Os nad yw eich prif sefydliad wedi cysylltu â chi i rannu gwybodaeth am y sesiynau galw heibio, cysylltwch â nhw’n uniongyrchol yn y lle cyntaf.
Dyddiad | Amser | Prif Sefydliad |
10/04/24 | 0900 - 1230 | Cardiff & Vale College |
11/04/24 | 1330 - 1700 | Gower College |
16/04/24 | 0900 - 1230 | Grŵp LLandrillo Menai |
22/04/24 | 1330 - 1700 | NPTC Group |
14/05/24 | 0900 - 1230 | Coleg Cambria |
22/05/24 | 0900 - 1230 | Pembrokeshire College |
05/06/24 | 0900 - 1230 | Smaller Colleges – Ceredigion/ColegGwent/Merthyr College/Coleg Cymoedd |
10/06/24 | 1330 - 1700 | ITEC |
13/06/24 | 1330 - 1700 | Educ8 |
17/06/24 | 1330 - 1700 | ACT |
19/06/24 | 0900 - 1230 | Cambrian Training |
18/06/24 | 0900 - 1230 - City & Guilds ONLY | Local Authorities Group (inc RCT, NPT, Wrexham CC, Pendine Academy, Flintshire SS, Swansea CC) |
We look forward to joining you at your scheduled drop-in.