Pwrpas y cymwysterau Ymarfer a’r defnydd o leoliadau i ddysgwyr - Lefel 2 GCDDP

I ymateb i ymholiadau gan gwsmeriaid cymeradwy a phryderon a godwyd yn ystod gweithgareddau Sicrhau Ansawdd Allanol a drefnwyd, hoffem roi eglurder ynghylch pwrpas y cymwysterau canlynol a’r defnydd o leoliadau i ddysgwyr:

  • Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
  • Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer

Pwrpas y cymwysterau ymarfer

Pwrpas y cymwysterau Ymarfer yw datblygu a chadarnhau cymhwysedd yr wybodaeth a’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i weithio yn y sector gofal plant rheoleiddiedig fel y’i diffinnir gan y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed (Tachwedd 2023).
 
Mae’r cymwysterau Ymarfer Lefel 2 a Lefel 3 wedi’u cynllunio i’w darparu mewn amgylchedd dysgu seiliedig ar waith, felly mae’n rhaid i ddysgwyr fod yn gweithio mewn darpariaeth reoleiddiedig yn y sector.  

Does dim modd i ddysgwyr sydd angen lleoliad galwedigaethol gwblhau’r cymwysterau.  Dylai dysgwyr nad ydynt yn gweithio yn y sector gael eu cyfeirio at gymwysterau Ymarfer a Theori CBAC.

Oherwydd y cyfyngiad hwn, mae’n bwysig cadarnhau bod gofal plant rheoleiddiedig yng Nghymru yn perthyn i ddau gategori:

  • Gwarchodwyr plant
  • Darpariaeth Gofal Dydd a Chwarae Mynediad Agored

Hefyd, mae rhai lleoliadau Gofal Dydd yn cael eu hariannu i ddarparu addysg feithrin, a rhaid iddynt gydymffurfio â gofynion Cwricwlwm i Gymru.  Yn aml, disgrifir y lleoliadau hyn fel lleoliadau addysg feithrin nas cynhelir sy’n cael eu hariannu. Sylwch nad yw hyn yn cynnwys Ysgolion Meithrin, gan fod y lleoliadau hyn yn rhan o’r sector addysg a gynhelir.

Ni ddylid defnyddio profiad a enillwyd y tu allan i’r sector blynyddoedd cynnar rheoleiddiedig fel y brif ffynhonnell dystiolaeth ar gyfer y naill gymhwyster Ymarfer na’r llall. Rhaid i ddysgwyr sy’n cwblhau Uned 206 neu Uned 306 ddarparu tystiolaeth o weithio gyda phlant mewn lleoliadau meithrin nas cynhelir sy’n cael eu hariannu i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru.  

Mae’r sector blynyddoedd cynnar yn parhau i gael trafferthion o ran recriwtio a chynaliadwyedd ar ôl y Pandemig, felly rydym yn annog pob cwsmer cymeradwy i gydweithio â chyflogwyr blynyddoedd cynnar lleol, Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru i sicrhau bod y trylwyredd angenrheidiol yn cael ei ddefnyddio wrth benderfynu ar briodoldeb amgylchiadau gwaith dysgwr. 

Er mai sicrhau cywirdeb a chadernid y cymwysterau a’u hasesiadau yw ein prif bryder, byddwn bob amser yn ceisio osgoi rhoi dysgwyr dan anfantais lle bo hynny’n bosibl.  Os ydych chi wedi cofrestru dysgwyr sy’n defnyddio lleoliadau i ennill y cymhwyster Ymarfer neu sy’n gweithio/ymgymryd â lleoliad mewn Ysgol Feithrin, cysylltwch â thîm Ansawdd HCLW ar unwaith er mwyn i ni fod yn gallu cytuno ar y camau nesaf.

A yw’r gofynion hyn yn berthnasol i gymwysterau Theori ac Ymarfer Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant?

Mae dau bwrpas i’r cymwysterau Ymarfer a Theori.  Ar ôl ennill y cymwysterau, maent yn cynnig llwybr i gyflogaeth fel ymarferydd cymwysedig ar Lefel 2 neu Lefel 3, a/neu ddilyniant drwy UCAS i astudiaethau pellach ac uwch. 

Bwriedir y cymwysterau Ymarfer a Theori yn bennaf ar gyfer dysgwyr rhwng 16 a 19 oed sy’n astudio mewn lleoliad addysg bellach.  Mae strwythur a hyd y cymwysterau yn cydnabod y bydd angen amser ychwanegol ar ddysgwyr i gwblhau’r cymwysterau hynny er mwyn caffael ac atgyfnerthu gwybodaeth a sgiliau sylfaenol a chael eu hasesu fel rhai cymwys drwy’r cyfleoedd ar leoliadau.

Mae oriau gofynnol lleoliadau ar gyfer pob cymhwyster wedi’u nodi yn y manylebau perthnasol fel a ganlyn:

  • Lefel 2: 280awr
  • Lefel 3: 700awr

Er yr argymhellir yn gryf dewis lleoliadau sy’n defnyddio lleoliadau gofal plant neu iechyd plant rheoleiddiedig i weithio gyda phlant 0-7 oed ac 11 mis, mae’r canllawiau canlynol yn cael eu darparu ynghylch defnyddio lleoliadau mewn ysgolion:

Lefel 2

Dim ond os yw’r lleoliad yn galluogi dysgwyr i ennill profiad gyda phlant 0-7 oed ac 11 mis y mae lleoliadau ysgol yn briodol. Rhaid i’r lleoliad roi cyfle i ddysgwyr fodloni holl feini prawf/gofynion asesu Unedau Grŵp Gorfodol 1, o leiaf un o unedau dewisol A 204, 205 neu 206, ynghyd â’r holl feini prawf/gofynion asesu ar gyfer yr unedau dewisol o Grwpiau Dewisol A, B ac C.

Lefel 3

Dim ond os yw’r lleoliad yn galluogi dysgwyr i ennill profiad gyda phlant 0-7 oed ac 11 mis y mae lleoliadau ysgol yn briodol. Rhaid i’r lleoliad roi cyfle i ddysgwyr fodloni holl feini prawf/gofynion asesu unedau Grŵp Gorfodol 1, o leiaf un o unedau dewisol Grŵp A 304, 305 neu 306, ynghyd â’r holl feini prawf/gofynion asesu ar gyfer yr unedau dewisol o Grwpiau A, B ac C. Bydd angen i ddysgwyr sydd angen trefniadau mynediad gael eu cefnogi’n briodol gan y ganolfan – rhaid i athro/tiwtor neu asesydd seiliedig ar waith sicrhau eu bod yn gallu cymryd rhan mewn lleoliad gwaith ystyrlon.

Os oes gennych chi ragor o gwestiynau am gymwysterau Ymarfer a Theori CBAC, cysylltwch ag Amy Allen Thomas : Amy.Thomas@wjec.co.uk