Lefel 3 GCDDP: Ymarfer - Unedau dewisol ychwanegol newydd a chynnwys a chanllawiau wedi’u diweddaru ar gael nawr

Rydym yn falch o gadarnhau bod amrywiaeth o unedau ychwanegol newydd wedi cael eu hychwanegu at Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer Grŵp Dewisol B ac C.

Cafodd yr unedau newydd eu datblygu yn dilyn ymgynghoriad helaeth â’r sector, ac ar y cyd â Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Cafodd yr unedau eu hardystio fel y bo’n briodol gan y Pwyllgor Cymwysterau a Safonau, ac fe’u cymeradwywyd i’w defnyddio yn y cymhwyster gan Cymwysterau Cymru.

Rhestrir yr unedau newydd isod:

Grŵp Dewisol B:

  • 334: Hyrwyddo dealltwriaeth plant o gynaliadwyedd yn y blynyddoedd cynnar
  • 336: Hyrwyddo’r defnydd o dechnoleg ddigidol gyda phlant yn y blynyddoedd cynnar
  • 338: Hyrwyddo’r defnydd o amgylcheddau awyr agored ar gyfer twf, dysgu a datblygu yn y blynyddoedd cynnar
  • 339: Hyrwyddo cymorth i blant gael datblygu ymddygiad sy’n eu gwneud i werthfawrogi eu hunain
  • 337: Ymarfer sy’n ystyriol o drawma gyda phlant ac eraill

Grŵp Dewisol C:

  • 333: Sgiliau Astudio
  • 335: Datblygu sgiliau arwain o ran ymarfer mewn lleoliad blynyddoedd cynnar a gofal plant

Rydym hefyd wedi ychwanegu canllawiau cyflawni ychwanegol ar gyfer yr unedau canlynol:

  • 300: Hyrwyddo ymarfer craidd mewn gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant
  • 306: Hyrwyddo gwaith gyda phlant 3-7 oed
  • 309: Hyrwyddo a chefnogi lleferydd, iaith a chyfathrebu
  • 311: Cymorth i blant ag anghenion ychwanegol

Rydym wedi gwneud mân ddiwygiadau a newidiadau i’r cynnwys er mwyn gwneud y canlynol:

  • 309: Hyrwyddo a chefnogi lleferydd, iaith a chyfathrebu
  • 311: Cymorth i blant ag anghenion ychwanegol
  • 326: Cyflwyniad i ofal plant yn y cartref
  • 327: Paratoi ar gyfer ymarfer gwarchod plant

Mae’r holl newidiadau sydd wedi cael eu gwneud wedi’u rhestru yn y tabl rheoli fersiynau ar flaen dogfennau perthnasol y cymhwyster.

Gweld llawlyfr y cymhwyster

Dylid asesu’r holl unedau newydd drwy’r tasgau a osodwyd ymlaen llaw, ac mae’r unedau hyn ar gael i bob dysgwr sy’n cwblhau’r cymhwyster Ymarfer yn weithredol.

Cyn cefnogi dysgwyr i gwblhau unrhyw un o’r unedau ychwanegol hyn, rhaid i gwsmeriaid cymeradwy sicrhau yn gyntaf bod aseswyr yn gymwys yn alwedigaethol ac yn gallu asesu’r dysgwyr yn unol â’r galw am dasgau strwythuredig. Bydd rhaid i hyn gael ei gadarnhau gan eu Swyddog Sicrhau Ansawdd Allanol.

Dylid hefyd cyflwyno cynllun i ddatblygu hyder yr asesydd ac i gefnogi safoni effeithiol ac amserol i’r Swyddog Sicrhau Ansawdd Allanol cyn gynted â phosibl.

Rhaid i chi sicrhau bod eich dysgwyr a’ch timau cyflawni yn gallu cael gafael ar y fersiwn ddiweddaraf o ddeunyddiau a dogfennau’r cymhwyster. Mae’r rhain ar gael ar dudalen cymhwyster Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer (8041-15).

CBAC Lefel 3 Ymarfer a Theori Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

Cysylltwch â CBAC i gael cadarnhad ynghylch pryd y bydd yr unedau newydd ar gael o fewn strwythur y cymhwyster Ymarfer a Theori

Cynllunio yn y fan a’r lle

I ymateb i bryderon a godwyd gan ddarparwyr cymeradwy ynghylch cynllunio yn y fan a’r lle, rydym wedi gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru a Dechrau’n Deg i lunio canllawiau ychwanegol.  Mae’r canllaw hwn ar gael ar dudalen 14 Pecyn Asesu Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer (8041-15) ac mae’n cadarnhau sut y bydd cynllunio yn y fan a’r lle yn cael ei ymgorffori yn y broses asesu.

Dilysu tystiolaeth

Ni chaniateir defnyddio offer deallusrwydd artiffisial fel Chat GPT ar gyfer datblygu tystiolaeth portffolio.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’n canllaw diwygiedig ar dudalen 18 Pecyn Asesu Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer (8041-15)