Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyddestunau (Asesu am y tro cyntaf 2024)
Lefel 3Defnyddiwch y blwch uchod i ddod o hyd i ganolfan yn eich ardal chi
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ganolfannau o fewn 30 milltir i'ch lleoliad. Ceisiwch eto gan ddefnyddio cod post arall i ddod o hyd i'ch canolfan agosaf.
Ar gyfer pwy mae'r cymwysterau?
Bydd y cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau wedi'u hanelu at ddysgwyr ôl-16 sy'n awyddus i ddysgu mwy am y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'r cymwysterau yn cynnig llwybr dilyniant addas ar gyfer dysgwyr sydd wedi astudio cymwysterau Lefel 2 ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant, yn cynnwys:
- Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau
- TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant
- Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd, neu
- Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd.
Maen nhw hefyd yn addas ar gyfer dysgwyr nad ydyn nhw wedi astudio Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn flaenorol ond sydd â'r gallu i astudio ar Lefel 3.
Mae'r cymwysterau yn galluogi dysgwyr i feithrin a dangos eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u dealltwriaeth o fewn cyd-destun gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau y mae gofyn i ddysgwr eu cyflawni yn rhan o'r cymwysterau hyn yn adeiladu ar gynnwys y cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd. Argymhellir yn gryf bod dysgwr sy'n ymgymryd â'r naill gymhwyster neu'r llall wedi cwblhau neu wrthi'n cwblhau'r cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd.
Yn ôl gofynion Gofal Cymdeithasol Cymru bydd angen i unigolyn sy'n gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol gael y cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd a chymhwyster Ymarfer perthnasol i weithio mewn rolau swyddi penodol.
Sylwer: mae angen i ddysgwyr fod mewn cyflogaeth os ydyn nhw'n ymgymryd â chymwysterau Ymarfer ar lefel 2 a 3.
Er mwyn cwblhau'r cymhwyster Diploma a Diploma Estynedig, mae'n ofynnol i ddysgwyr ymgysylltu â'r sector am o leiaf 100 awr, y mae'n rhaid treulio 60 awr ohonynt yn ymgymryd â lleoliad gwaith.
Anogir canolfannau i sicrhau, lle y bo'n bosibl, bod dysgwyr yn cael profiad o ddau leoliad o leiaf yn ystod y cyfnod ymgysylltu â'r sector.
Mae’r fanyleb hon yn cynnig sylfaen addas ar gyfer astudio iechyd a gofal cymdeithasol drwy amrywiaeth o gyrsiau addysg uwch, neu brentisiaethau. Gall dysgwyr hefyd fynd ymlaen i ddilyn cymwysterau eraill ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant, er enghraifft cymwysterau Lefel 2 a Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer.
Yn ogystal, mae'r fanyleb hon yn cynnig cwrs astudio sy'n gydlynol, yn foddhaol ac yn werth chweil i'r dysgwyr hynny nad ydynt yn symud ymlaen i astudio ymhellach yn y pwnc hwn.
Datblygwyd y cymhwyster hwn gan y Consortiwm ar y cyd â rhanddeiliaid o'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Yr oedd y rhain yn cynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru y GIG, tiwtoriaid, athrawon ac aseswyr gweithleoedd.
Cysylltwch â ni
Susanne Allcroft
Swyddog Pwnc
hscpandc@wjec.co.uk
029 2240 4264
Emma Vaughan
Swyddog Cefnogaeth Pwnc
IGCEaCh@cbac.co.uk
029 2240 4264