Trefniadau ar gyfer asesu’r cymwysterau Craidd o 01 Ionawr 2024 ymlaen
Bydd dysgwyr sy’n barod i gael eu hasesu o 1 Ionawr 2024 ymlaen yn cael eu hasesu drwy gwestiynau amlddewis yn unig. Bydd elfen asesu mewnol (astudiaethau achos) o’r cymwysterau Craidd yn cael ei dileu’n barhaol o’r diwrnod hwn ymlaen.
Mae’r cwestiynau amlddewis bellach yn gyfrwng asesu cyfarwydd i ddysgwyr/canolfannau. Yn ystadegol, mae’r cwestiynau amlddewis a’r gwahanol fersiynau o’r prawf yn dangos dibynadwyedd cryf o ran canlyniadau (cyfraddau pasio cyson). Mae hyn yn rhoi hyder i ddysgwyr ynghylch dilysrwydd/dibynadwyedd y cwestiynau amlddewis fel cyfrwng asesu, ac yn rhoi’r gallu i ddysgwyr gael mynediad at y math hwn o asesiad. Bydd y newid parhaol hwn i’r strategaeth asesu yn lleihau’r baich asesu yn sylweddol ar ddarparwyr a dysgwyr.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd ardystio dysgwyr yn digwydd yn awtomatig, yn dilyn canlyniad llwyddiannus o’r cwestiynau amlddewis. Bydd hyn yn lleihau’r pwyslais ar y Swyddog Sicrhau Ansawdd Allanol gan alluogi cynnydd symlach ar yr un pryd.
Sylwch: pan fydd fersiwn newydd o’r asesiad ar gael, ni ellir cyhoeddi canlyniadau dysgwyr ar unwaith. Yn yr amgylchiadau hyn, efallai na fydd canlyniadau dysgwyr ar gael am hyd at 20 diwrnod er mwyn sicrhau ansawdd, ond byddant wedyn yn cael eu rhyddhau’n awtomatig.
Mae manylebau’r cymwysterau a’r pecynnau asesu wedi cael eu diweddaru erbyn hyn. Bydd unrhyw newidiadau’n cael eu rhestru yn y tabl rheoli fersiynau ar ddechrau’r llawlyfr cymwysterau ac mewn dogfennau a deunyddiau cysylltiedig eraill.
Rhaid i ddarparwyr cymeradwy sicrhau bod eu dysgwyr a’u timau cyflawni yn gallu cael gafael ar y fersiwn ddiweddaraf o lawlyfrau a phecynnau asesu’r cymwysterau, sydd ar gael yma.