Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer
Lefel 5Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau o fewn 30 milltir i'ch lleoliad. Ceisiwch eto gan ddefnyddio cod post arall i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?
Cymhwyster sy'n seiliedig ar ymarfer yw hwn i'r sawl sydd â phrofiad o arwain neu reoli yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy'n bodloni gofynion rheoleiddiol ychwanegol sy'n berthnasol i rai lleoliadau gwaith.
Mae'n addas ar gyfer dysgwyr sydd:
- am ddangos y cymwyseddau a nodir yn y cymhwyster fel rhan o rôl eu swydd, sydd hefyd yn bodloni unrhyw reoliadau o ran isafswm oedran yn y lleoliad gwaith
- wedi cwblhau cymhwyster Lefel 4 Arwain a Rheoli priodol, sy'n cael y cyfle i roi'r hyn maent wedi'i ddysgu ar waith, a bodloni unrhyw ofynion rheoleiddiol ychwanegol
Mae'r cymhwyster Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer yn cynnwys yr unedau gorfodol canlynol:
- Arwain a rheoli ymarfer person/plentyn-ganolog
- Arwain a rheoli perfformiad tîm effeithiol
- Arwain a rheoli ansawdd y ddarpariaeth gwasanaethau er mwyn bodloni gofynion deddfwriaethol, rheoleiddiol a sefydliadol
- Ymarfer proffesiynol
- Arwain a rheoli ymarfer sy'n hyrwyddo diogelu unigolion
- Arwain a rheoli iechyd a diogelwch yn y lleoliad gwaith
Mae ystod o unedau dewisol ar gael.
Er mwyn cyflawni'r cymhwyster Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer, rhaid i ddysgwyr ennill cyfanswm o 120 o gredydau o leiaf.
- Rhaid ennill 20 o gredydau o grŵp Gorfodol A
- Rhaid ennill 70 o gredydau o grŵp Gorfodol B
- Rhaid ennill o leiaf 30 o gredydau o'r grŵp Dewisol
Lefel 5 Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer caiff yr asesiad ei asesu'n allanol.
Rhaid i ddysgwyr gwblhau'r canlynol yn llwyddiannus:
- portffolio o dystiolaeth
- project busnes
- trafodaeth broffesiynol
Mae'r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i wella eu cyfleoedd cyflogaeth neu i barhau ag astudiaethau pellach ar lefel uwch.
Cysylltwch â ni
Dysgwyr/Canolfannau Newydd
hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930801
Canolfannau Presennol
hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930800
Fel rhan o gymwysterau Lefel 4 a 5 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant bydd angen i bob dysgwr gwblhau Asesiad Allanol. I wneud hyn, bydd angen i'r dysgwyr gofrestru ar lwyfan Pro, yn hytrach na Walled Garden.
Rydym wedi datblygu fideo ‘Getting Started with Pro’ i’ch cynghori chi sut mae creu defnyddwyr ar lwyfan Pro, yn ogystal â sut mae cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymwysterau hyn.
Mae rhagor o ddeunyddiau cymorth ar gael yn Pro o dan y tab Cymwysterau Cymru ac os oes gennych chi ragor o gwestiynau am hyn, anfonwch e-bost at: hclw.customer@cityandguilds.com
Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.
Digwyddiad | Cyswllt |
---|---|
Gweminar - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Cliciwch yma i weld |
Cyflwyniad PDF - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Cliciwch yma i weld |
Holi ac ateb - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Cliciwch yma i weld |
Gweminar - Rhwydwaith y Gaeaf: Cyfres o Gymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 | Cliciwch yma i weld |
Cyflwyniad PDF - Rhwydwaith y Gaeaf: Cyfres o Gymwysterau Lefel 4 a Lefel 5 | Cliciwch yma i weld |
Fel rhan o gymwysterau Lefel 4 a 5 Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant bydd angen i bob dysgwr gwblhau Asesiad Allanol. I wneud hyn, bydd angen i'r dysgwyr gofrestru ar lwyfan Pro, yn hytrach na Walled Garden.
Rydym wedi datblygu fideo ‘Getting Started with Pro’ i’ch cynghori chi sut mae creu defnyddwyr ar lwyfan Pro, yn ogystal â sut mae cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymwysterau hyn.
Mae rhagor o ddeunyddiau cymorth ar gael yn Pro o dan y tab Cymwysterau Cymru ac os oes gennych chi ragor o gwestiynau am hyn, anfonwch e-bost at: hclw.customer@cityandguilds.com