Ysgrifennwn i’ch hysbysu y bydd ychydig o oedi cyn cyhoeddi’r briffiau asesu byw ar gyfer unedau asesu di-arholiad y gyfres o gymwysterau Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau. Mae hyn oherwydd amgylchiadau na chawsant eu rhagweld.
Ar gyfer 2023/24, cyhoeddir briffiau’r unedau canlynol ar y wefan ddiogel o ddydd Gwener 29 Medi 2023:
- 4973N1 Egwyddorion gofal ac ymarfer diogel o fewn gofal person-ganolog sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau
- 4973N4 Deall sut mae cyflyrau cyffredin yn effeithio ar y corff dynol
- 4973N5 Cefnogi unigolion sydd mewn perygl i gyflawni’r canlyniadau maen nhw’n dymuno eu cael
- 4973N8 Cefnogi iechyd a llesiant oedolion yng Nghymru i sicrhau canlyniadau cadarnhaol
Er y bydd y briffiau asesu fel arfer yn cael eu cyhoeddi ar y dydd Llun cyntaf ym mis Medi, ni ddylai ymgeiswyr wneud unrhyw ymgais ar yr asesiad tan y bydd yr holl addysgu a dysgu sy’n berthnasol i’r uned benodol wedi’i gwblhau. Ni ddylai’r oedi o ran cyhoeddi’r briffiau hyn effeithio felly ar unrhyw weithgareddau addysgu a dysgu a gynlluniwyd.
Mae deunyddiau asesu enghreifftiol ar gael i gefnogi athrawon wrth iddynt baratoi eu dysgwyr i’w hasesu. Sylwer, mae rhai o’r deunyddiau asesu enghreifftiol ar wefan dysgu iechyd a gofal Cymru yn cynnwys fersiwn dalfyredig o’r cynllun marcio, gyda chynnwys dangosol a fyddai’n cynnig modelau o atebion ar gyfer tasgau gosod. Mae modd cael mynediad at asesiadau enghreifftiol gan gynnwys y cynllun marcio llawn o wefan ddiogel CBAC.