Lefel 4 Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HSC) a Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (CCPLD)

Mae’n bleser gennym gadarnhau bod Cymwysterau Cymru wedi cymeradwyo ein diweddariadau arfaethedig i rai o dasgau asesu Lefel 4 City and Guilds.

  • Bydd y diweddariadau’n fyw o fis Medi 2024 ac yn ymdrin â’r asesiadau ar gyfer y cymwysterau canlynol:8040-08 Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • 8040-09 Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • 8041-16 Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli ym maes CCPLD
  • 8041-17 Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol ym maes CCPLD

Mae’r diweddariadau hyn yn amrywio yn dibynnu ar y cymhwyster ac maent yn gyffredin ar draws y pedwar cymhwyster a restrir uchod.

  • Cyflwyno ymgais i ail-wneud am y tro cyntaf, yn hytrach nag ail-wneud yr asesiad yn llawn (tasgau heb senarios yn unig)
  • Cyflwyno cyfrif geiriau bras

Creu pecyn i ymgeiswyr ar wahân gydag amlinelliad clir o’r meini prawf marcio, er mwyn sicrhau tryloywder i bob ymgeisydd o ran y meini prawf llwyddo disgwyliedig

Rydym wedi cyflwyno rhai newidiadau ychwanegol i’r ddau gymhwyster Lefel 4 CCPLD.  Mae’r rhain yn ymwneud â Thasgau 8041-16 A a B a 8041-17 Tasgau B ac C yn unig, ac maent yn cynnwys:

8041-16

  • Gorfodi’r prif feysydd ffocws drwy roi sylw i hyn yn Nhasg A(i)
  • Diwygio Tasg B(i) i ganolbwyntio ar o leiaf un o’r prif feysydd ffocws
  • Diwygio Tasg B(ii) i fod yn gyflwyniad a thrafodaeth am yr adroddiad gwerthuso a gynhyrchwyd yn Nhasg B(i)
  • Dileu’r cynllun prosiect (Tasg Bii gynt) fel darn o dystiolaeth asesu ar wahân

8041-17

  • Gorfodi’r prif feysydd ffocws drwy roi sylw i hyn yn Nhasg B(i).
  • Diwygio Tasg C(i) i ganolbwyntio ar o leiaf un o’r prif feysydd ffocws
  • Diwygio Tasg C(ii) i fod yn gyflwyniad a thrafodaeth am yr adroddiad gwerthuso a gynhyrchwyd yn Nhasg C(i)
  • Tasg Bresennol C(ii) fydd Tasg C(iii) ac mae'n parhau i gael ei hasesu'n fewnol

Pryd alla i gael gafael ar y fersiwn ddiweddaraf o wybodaeth asesu’r cymhwyster?

Mae fersiwn 2.0 o’r pecynnau asesu cymwysterau bellach ar gael ar dudalennau cymwysterau perthnasol gwefan HCLW:


Beth sydd angen i mi ei wneud os yw un o’m dysgwyr presennol eisiau newid i’r dull asesu diwygiedig?

8041-16/17 Gall Dysgwyr sydd wedi dechrau ar eu taith asesu yn barod ddewis o’r canlynol:

  • parhau â’r dull asesu gwreiddiol (a nodir yn Pro fel 405) NEU
  • newid i’r dull asesu diwygiedig (a nodir yn Pro fel 455)

Bydd angen i chi gysylltu’n uniongyrchol â @WelshQualifications i gadarnhau pa opsiwn asesu sydd wedi cael ei ddewis gan bob dysgwr CCPLD.


Beth sydd angen i mi ei wneud ar gyfer dysgwyr sydd wedi cofrestru a heb ddechrau ar eu taith asesu eto?

Bydd disgwyl i’r holl ddysgwyr newydd 8041-16/17 CCPLD nad ydynt eisoes wedi trefnu eu hasesiad allanol symud ymlaen yn awtomatig drwy’r dull asesu diwygiedig (a nodir yn Pro fel 455).

Os byddai’n well gan ddysgwr yn y grŵp hwn gwblhau’r asesiad 405 gwreiddiol, a fyddech cystal â chadarnhau hyn gyda’r adran @WelshQualifications. Nodwch y bydd angen i ni drosglwyddo unrhyw ddysgwr sydd wedi dewis yr opsiwn hwn.  Byddwn bob amser yn ceisio cyflawni’r trosglwyddiad hwn cyn gynted â phosibl.