Diolch i bawb a gysylltodd â ni ar ôl ein diweddariad ym mis Ionawr 2025 am ddysgwyr yn cwblhau asesiad 8041-16/17/90 405/455.
Ar ôl adolygu’r holl wybodaeth sydd ar gael, rydym yn ymestyn mynediad at asesiad 405 tan 31 Mawrth 2025. Dyma fydd y cyfle olaf i ddysgwyr gwblhau’r asesiad hwn. Ar ôl y dyddiad hwn, ni fydd yn bosibl cael estyniad pellach.
Rydym yn cymryd y cam hwn oherwydd ein bod yn hyderus bod ein tasgau 455 yn rhoi asesiad allanol mwy hygyrch sy’n grymuso dysgwyr ac yn cefnogi eu llwyddiant.
Rydym yn deall y bydd y dyddiad cau hwn yn effeithio’n wahanol ar ddysgwyr ar sail eu rhaglen astudio bresennol. I’ch helpu chi i arwain dysgwyr sy’n cwblhau 8041-16/17/90, rydym wedi creu dogfen Cwestiynau Cyffredin i’w helpu i baratoi.
Dysgwyr 8041-16 nad ydynt eto wedi cyflwyno eu Tasg A a’u Tasg B 8041-16 405.
Rhaid i’r dysgwyr hyn gyflwyno eu Tasg A a’u Tasg B wedi’u cwblhau i EPA PRO erbyn 31 Mawrth 2025 fan bellaf. Ni fyddwn yn gallu derbyn tystiolaeth ar gyfer y tasgau hyn ar ôl y dyddiad hwn.
Bydd dysgwyr nad ydynt yn gallu bodloni’r dyddiad cau hwn yn cael eu trosglwyddo’n awtomatig i’r cynllun asesu 455 newydd. Bydd angen i aseswyr mewnol sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cefnogi i baratoi ar gyfer y fersiynau wedi’u diweddaru o asesiadau (i) (ii) Tasg A a Thasg B, sy’n cynnwys adroddiad ysgrifenedig, a chyflwyniad i asesydd allanol a thrafodaeth gydag ef. Rhaid cynnal cyfarfod cynllunio gyda’r asesydd allanol ymhell cyn cyflwyno tystiolaeth ar gyfer y tasgau hyn.
Dysgwyr 8041-17 nad ydynt eto wedi cyflwyno eu hasesiadau Tasg B a Thasg C(i) 8041-17 405
Rhaid i’r dysgwyr hyn gyflwyno eu Tasgau wedi’u cwblhau i EPA PRO erbyn 31 Mawrth 2025 fan bellaf. Ni fyddwn yn gallu derbyn tystiolaeth ar gyfer y tasgau hyn ar ôl y dyddiad hwn.
Bydd dysgwyr nad ydynt yn gallu bodloni’r dyddiad cau hwn yn cael eu trosglwyddo’n awtomatig i’r cynllun asesu 455 newydd. Bydd angen i aseswyr mewnol sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cefnogi i baratoi ar gyfer y fersiynau wedi’u diweddaru o asesiadau (i) (ii) Tasg B a Thasg C, sy’n cynnwys adroddiad ysgrifenedig, a chyflwyniad i asesydd allanol a thrafodaeth gydag ef. Rhaid cynnal cyfarfod cynllunio gyda’r asesydd allanol ymhell cyn cyflwyno tystiolaeth ar gyfer y tasgau hyn.
Dysgwyr 8041-90 nad ydynt eto wedi cyflwyno tystiolaeth ar gyfer asesiad 405.
Rhaid i’r dysgwyr hyn gyflwyno eu Tasgau wedi’u cwblhau i EPA PRO erbyn 31 Mawrth 2025 fan bellaf. Ni fyddwn yn gallu derbyn tystiolaeth ar gyfer y tasgau hyn ar ôl y dyddiad hwn. Bydd dysgwyr nad ydynt yn gallu bodloni’r dyddiad cau hwn yn cael eu trosglwyddo’n awtomatig i’r cynllun asesu 455 newydd. Bydd angen i aseswyr mewnol sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cefnogi i baratoi ar gyfer y broses asesu allanol newydd, sy’n cynnwys adroddiad ysgrifenedig, a chyflwyniad i asesydd allanol a thrafodaeth gydag ef. Rhaid cynnal cyfarfod cynllunio gyda’r asesydd allanol ymhell cyn cyflwyno tystiolaeth ar gyfer y tasgau hyn.
A fydd fy nysgwr yn dal i allu hawlio cydnabyddiaeth am ddysgu blaenorol (RPL)?
Mae’r newidiadau i asesiad Uned 405 yn golygu y bydd RPL rhwng 8041-16 ac 8041-17 bellach yn cael ei ddarparu fel a ganlyn:
· Mae cwblhau 405 yn yr hen 8041-16 yn gyfystyr â’r -455 newydd
· Mae cwblhau 405 yn yr hen 8041-17 yn gyfystyr â’r -455 newydd AR YR AMOD bod yr asesiad ar gyfer uned 416, 417 neu 419 wedi cael ei gwblhau’n llwyddiannus.
· Bydd angen i ddysgwyr sy’n cwblhau’r hen 8041-90 lwyddo i gwblhau pob asesiad 8041-17 i symud ymlaen yn uniongyrchol i Dasg C 8041-16
Dysgwyr sy’n cwblhau’r hen 8041-90 sy’n ymgymryd ag asesiad allanol ar yr un pryd ar gyfer y ddau gymhwyster cydrannol
Bydd dysgwyr nad ydynt eto wedi llwyddo i gael Tasg D 8041-17, yn gallu parhau i hawlio RPL Tasg B 8041-17 i ddiwallu’r gofynion ar gyfer Tasg A 8041-16 (hen neu newydd), ond mae’n rhaid cwblhau gofynion lawn y dasg ar gyfer Tasg B 8041-16 (455).
Fel arall mae modd gohirio RPL i 8041-16 nes bod Tasg D 8041-17 wedi cael ei chwblhau’n llwyddiannus
Beth fydd yn ddisgwyliedig os bydd fy nysgwr yn cwblhau’r asesiad allanol ar gyfer 405 ond nad yw’n llwyddiannus?
Bydd disgwyl i ddysgwyr sy’n cyflwyno eu Tasg 405 i EPA PRO erbyn 31 Mawrth 2025 ond nad ydynt yn llwyddiannus, gwblhau’r asesiad 455 newydd, a bydd y broses asesu yn dilyn y gofynion newydd. Mae hyn yn golygu os bydd y dysgwyr wedyn yn methu 455 hefyd, byddant yn gallu ailsefyll yr asesiad hwnnw.
Os yw fy nysgwr eisoes wedi methu 405 ac yn paratoi i ailsefyll, a yw’n gallu newid i’r asesiadau 455?
Os nad yw eich dysgwr yn gallu cyflwyno ei dasgau ailsefyll 405 wedi’u cwblhau erbyn 31 Mawrth 2025, bydd yn cael ei drosglwyddo’n awtomatig i’r cynllun asesu 455 newydd.