Cymwysterau Ymarfer Lefel 2 a Lefel 3 City & Guilds - Hyd yr asesiad

Hoffem roi eglurhad pellach ynghylch hyd gofynnol yr asesiad ar gyfer y cymwysterau canlynol:

  • 8040-04 Lefel 2 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Oedolion
  • 8040-05 Lefel 3 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Oedolion
  • 8040-06 Lefel 3 Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Plant a Phobl Ifanc
  • 8041-13 Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
  • 8041-15 Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer

Yn ystod eu gweithgareddau samplu, bydd Swyddogion Sicrhau Ansawdd Allanol City & Guilds yn gofyn am sicrwydd bod y cyfnod asesu a nodir yn y pecynnau asesu yn cael ei gynnwys yn nhystiolaeth yr ymgeisydd.  Cyfeiriwch at y tabl isod i gael cadarnhad o’r cyfnodau hyn.

Sylwch fod y daith asesu crynodol yn dechrau ar ôl cyflawni canlyniad llwyddiannus o’r broses parodrwydd ar gyfer asesiad. Mae’r daith asesu crynodol yn cynnwys cwblhau pob agwedd ar y tasgau strwythuredig.

Nid yw arsylwadau aseswyr a gwblhawyd yn ystod y broses parodrwydd ar gyfer asesiad yn rhan o’r daith asesu crynodol, felly nid ydynt yn cyfrannu at y lleiafswm o bedwar arsylwad gan asesydd sy’n ymwneud â’r pedwar cynllun sy’n ofynnol gan y strategaeth asesu. 

Mae’r pedwar arsylwad asesu crynodol yn gysylltiedig â’r cynlluniau gweithgareddau a baratowyd gan yr ymgeisydd, a dylent geisio asesu eu hymarfer dros amser.  Mae hyn yn gofyn i’r gweithgareddau hyn beidio â chael eu cynnal gyda’i gilydd mewn un clwstwr o fewn cyfnod byr, ond yn hytrach eu bod yn cael eu cynnal dros sawl mis.  Bydd y dull hwn yn gwneud yn siŵr bod digon o amser i bwyso a mesur ymgeiswyr, i gwblhau hyfforddiant a/neu gymorth ychwanegol, ac i’r dasg derfynol gael ei chynllunio a’i chyflawni.

Os bydd amgylchiadau arbennig yn codi a allai effeithio ar daith asesu ymgeisydd, rhaid tynnu sylw’r Swyddog Sicrhau Ansawdd Allanol a thîm Ansawdd HCLW at hyn cyn gynted â phosibl, a chyn y gweithgaredd sicrhau ansawdd mewnol terfynol. 

Yn ystod y gweithgaredd samplu neu weithgareddau eraill, os bydd ein Swyddog Sicrhau Ansawdd Allanol yn nodi ymgeiswyr y mae eu cyfnod asesu wedi bod yn fyrrach na chyfnod asesu’r rheini y cyfeirir atynt yn y pecyn asesu perthnasol, bydd yr ymgeiswyr hyn yn cael eu hatgyfeirio at dîm Ansawdd HCLW, ac mae’n bosibl y bydd hyn yn effeithio ar eu hardystiad.

Gwnewch yn siŵr bod eich proses a’ch polisi sicrhau ansawdd mewnol yn cadarnhau bod y daith asesu ar gyfer pob ymgeisydd yn ddigonol, er mwyn sicrhau penderfyniad cymhwysedd diogel a dibynadwy, gan gynnwys pellter teithio.  Mae’n bosibl y bydd ardystiad ymgeiswyr nad ydynt wedi bodloni’r gofynion hyn yn cael eu hatgyfeirio ar gyfer ymchwiliad o dan ein polisi camymarfer.  

Rhif y cymhwyster

Teitl y cymhwyster

Hyd yr asesiad

8040-04

 

Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)

6-12 mis

8040-05

 

Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)

6-12 mis

8040-06

 

Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)

6-12 mis

8041-13

 

Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer

6 mis

8041-15

Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer

10 mis