Cylchlythyr Medi 2022: TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant (Gradd Unigol a Dwyradd)

Gobeithio eich bod wedi cael cyfle i ymlacio dros yr haf a'ch bod chi a'ch myfyrwyr yn barod ar gyfer y tymor newydd.

Mae gennym rywfaint o ddiweddariadau cyffredinol  a phwnc-benodol a allai fod eu hangen arnoch wrth i chi ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd hon:

Trefniadau ar gyfer Haf 2023

Unedau a Asesir yn allanol 1 a 3

Fel y cyhoeddodd   Cymwysterau Cymru ym mis Mai 2022, bydd CBAC yn darparu Gwybodaeth Ymlaen Llaw ar gyfer asesiadau allanol ysgrifenedig. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei rhyddhau yn nhymor y gwanwyn ac yn dilyn fformat tebyg iawn i gyfresi blaenorol. I ailadrodd, mae'r Wybodaeth Ymlaen Llaw er mwyn helpu  dysgwyr i ganolbwyntio wrth adolygu, gyda'r nod o ymdrin â holl gynnwys y fanyleb wrth addysgu a dysgu'r unedau hyn a asesir yn allanol.

Unedau 2 a 4 a asesir yn fewnol

Nid yw'r addasiadau a gyhoeddwyd ar gyfer Haf 2022 bellach yn gymwys i'r unedau hyn. Mae Uned 2 bellach yn cynnwys ail dasg yn ogystal â dychwelyd i'r amser asesu llawn a argymhellir. Ar gyfer Uned 4 disgwylir i bob un o’r is-bwyntiau bwled gael ei gynnwys, a bydd yr amser a argymhellir ar gyfer yr asesiad yn dychwelyd i 25 awr.

Adnoddau

Rydym wedi cynhyrchu rhai adnoddau ychwanegol nad ydych efallai wedi eu gweld.

(i) Gellir prynu gwerslyfrau i ymgeiswyr, sy'n ymdrin â’r fanyleb lawn ar lein ar Amazon:

  • Unedau 1 a 2 yma
  • Unedau 3 a 4 yma

Mae llyfrau athrawon sy'n ymdrin â’r fanyleb gyfan hefyd ar gael ar-lein.

(ii) Mewngofnodwch i Wefan Ddiogel CBAC i gael mynediad i'r holl adnoddau DPP blaenorol. Yma gallwch weld llawer o ddeunyddiau cefnogi ychwanegol sydd wedi'u llunio i helpu athrawon wrth iddyn nhw gyflwyno'r cymhwyster.

(iii) Arweiniad i'r Arholiad yn ymwneud ag Arholiadau ac Asesiadau Di-arholiad– Ysgrifennwyd y rhain gan Swyddogion Pwnc, Uwch Arholwyr ac Uwch Gymedrolwyr. Wedi'u hanelu at ddysgwyr, mae'r deunyddiau hyn yn cynnig syniadau ac awgrymiadau ymarferol ar sut i fynd ati'n effeithiol i ymdrin â chwestiynau mewn papurau arholiad a pharatoi ar gyfer asesiadau di-arholiad. Bydd y cyflwyniadau PPT gyda chymorth sain  a sgript sain yn y nodiadau yn tywys dysgwyr drwy bapur arholiad ffug, gan eu helpu i adolygu ac ymarfer technegau arholiad defnyddiol a darparu canllaw cam wrth gam i baratoi a chyflwyno gwaith asesiad di-arholiad. Gall dysgwyr ei gwblhau mewn un sesiwn, meistroli un neu ddau o gwestiynau ar y tro, neu ailedrych ar rai rhannau o'r cyflwyniad er mwyn atgyfnerthu'r hyn a ddysgwyd.

(iiii) Trefnwyr Gwybodaeth – defnyddiol iawn ar gyfer cyflwyno cynnwys neu adolygu i ddysgwyr, neu fel man cychwyn defnyddiol i athrawon greu eu trefnwyr gwybodaeth eu hunain.

Dysgu Proffesiynol

Rydym yn falch iawn o fod yn cynnig diwrnod llawn wyneb yn wyneb DPP yn Hydref 2022, a bydd y rhain yn sesiynau rhyngweithiol dan arweiniad arbenigwyr. Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi i gyd wyneb yn wyneb (neu ar-lein) a gallu rhoi adborth i chi ar gyfres 2022, tynnu sylw at yr arfer da rydyn ni wedi'i weld a'ch cynghori ar gyflwyno, marcio asesiadau a rhannu adnoddau. Hefyd, mae opsiwn arall ar-lein i'r rhai sydd yn ffafrio'r cyfrwng hwn neu sy'n methu â mynychu'r sesiynau wyneb yn wyneb.

Mae bosibl cadw lle ar y wefan yn awr

Cyfres Haf 2022 – Mae adroddiadau'r Uwch Arholwyr/Uwch gymedrolwyr bellach ar gael ar-lein, ac rydym yn argymell yn gryf eich bod yn darllen y rhain yn ofalus (ac mae adroddiadau eich canolfan ar gael ar ddiwrnod y canlyniadau) gan eu bod yn cynnig arsylwadau a sylwebaeth ddefnyddiol ar berfformiad ymgeiswyr y gyfres hon a allai helpu dysgwyr y dyfodol i symud ymlaen.

 

Mwynhewch y tymor ac edrychwn ymlaen at weld rhai ohonoch, wyneb yn wyneb, yn DPP.

Karen Bushell
Swyddog Pwnc

Hilary Wyman
Swyddog Cefnogaeth Pwnc