Uned 1 – Hybu iechyd a llesiant drwy gydol camau bywyd
Fel y cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ym mis Mai 2022, bydd CBAC yn darparu Gwybodaeth Ymlaen Llaw ar gyfer yr asesiadau allanol ysgrifenedig fel y gwnaethom ym mis Ionawr 2022 a haf 2022. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei rhyddhau yn nhymor yr hydref ar gyfer arholiadau Ionawr ac yn nhymor y gwanwyn ar gyfer arholiadau'r haf. Byddant ar ffurf debyg iawn i'r fersiynau blaenorol. Argymhellwn o hyd eich bod yn addysgu holl gynnwys yr unedau hyn a bod unrhyw wybodaeth ymlaen llaw yn fodd o helpu i ganolbwyntio gwaith adolygu dysgwyr yn unig.
Uned 2 – Iechyd a gofal cymdeithasol mewn perthynas â chefnogi darpariaeth sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ar gyfer gofal person-ganolog
Noder yr asesir Aseiniad 1 ac Aseiniad 2 yn 2022.
https://resources.wjec.co.uk/Pages/ResourceSingle.aspx?rIid=4128&langChange=cy-GB
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eich gweld chi wyneb yn wyneb (neu ar-lein) a gallu rhoi adborth i chi ar gyfres 2022, tynnu sylw at yr ymarfer da rydym wedi'i weld a'ch cynghori o ran cyflwyno'r cwrs, marcio asesiadau, rhannu adnoddau ac ati.
Mae'n bosibl bwcio ar-lein yn awr.
https://www.dysguiechydagofal.cymru/cyrsiau-a-digwyddiadau/
Noder os gwelwch yn dda y bydd Karen Bushell yn cymryd drosodd fel Swyddog Pwnc y cymhwyster hwn o 1af Medi 2022.
Hilary Wyman fydd swyddog cefnogi'r pwnc o hyd.
Cysylltwch â ni yn: HSCandCC@wjec.co.uk