Rydym wedi adolygu ein canllawiau sy’n ymwneud â hyd asesiadau ar gyfer rhai o’r tasgau asesu yn ein cymwysterau Lefel 4 a Lefel 5.
Bydd sicrhau dull safonedig o ymdrin â’r agwedd hon ar y broses asesu yn helpu i sicrhau bod ymgeiswyr yn cael profiad teg. Ni fydd hyn ond yn effeithio ar dasgau asesu mewn cymwysterau lle mae hyd asesu wedi'i neilltuo ar eu cyfer.
Beth ddylai ymgeiswyr ei ddisgwyl?
Wrth gyflwyno tasgau asesu i’r ymgeisydd, rhaid i Aseswyr Mewnol rannu gwybodaeth am hyd penodol y dasg a asesir. Lle bo’n berthnasol, mae’r rhain i’w gweld yn y cyfarwyddiadau ar gyfer tasgau asesu unigol.
Ar adeg yr asesiad, dylai’r asesydd (boed yn fewnol neu’n allanol) gadarnhau hyd datganedig yr asesiad, gan gynnwys sut y gellir rhannu hyn ar gyfer gwahanol elfennau e.e. 15 munud ar gyfer y cyflwyniad ac yna 5-10 munud ar gyfer cwestiynau.
Pa ddisgresiwn gan yr asesydd?
Os yw cyrhaeddir diwedd yr hyd a ganiateir ar gyfer yr asesiad a bod yr ymgeisydd ar ganol brawddeg, caniateir i’r aseswyr ychwanegu 10% at yr amser yn ôl eu disgresiwn, er mwyn i’r ymgeisydd allu gorffen ei bwynt.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n poeni y bydd fy ymgeisydd yn ei chael hi’n anodd cwblhau’r asesiad o fewn yr amser a neilltuwyd?
Os gellir darparu’r dystiolaeth o angen sy’n ofynnol, gellir gofyn am amser ychwanegol gan ddefnyddio ein proses – Mynediad i asesu.
Os na ellir darparu tystiolaeth o angen, ni fydd modd ymestyn hyd yr asesiad.
Ar gyfer pa dasgau asesu y mae hyd asesu yn berthnasol?