Pwrpas y cymwysterau Ymarfer a’r defnydd o leoliadau i ddysgwyr - Lefel 2 & 3 IGC

Hoffem roi eglurder i gwsmeriaid ynghylch pwrpas y cymwysterau canlynol, ac yn benodol y defnydd o leoliadau ar gyfer dysgwyr sy’n cwblhau’r cymwysterau hynny:

  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)

Mae’r cymwysterau uchod yn datblygu gallu’r dysgwyr i gefnogi anghenion iechyd a gofal unigolion sy’n cael cymorth yn ymarferol.  Felly, mae’r cymwysterau’n seiliedig ar ymarfer ac mae’n asesu gwybodaeth ac ymarfer y dysgwyr.

Mae’r cymwysterau wedi’u cynllunio ar gyfer dysgwyr mewn lleoliadau dysgu seiliedig ar waith. Bydd y cymhwyster yn asesu gwybodaeth ac ymarfer dysgwyr drwy eu gwaith, ac ni all dysgwyr sydd angen lleoliad galwedigaethol eu cwblhau.

Pa opsiynau sydd ar gael i ddysgwyr nad ydynt yn gweithio yn y sector?

Gall dysgwyr sy’n dymuno datblygu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u sgiliau i baratoi ar gyfer cyflogaeth yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, neu i symud ymlaen i astudiaethau proffesiynol pellach, gwblhau sawl cymhwyster gwahanol fel a ganlyn:

  • Cymhwyster City & Guilds Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
  • CBAC Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau
  • CBAC TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant
  • CBAC Tystysgrif mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau
  • CBAC Diploma mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau
  • CBAC TAG Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant

Ein prif nod yw sicrhau cywirdeb a chadernid y cymwysterau a’u hasesiadau, a byddwn bob amser yn ceisio osgoi rhoi dysgwyr dan anfantais lle bo hynny’n bosibl.  Os ydych chi wedi cofrestru dysgwyr sy’n defnyddio lleoliadau i ennill y cymwysterau Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, cysylltwch â thîm Ansawdd HCLW ar unwaith er mwyn i ni fod yn gallu cytuno ar y camau nesaf.