Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
Lefel 3Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau o fewn 30 milltir i'ch lleoliad. Ceisiwch eto gan ddefnyddio cod post arall i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.
Trosolwg o’r cymhwyster
Mae’r cymhwyster wedi selio ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth a chymhwysedd i ymarfer mewn cyflogaeth y dysgwyr. Mae’n darparu’r cyfle i gyfoethogi gwybodaeth a sgiliau gan ddefnyddio cynnwys gorfodol ac unedau opsiynol. Bydd hwn o ddiddordeb i weithio mewn gwasanaethau cymorth cartref, gofal preswyl, darpariaeth anabledd dysgu yn cynnwys gwasanaethau gofal iechyd yn y gymuned. Yn bennaf, bydd dysgwyr yn gallu dangos eu bod yn gallu:
- Deall, ac ymroi yn ymarferol, egwyddorion a gwerthoedd sydd wrth wraidd iechyd a gofal cymdeithasol
- Deall, ac ymroi yn ymarferol, dulliau person canolog
- Hybu a chefnogi ymarfer effeithiol o fewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Yn ymwybodol o bolisiau allweddol o fewn y sector a deall sut mae’r rhain yn effeithio ar wasanaeth sy’n datblygu ac yn trosglwyddo
- Gweithio mewn partneriaeth ag unigolion, eu teuluoedd, gofalwyr ac amrywiaeth o bobl broffesiynol
- Dangos amrywiaeth o dechnegau datrys problemau
- Myfyrio ar ymarfer i wella trwy’r amser
- Defnyddio llythrenedd, rhifedd a sgiliau cymhwysedd digidol fel sy’n briodol o fewn ei rôl
Mae’r cymhwyster ar gyfer unigolion sydd wedi eu cyflogi mewn lleoliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol sydd ar gyfer oedolion a gall cael ei ddarparu trwy ddysgu seiliedig ar waith neu goleg addysg bellach. Mae disgwyl bydd gan y dysgwyr ymreolaeth i ryw raddau yn ei rôl ac yn cefnogi eraill i ddarparu gofal o’r safon uchaf.
Mae’n addas ar gyfer:
- Dysgwyr sydd wedi cwblhau’r cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd.
- Dysgwyr sydd wedi cwblhau’r cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
- Dysgwyr sydd wedi cwblhau cymwysterau priodol sydd wedi eu cynnwys ar Fframwaith y Cymwysterau ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant rheoledig yng Nghymru gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Nodwch: Does dim modd cwblhau’r cymhwyster wrth gyflawni lleoliad gwaith
Mae cynnwys hanfodol y cymhwyster yn ymochrol i’r themau allweddol sydd yn y Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac yn cynnwys:
- Egwyddorion ac ymarfer
- diogelu
- iechyd a diogelwch
- iechyd a lles
- ymarfer proffesiynol
Mae’r cymhwyster yn cynnwys uned orfodol ac ystod o unedau opsiynol sydd wedi cysylltu â mathau penodol o gefnogaeth neu leoliadau iechyd a gofal
I gwblhau’r cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion) mae dysgwyr angen cyflawni isafswm o 50 credyd;
- 18 credyd angen eu cwblhau o’r uned orfodol
- isafswm 32 credyd i’w dewis o’r gyfres o unedau opsiynol sy’n cynnwys unedau ar gefnogaeth uniongyrchol a gofal iechyd
Mae’r dysgwr angen cwblhau:
- portffolio o dystiolaeth sy’n cynnwys arsylwad uniongyrchol o ymarfer
- tasgau sydd wedi eu llunio’n allanol a’u hasesu’n fewnol
Wrth gwblhau’r cymhwyster mi fydd yn galluogi dysgwyr i weithio gyda mwy o ymreolaeth a chyfrifoldeb fel gweithiwr Gofal Uwch Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol cymwysedig, gyda ffocws ar oedolion sydd dan fygythiad neu sydd mewn angen.
Bydd hefyd o gymorth i ddysgwyr sydd angen cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel Gweithiwr Gofal Uwch, ond bydd angen cyflawni gofynion cofrestru eraill. Am ragor o fanylion ewch i: https://socialcare.wales/registration
Mae’r cymhwyster yn darparu’r wybodaeth briodol a chymhwysedd ymarfer a chefnogi dysgwyr i symud ymlaen at:
- Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Lefel 4 Paratoi am Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Cymwysterau eraill bydd efallai o ddiddordeb yw:
- Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
- TGAU Uwch a TGAU Atodol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant.
- Lefel 3 Tystysgrif a Diploma mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau (Oedolion, Plant a Phobl Ifanc)
Cysylltwch â ni
Dysgwyr/Canolfannau Newydd
hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930801
Canolfannau Presennol
hclw.customer@cityandguilds.com
01924 930800
Diweddaru’r llawlyfrau cymwysterau a chanllawiau asesu HSC, CC a CYP Lefel 2 a Lefel 3. Darllenwch mwy
Ewch i'n tudalen Cyrsiau a Digwyddiadau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol a chyfleoedd dysgu ar gyfer y cymhwyster hwn.
Digwyddiad | Cyswllt |
---|---|
Rhwydwaith Gwanwyn 2022: Adnoddau Cynllunio, Arsylwi ac Adfyfyrio | Cliciwch yma i weld |
Gweminar - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Cliciwch yma i weld |
Cyflwyniad PDF - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Cliciwch yma i weld |
Holi ac ateb - Mesurau Lliniaru Covid-19 Cam 3: Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Cliciwch yma i weld |
Gweminar - Cyfres Rhwydwaith y Gwanwyn (2021) | Cliciwch yma i weld |
Cyflwyniad PDF - Cyfres Rhwydwaith y Gwanwyn (2021) | Cliciwch yma i weld |