Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
Lefel 3Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau o fewn 30 milltir i'ch lleoliad. Ceisiwch eto gan ddefnyddio cod post arall i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.
Trosolwg o’r cymhwyster
Mae’r cymhwyster wedi ei selio ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth y dysgwyr a chymhwysedd i ymarfer mewn cyflogaeth. Mae’n darparu’r cyfle i gyfoethogi gwybodaeth a sgiliau gan ddefnyddio cynnwys hanfodol ac unedau opsiynol mewn lleoliadau sy’n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc, megis gofal yn y cartref neu ofal preswyl i blant, canolfannau preswyl i deuluoedd neu ofal maeth a lleoliadau gofal iechyd yn y gymuned. Yn bennaf, bydd dysgwyr yn gallu dangos eu bod yn gallu:
- deall, ac ymroi yn ymarferol, egwyddorion a gwerthoedd sydd wrth wraidd iechyd a gofal cymdeithasol
- deall, ac ymroi yn ymarferol, dulliau plentyn canolog
- hybu a chefnogi ymarfer effeithiol mewn iechyd a gofal cymdeithasol
- bod yn ymwybodol o bolisiau allweddol o fewn y sector a deall sut mae’r rhain yn effeithio ar ddatblygiad a darpariaeth y wasanaeth
- gweithio mewn partneriaeth â phlant, eu teuluoedd/cynhalwyr ac amrywiaeth o bobl broffesiynol
- dangos amrywiaeth o dechnegau datrys problemau
- myfyrio ar ymarfer i wella trwy’r amser
- defnyddio llythrenedd, rhifedd a sgiliau cymhwysedd digidol fel sy’n briodol yn eu rôl.
Does dim modd cwblhau’r cymhwyster hwn wrth gyflawni lleoliad gwaith. Mae dysgwyr angen bod yn darparu cefnogaeth i blant a phobl ifanc mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol neu ofal iechyd yn y gymuned.
Mae’n addas ar gyfer:
- dysgwyr sydd wedi eu cyflogi ar hyn o bryd mewn lleoliadau megis gofal cartref neu ofal preswyl i blant, canolfannau preswyl i deuluoedd neu ofal maeth neu leoliadau gofal iechyd yn y gymuned
- dysgwyr sydd wedi cwblhau un o’r cymwysterau canlynol:
- Lefel 2 Diploma mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol
- Lefel 2 Iechyd a gofal Cymdeithasol: Craidd
- Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
- Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau
- Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd
- Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
- Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
- TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
- Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer.
Mae’n argymelledig bod dysgwyr yn cwblhau’r cymhwyster craidd cyn, neu ochr yn ochr â’r Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc) achos bydd hwn yn ofyniad ar gyfer ymarfer sydd wedi ei osod gan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae hefyd yn rhan o’r Brentisiaeth Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru).
Mae cynnwys hanfodol y cymhwyster yn ymochrol â’r themau allweddol y Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac yn cynnwys:
- Egwyddorion ac ymarfer (plant a phobl ifanc)
- Iechyd a lles (plant a phobl ifanc)
- Ymarfer proffesiynol
- diogelu
- iechyd a diogelwch
- amrywiaeth o feysydd ymarfer megis gweithio gyda theuluoedd a chynhalwyr neu blant sy’n derbyn gofal
Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys uned hanfodol unigol ac amrywiaeth o unedau opsiynol sy’n adlewyrchu’r wybodaeth a sgiliau sydd eu hangen wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth a gyda’u teuluoedd.
I gwblhau’r cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc) mae dysgwyr angen cyflawni isafswm o 50 credyd:
- 18 credyd angen eu cwblhau o’r uned hanfodol
- Isafswm o 32 credyd angen eu dewis o gyfres o unedau opsiynol sy’n cynnwys unedau sydd ar gefnogaeth uniongyrchol a gofal iechyd
Mae’r dysgwr angen cwblhau:
- portffolio o dystiolaeth sy’n cynnwys arsylwi uniongyrchol o ymarfer
- tasgau sydd wedi eu llunio’n allanol a’u hasesu’n fewnol
Wrth gwblhau’r cymhwyster mi fydd yn galluogi’r dysgwyr i weithio mewn gofal iechyd a gofal cymdeithasol fel gweithiwr Lefel 3 cymwysedig gyda phlant a phobl ifanc.
Bydd hefyd o gymorth i ddysgwyr ceisio am gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel gweithiwr gofal cymdeithasol mewn gofal preswyl i blant neu ofal cartref oni bai eu bod yn cyrraedd unrhyw ofynion cofrestru ychwanegol. Am wybodaeth bellach ewch i
https://socialcare.wales/registration
Mae’r cymhwyster yn darparu’r wybodaeth a chymhwysedd priodol ar gyfer ymarfer ac yn paratoi’r dysgwyr i symud ymlaen at:
- Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Lefel 4 Paratoi am Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Tystysgrifau mewn Addysg Uwch
Cymwysterau eraill efallai bydd o ddiddordeb yw: - Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
- TGAU Uwch a TGAU Atodol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant.
- Lefel 3 Tystysgrif a Diploma mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyddestunau
- Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
Cysylltwch â ni
Dysgwyr/Canolfannau Newydd
hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930801
Canolfannau Presennol
hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930800
Diweddaru’r llawlyfrau cymwysterau a chanllawiau asesu HSC, CC a CYP Lefel 2 a Lefel 3. Darllenwch mwy
Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.
Digwyddiad | Cyswllt |
---|---|
Rhwydwaith Gwanwyn 2022: Adnoddau Cynllunio, Arsylwi ac Adfyfyrio | Cliciwch yma i weld |
Gweminar - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Cliciwch yma i weld |
Cyflwyniad PDF - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Cliciwch yma i weld |
Holi ac ateb - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Cliciwch yma i weld |