Diweddaru’r llawlyfrau cymwysterau a chanllawiau asesu HSC, CC a CYP Lefel 2 a Lefel 3

Diweddariad pwysig: Diwygio cymwysterau Ymarfer

Hoffem ni dynnu eich sylw at newidiadau sydd wedi’u gwneud yn y canllawiau cyflwyno asesiadau (v2-0) a’r llawlyfrau cymwysterau canlynol ar gyfer y cymwysterau yn y rhestr isod.

Newidiadau i’r canllawiau ar gyfer cyflwyno asesiadau:

  • Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
  • Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
  • Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
  • Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
  • Lefel 2 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Oedolion
  • Lefel 3 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Oedolion
  • Lefel 3 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Plant a Phobl Ifanc

Newidiadau i’r llawlyfr cymwysterau:

  • Lefel 2 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Oedolion (v2-0)
  • Lefel 3 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Oedolion (v2-0)
  • Lefel 3 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Plant a Phobl Ifanc (v3-0)

Lefel 2/3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer ac Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cadarnhau parodrwydd dysgwyr ar gyfer cael eu hasesu: Oherwydd yr heriau parhaus sy’n wynebu’r sector yn ystod y cyfnod hwn, rydyn ni wedi penderfynu diwygio’r broses y mae’n rhaid i aseswyr ei dilyn wrth benderfynu a yw dysgwyr yn barod ar gyfer cael eu hasesu. 

Ceir amlinelliad o’r newidiadau hyn yn Adran 3 y canllawiau ar Gyflwyno’r Asesiadau.

Cymwysterau Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn unig

Yn dilyn ymgynghoriad eang â’r sector - ar y cyd â Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru, yn ogystal â chael cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Cymwysterau a Safonau - rydyn ni’n falch o gadarnhau bod amrediad o unedau ychwanegol wedi cael eu hychwanegu at Grŵp Dewisol A yn y cymwysterau canlynol:

  • Lefel 2 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Oedolion
  • Lefel 3 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Oedolion
  • Lefel 3 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Plant a Phobl Ifanc

Cyn cefnogi dysgwyr i gwblhau unrhyw un o’r unedau ychwanegol hyn, rhaid i ddarparwyr cymeradwy sicrhau yn gyntaf bod aseswyr yn gymwys yn alwedigaethol ac ar gael i asesu’r dysgwyr. Bydd rhaid i hyn gael ei gadarnhau gan eu Swyddog Sicrhau Ansawdd Allanol.

Dylid asesu’r holl unedau newydd drwy’r tasgau sydd wedi’u gosod ymlaen llaw. 

Mae’r holl newidiadau wedi cael eu rhestru yn y tabl rheoli fersiynau ar ddechrau’r llawlyfr cymwysterau, yn y pecynnau asesu cysylltiedig a/neu yn y canllawiau cyflwyno asesiadau. Mae’r rhain ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan HCLW. 

Rhaid i ddarparwyr cymeradwy sicrhau bod eu dysgwyr a’u timau cyflawni yn gallu cael gafael ar y fersiwn ddiweddaraf o ddeunyddiau a dogfennau’r cymhwyster.