Yn ein diweddariad diwethaf, fe wnaethom rannu gwybodaeth am y newidiadau rydym wedi’u gwneud i’n cymwysterau HCLW Lefel 4 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HSC) a Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (CCPLD). Yn y neges honno, gwnaethom eich annog i gysylltu â thîm Cymwysterau Cymru City & Guilds i gadarnhau pa asesiadau roedd eich dysgwyr CCPLD Lefel 4 yn bwriadu eu cwblhau. Diolch yn fawr i’r rheini ohonoch sydd eisoes wedi bod mewn cysylltiad.
Ar sail ein gohebiaeth a’r adborth gan y cwsmeriaid hyn, rydym yn bwriadu diwygio ein canllawiau cychwynnol.
Sut gallwch chi ein helpu i roi profiad cadarnhaol i’ch dysgwyr
Mae’n bwysig iawn eich bod yn rhannu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani am lwybr asesu dewisol eich dysgwyr gyda’n tîm Cymwysterau Cymru cyn gynted â phosibl er mwyn i ni allu sicrhau bod eich dysgwyr yn cael profiad cadarnhaol yn ystod eu taith asesu.
Os nad ydych chi wedi gwneud hynny’n barod, cysylltwch â’n tîm Cymwysterau Cymru gan nodi’r llwybr asesu dewisol ar gyfer pob dysgwr CCPLD Lefel 4 a gofrestrwyd cyn mis Medi 2024 ac sydd heb gwblhau eu cydran asesu allanol.
Bydd hyn yn cynnwys dysgwyr sydd:
(a) Wedi trefnu eu hasesiad allanol ac ar fin cyflwyno tystiolaeth cyn bo hir
(b) Heb drefnu eu hasesiad, ond yn bwriadu cwblhau’r gydran asesu 405
E: WelshQualifications@cityandguilds.com
Yn ogystal â’r uchod, ychwanegwch ddewisiadau asesu’r dysgwr at y blwch Gwybodaeth Ychwanegol yn yr adran Gateway ar Pro.
Dylai dysgwyr a gofrestrwyd cyn mis Medi 2024, ac sy’n dymuno cwblhau’r gydran 405, baratoi ar gyfer yr asesiad allanol erbyn diwedd mis Ionawr 2025. Gwnewch bopeth o fewn eich gallu i gefnogi eich dysgwyr i gyrraedd y dyddiad cau hwn.
Gallwn fod yn hyblyg gydag amgylchiadau lliniarol mewn cysylltiad â dysgwyr sy’n anweithgar ar hyn o bryd, ond gwnewch yn siŵr eich bod wedi diweddaru proffil y dysgwr ar Pro i nodi ei statws presennol.
Os nad ydych chi’n siŵr sut mae diweddaru proffil eich dysgwr ar Pro, cysylltwch â ni a gallwn drefnu bod ein tîm Datrysiadau Digidol yn cynnig cymorth.