Diweddariad pwysig: Diwygio cymwysterau Ymarfer
Hoffem ni dynnu eich sylw at newidiadau sydd wedi’u gwneud yn y canllawiau cyflwyno asesiadau (v2-0) a’r llawlyfrau cymwysterau canlynol ar gyfer y cymwysterau yn y rhestr isod.
Newidiadau i’r canllawiau ar gyfer cyflwyno asesiadau:
- Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
- Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
- Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
- Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
- Lefel 2 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Oedolion
- Lefel 3 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Oedolion
- Lefel 3 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Plant a Phobl Ifanc
Newidiadau i’r llawlyfr cymwysterau:
- Lefel 2 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Oedolion (v2-0)
- Lefel 3 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Oedolion (v2-0)
- Lefel 3 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Plant a Phobl Ifanc (v3-0)
Lefel 2/3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer ac Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cadarnhau parodrwydd dysgwyr ar gyfer cael eu hasesu: Oherwydd yr heriau parhaus sy’n wynebu’r sector yn ystod y cyfnod hwn, rydyn ni wedi penderfynu diwygio’r broses y mae’n rhaid i aseswyr ei dilyn wrth benderfynu a yw dysgwyr yn barod ar gyfer cael eu hasesu.
Ceir amlinelliad o’r newidiadau hyn yn Adran 3 y canllawiau ar Gyflwyno’r Asesiadau.
Cymwysterau Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn unig
Yn dilyn ymgynghoriad eang â’r sector - ar y cyd â Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru, yn ogystal â chael cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Cymwysterau a Safonau - rydyn ni’n falch o gadarnhau bod amrediad o unedau ychwanegol wedi cael eu hychwanegu at Grŵp Dewisol A yn y cymwysterau canlynol:
- Lefel 2 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Oedolion
- Lefel 3 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Oedolion
- Lefel 3 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Plant a Phobl Ifanc
Cyn cefnogi dysgwyr i gwblhau unrhyw un o’r unedau ychwanegol hyn, rhaid i ddarparwyr cymeradwy sicrhau yn gyntaf bod aseswyr yn gymwys yn alwedigaethol ac ar gael i asesu’r dysgwyr. Bydd rhaid i hyn gael ei gadarnhau gan eu Swyddog Sicrhau Ansawdd Allanol.
Dylid asesu’r holl unedau newydd drwy’r tasgau sydd wedi’u gosod ymlaen llaw.
Mae’r holl newidiadau wedi cael eu rhestru yn y tabl rheoli fersiynau ar ddechrau’r llawlyfr cymwysterau, yn y pecynnau asesu cysylltiedig a/neu yn y canllawiau cyflwyno asesiadau. Mae’r rhain ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan HCLW.
Rhaid i ddarparwyr cymeradwy sicrhau bod eu dysgwyr a’u timau cyflawni yn gallu cael gafael ar y fersiwn ddiweddaraf o ddeunyddiau a dogfennau’r cymhwyster.